Ewch i’r prif gynnwys

Creu ffordd newydd o weithio i feithrin sgiliau seiberddiogelwch yng Nghymru

29 Mawrth 2023

Dr Nia Evans o PwC, a chwaraeodd ran hanfodol yn y gwaith o ddatblygu ein cwrs meistr rhagorol ar seiberddiogelwch a thechnoleg, yn ymuno â’r Brifysgol yn Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus.

Dr Nia Evans, Uwch-ddarlithydd er Anrhydedd.

Yn PwC yng Nghymru, mae cwrs meistr Prifysgol Caerdydd ar seiberddiogelwch a thechnoleg ar yr agenda bob wythnos. Mae Dr Nia Evans, un o Arbenigwyr Seiberddiogelwch y cwmni a helpodd i greu’r cwrs ac sydd bellach yn Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodaeth, yn neilltuo cyfran sylweddol o’i hwythnos i ysgrifennu, cyflwyno ac adolygu’r modiwlau er mwyn dod â phersbectif diwydiannol parhaus i’r cwrs.

“Fel y gwyddom, mae bwlch sgiliau enfawr nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU. Byddem yn awgrymu 50 o swyddi i bob person sy'n gymwys i'w cymryd,” eglura Dr Evans. “Yn PwC, roeddem yn rhoi hyfforddiant yn fewnol cyn i’r cwrs meistr fod ar gael, ond mae’r cwrs hwn wedi newid y drefn, a bob blwyddyn, mae’n well fyth.”

Cafodd y cwrs meistr ei lansio yn 2021, a chadarnhawyd y bydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn noddi 45 o fyfyrwyr yn llawn dros dair blynedd. Mae’r 15 o fyfyrwyr cyntaf wedi cwblhau’r cwrs. Mae 15 o fyfyrwyr eraill wrthi’n gwneud y cwrs, ac mae 15 o fyfyrwyr pellach wedi’u gwahodd i ymgeisio i wneud y cwrs, a hynny yn y labordai addysgu ac ymchwil arbennig yn adeilad Abacws y Brifysgol, sy’n werth £39m. Mae'r Brifysgol wedi’i chydnabod yn Ganolfan Ragoriaeth Academaidd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ym Mhencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU, ac mae’r cwrs meistr eisoes wedi ennill gwobr Cwrs Academaidd Gorau, a hynny yng Ngwobrau FinTech y llynedd.

“Yma yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, mae Dr Evans yn dod â rhywbeth arbennig iawn i’r cwrs ôl-radd hwn a’r myfyrwyr sy’n ei wneud,” eglura Dr Yulia Cherdantseva, sy’n arwain y cwrs. “Mae’n dod â phersbectif diwydiannol hanfodol a gwerthfawr – yn cynnig cipolwg uniongyrchol ar yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad – sy’n golygu bod y myfyrwyr wedi cael y wybodaeth fwyaf perthnasol wrth iddynt bontio o fyd addysg i fyd gwaith.”

Mae gradd doethuriaeth Nia Evans mewn nodi bygythiadau parhaus uwch-dechnolegol ym maes amddiffyn rhwydweithiau cyfrifiadurol. Mae’n un o uwch reolwyr Tîm Hacio Moesegol PwC ac yn arwain hyfforddiant ar seiberddiogelwch yn y cwmni.

“Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn ffordd anarferol gyda’r diwydiant ar y cwrs hwn,” meddai. “Mae digonedd o gwmnïau sydd am helpu i gefnogi cyrsiau academaidd, ond nid yw ymweliad unwaith yn y pedwar amser â phrifysgol bob amser yn ddigon yn y byd hwn sy’n newid yn gyflym. Mae’r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd wedi creu cysylltiad mwy uniongyrchol rhwng ei waith a’r diwydiant, ac rwy’n meddwl ei fod yn fodel ar gyfer y dyfodol.”

Sut mae'r cwrs yn gweithio?

Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno gan ymchwilwyr seiberddiogelwch o’r radd flaenaf ac ymarferwyr yn y diwydiant. Mae’n cyfuno theori (sy’n sicrhau dealltwriaeth gadarn ymhlith y myfyrwyr o dechnolegau sylfaenol, eu gwendidau, a sut y gellir eu hamddiffyn yn effeithlon) ag elfen ymarferol sylweddol.

Yn fwy penodol, mae’n addysgu technegau fel dadansoddi traffig rhwydwaith, casglu gwybodaeth am rwydwaith, sganio pyrth, segmentu rhwydwaith, atal ymosodiadau chwistrellu, atal ymosodiadau cyffredin ar raglenni gwe (ymosodiadau chwistrellu, sgriptio ar draws gwefannau a ffugio cais ar draws gwefannau) a ffurfweddu amgylcheddau TG cwmwl yn ddiogel. Mae’r myfyrwyr yn dysgu sut i wneud ymchwiliadau a dadansoddiadau fforenseg ddigidol a rhwydwaith drwy ddefnyddio offer fforensig modern a phecynnau meddalwedd. Mae hefyd yn tanlinellu’r ffactorau dynol sy'n effeithio ar seiberddiogelwch, materion preifatrwydd, a deddfwriaeth a rheoliadau seiberddiogelwch.

Pa fudd y mae’r myfyrwyr yn ei gael ohono?

“Roeddwn wedi arbenigo mewn seiberddiogelwch wrth astudio Cyfrifiadureg yn yr Ysgol,” meddai Ellis Doran. “Roedd yn bosibl i mi wneud ymchwil ddyfnach ar y cwrs hwn. Er enghraifft, roeddwn yn ymchwilio i wendidau diogelwch posibl plygiau clyfar. Oherwydd y cwrs gwych hwn, rwy’n astudio ar gyfer PhD yn yr Ysgol sy’n rhoi sylw i systemau amddiffyn awtomataidd ar gyfer technoleg weithredol.”

Oherwydd y cwrs meistr, llwyddodd Esther Pearson i sicrhau swydd i raddedigion ym maes seiberddiogelwch yn Airbus, Casnewydd. “Mae’r cwrs yn heriol, ond roeddwn wrth fy modd mewn dim amser o gwbl,” meddai Esther. Cefais fy ysbrydoli, heb os nac oni bai. Roedd yn anodd gennyf gredu bod hyn yn rhywbeth y gallwn ei wneud bob dydd o fy mywyd. Er i mi astudio seiberddiogelwch yn fyfyriwr israddedig, roedd manylder y cwrs meistr, a oedd yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol mewn pynciau fel fforenseg, meddalwedd faleisus a chryptograffeg yn arbennig iawn. Mae gennych gyfle i wneud ymchwil ar y cyd â phartneriaid yn y diwydiant a goruchwyliwr yn y Brifysgol, ac mae ymchwilwyr seiberddiogelwch a gydnabyddir yn rhyngwladol i’w cael yn yr Ysgol. Oherwydd y cwrs hwn, mae gennyf swydd wych yn rhywle lle rwyf wrth fy modd yn gweithio.”

“Mae’r rhaglen hon yn mynd i’r afael â phrinder sgiliau, a bydd yn helpu i ddatblygu’r clwstwr seiberddiogelwch sy’n dod i’r amlwg yn y rhanbarth hwn drwy feithrin a chadw’r dalent seiberddiogelwch orau yng Nghymru,” meddai Dr Cherdantseva. “Mae busnesau ledled y DU yn dechrau gweld y bygythiad a bod angen iddynt ddod yn fwy gwydn. Bydd y rhai sy’n gorffen y cwrs hwn yn arbenigwyr yn y maes yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod hynny’n digwydd ac yn ysgogi cwmnïau seiberddiogelwch newydd i ddod i’r amlwg yng Nghymru neu adleoli i Gymru.”

Os hoffech gael gwybod rhagor am y lleoedd olaf ar y cwrs hwn a bod gennych radd 2:1 (neu uwch) mewn Cyfrifiadureg neu ddisgyblaeth gysylltiedig, cysylltwch â Dr Cherdantseva drwy ebostio cherdantsevayv@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon