Ewch i’r prif gynnwys

Tri o fyfyrwyr disgleiriaf yr UDA yn dewis Prifysgol Caerdydd yn rhan o ysgoloriaethau clodfawr

8 Mawrth 2023

Dynes yn edrych ar y camera ac yn gwenu
Myya Helm Llun: Liliana Farabaugh

Mae tri o fyfyrwyr disgleiriaf yr UDA wedi dewis dilyn ysgoloriaethau rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Myya Helm, myfyrwraig MA mewn Hanes a Hanes Cymru a Daniel Dominguez, sy'n astudio MSc mewn Cyfrifiadura, yn ysgolheigion Marshall. Mae John Glover, sy'n astudio MA mewn Hanes, ar ysgoloriaeth Fulbright.

Mae Ysgoloriaethau Marshall yn ariannu Americanwyr ifanc deallus i astudio yn y Deyrnas Unedig. Dewisir hyd at 50 o ysgolheigion bob blwyddyn i astudio ar lefel raddedig mewn sefydliad yn y DU mewn unrhyw faes astudio.

Gall dinasyddion yr Unol Daleithiau wneud cais am ysgoloriaeth Prifysgol Fulbright-Caerdydd, sy'n cael ei chynnig bob blwyddyn academaidd.

Dywedodd Myya, a fagwyd yn West Virginia: “Cefais Ysgoloriaeth Marshall i astudio hanes pobl dduon, pwnc sy’n bwysig yn bersonol i mi, ac un rwy’n angerddol iawn amdano. Cynigiodd Prifysgol Caerdydd y cyfle unigryw i mi gynnal ymchwil hanesyddol ar lowyr Du yng nghymunedau glo West Virginia a De Cymru, ac rwy’n gyffrous i gwrdd ag eraill sydd â straeon tebyg a gweld i ble mae fy mhrosiect yn fy arwain.

"Fe wnes i astudio Gwyddor Wleidyddol ac Astudiaethau Rhyngwladol yn yr Unol Daleithiau, felly mae dod yma i gynnal ymchwil hanesyddol wedi bod yn newid enfawr. Fodd bynnag, rwyf wrth fy modd o gael y rhyddid i astudio yn union yr hyn yr wyf am ei astudio. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ddilyn pwnc sy’n fy ysgogi i godi o’r gwely bob bore, er gwaethaf y ffaith nad yw’n rhan o’r cwricwlwm academaidd traddodiadol. Mae fy nghwrs a’m goruchwylwyr wedi fy annog i herio fy hun yn ddeallusol er mwyn i fi barhau i amrywio fy sgiliau.”

Gwasanaethodd Daniel yng Nghorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau, a’i swydd olaf oedd helpu i drwsio'r Hofrenyddion Arlywyddol, cyn dechrau ar radd israddedig. Treuliodd flwyddyn gyntaf ei ysgoloriaeth Marshall dwy flynedd yn Glasgow. Dyma a ddywedodd: “Dechreuais ymddiddori yn y rhaglen Gyfrifiadura ym Mhrifysgol Caerdydd tra’n hunanfyfyrio, a phenderfynais mai datblygu sgiliau technegol ar gyfer fy mhrosiectau ymchwil yn y dyfodol oedd y defnydd gorau o’m hail flwyddyn yn Ysgolor Marshall.

"Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda grŵp amrywiol o fyfyrwyr. Yn ogystal, mae'n ymddangos bod y cwrs trosi wedi denu pobl o gryn dipyn o gefndiroedd; hyd yn hyn, rwyf wedi cyfarfod â phobl sy’n creu ffilmiau, entrepreneuriaid, a gwyddonwyr eraill, i gyd yn dilyn yr un nod o ennill sgiliau technegol gwerthfawr.”

Dywedodd John, sy’n hanu o Tennessee: "Rydw i wedi dod i werthfawrogi fy amser yng Nghaerdydd yn fawr. Mae fy rhaglen wedi rhoi'r cyfle i mi ymchwilio'n ddwfn i hanes Prydain a Chymru, gan fforddio'r ymdeimlad o gael profiad rhyngwladol manwl. Rydw i wedi mwynhau’r cyfeillgarwch yn fy rhaglen MA, a threulio amser gyda chyd-fyfyrwyr o fy nghwrs mewn siopau coffi ar y campws ac yng nghanol y ddinas.

“Mae’r sgiliau symudol y mae hanes yn eu dysgu, gan gynnwys ymchwil ac ysgrifennu, yn trosglwyddo’n uniongyrchol i’r gyfraith, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu’r sgiliau yn ysgol y gyfraith yng Nghaerdydd. Rwy'n bwriadu arbenigo mewn cyfraith droseddol yna gobeithio gweithio ym maes amddiffyn troseddol er budd y cyhoedd.”

Rhannu’r stori hon

Dysgwch mwy am adnoddau Undeb y Myfyrwyr, y chwaraeon a'r cymdeithasau sy'n rhan o'n cymuned Prifysgol lewyrchus. (Nodwch mae'r fideo ar gael yn Saesneg yn unig)