Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr Caerdydd i arddangos syniadau gofal iechyd

21 Tachwedd 2022

Mae myfyrwyr Caerdydd nad ydynt o gefndiroedd gofal iechyd ond sydd â syniadau disglair ynghylch gwell gofal iechyd yn cael eu gwahodd i ymuno â rhaglen arloesedd clinigol.

Mae rhaglen Learn 2 Innovate yn chwilio am fyfyrwyr o gyrsiau gan gynnwys busnes, cyfrifiadureg, gwyddor data a pheirianneg, i helpu i ddatblygu atebion clinigol yfory.

Mae cyfranogwyr, sydd angen llenwi ffurflen gais, yn cael rhannu eu harloesedd clinigol mewn arddangosfa ar ddiwedd y flwyddyn, gyda'r enillwyr yn cipio gwobr ariannol o £1000 i ddod â'u syniad arloesi yn fyw.

Ar ôl treulio’r flwyddyn ar raglen Learn 2 Innovate, bu myfyrwyr o nifer o raddau gwahanol gan gynnwys gofal iechyd, cyfrifiadureg a pheirianneg feddygol yn cystadlu â’i gilydd i gyflwyno eu syniadau gerbron panel o feirniaid arbenigol dros yr haf.

Enillydd Gwobr Arloeswyr sy’n Fyfyrwyr Learn 2 Innovate: y Dasg Arloesi ar y Cyd ar draws Prifysgolion oedd Under Pressure, sef tîm dan arweiniad Frank Davis, myfyriwr meddygol yn y bedwaredd flwyddyn o Brifysgol Caerdydd.

Dywedodd Frank: “Mae’r rhaglen Learn 2 Innovate wedi bod yn eithriadol drwy gydol y flwyddyn. Cawson ni ddarlithoedd diddorol a llawn gwybodaeth drwy gydol y flwyddyn gan fusnesau newydd bach a phobl busnes o feysydd technoleg feddygol tra amlwg.

"Fe'i trefnwyd yn wych, ac rwy'n gwybod fy mod i'n siarad ar ran yr holl garfan pan dwi'n dweud ein bod i gyd wedi teimlo'n hynod ddiolchgar ac wedi ein hysbrydoli i allu gwrando a pigo ymennydd pobl ddylanwadol dros ben.

“Ym mhob grŵp cafwyd syniad arloesol a phryfoclyd; mae hyn yn dangos bod pob myfyriwr wedi rhoi o’u gorau i’r rhaglen hon, drwy gydol yr amser. Roedd fy ngrŵp yn teimlo cryn fraint o fod wedi’u henwi’n enillwyr ac mae cymryd rhan yn y rhaglen hon wedi rhoi’r hyder inni barhau i ddatblygu ein syniad arloesi.” Diolch yn fawr iawn i Alexander Coombs am greu a chyflwyno'r rhaglen hon".

Sefydlwyd rhaglen Learn 2 Innovate gan y myfyriwr meddygol o Gaerdydd bryd hynny, Alexander Coombs, wedi iddo orffen ei radd ymsang yng Ngholeg Imperial Llundain.

“Tra fy mod i’n astudio yn y Coleg Imperial roeddwn i’n ffodus o ddysgu rhagor am arloesedd ym maes gofal iechyd, a hynny’n sgîl astudio ar gyfer fy ngradd arloesedd ym maes llawfeddygaeth yn ogystal â bod yn rhan o dîm a ddyfeisiodd ap olrhain cysylltiadau. Roedd nifer o gyfleoedd ar gael i fyfyrwyr y Coleg Imperial ac roeddwn i eisiau dod â’r hyn roeddwn i wedi’i ddysgu’n ôl i Gaerdydd.

"Fe sefydlais y rhaglen Innovate Learn 2, sef rhaglen draws-brifysgol, traws-gyfadran, blwyddyn o hyd, sy'n ceisio ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr i fod yn arloeswyr ym maes gofal iechyd yn y dyfodol. Rydyn ni wedi bod yn hynod o ffodus o ran safon y siaradwyr a’r mentoriaid ar y rhaglen, a diolch i’n myfyrwyr a’n partneriaid hynod o gefnogol, tîm INSPIRE a Chanolfan Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd, fe fu hi’n flwyddyn gyntaf lwyddiannus.

Dyma a ddywedodd un o feirniaid y panel, Dr Fiona Brennan, anesthetydd ymgynghorol sy’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae i arloesedd clinigol ran allweddol yn y gwaith o foderneiddio a datblygu’r GIG yn y dyfodol. A minnau’n aelod o Dîm Iechyd Gwyrdd Cymru, rwy’n awyddus i hyrwyddo gofal iechyd arloesol, ac roedd arddangosfa heddiw yn ddosbarth meistr o ran sut i ddyfeisio, datblygu a chyflwyno syniadau rhagorol newydd.”

Ar y panel roedd Barbara Coles, Rheolwr Prosiectau, Accelerate Cymru; yr Athro Keith Harding, cyn-Ddeon Arloesedd Clinigol, Prifysgol Caerdydd; Yr Athro Jonathon Gray, Cyfarwyddwr Arloesedd a Gwelliant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Dr Avi Mehra, Cyd-sylfaenydd, Doctorpreneurs.

I gael rhagor o fanylion am Learn 2 Innovate, cysylltwch â: learn2innovateprogramme@gmail.com

Rhannu’r stori hon