Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth yn meithrin rhagoriaeth ym maes Seiberddiogelwch sy'n Canolbwyntio ar Bobl

10 Hydref 2022

Professor Colin Riordan signs the Airbus Centre of Excellence agreement

Cydnabyddiaeth ffurfiol i bartneriaeth yng Nghymru sy'n dod o hyd i atebion i fygythiadau dynol i seiberddiogelwch.

Mae Canolfan Ragoriaeth Airbus ym maes Seiberddiogelwch sy'n Canolbwyntio ar Bobl ym Mhrifysgol Caerdydd yn bartneriaeth aml-haenog dan arweiniad y cawr technoleg byd-eang, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Gan fynd i'r afael â seiberddiogelwch mewn modd cyfannol sy'n cyfuno dadansoddiad o effaith pobl ag arbenigedd technegol, ffurfioli'r Ganolfan yw'r garreg filltir ddiweddaraf mewn cyfeillgarwch hir a chynhyrchiol rhwng Prifysgol Caerdydd ac Airbus.

Wrth siarad yn nigwyddiad llofnodi'r bartneriaeth strategol dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae seiber yn faes allweddol o ran twf a gallwn ymfalchïo wrth ddweud bod gan Gymru un o ecosystemau seiberddiogelwch mwyaf y DU ac un o'r cryfaf yn Ewrop. Bydd Canolfan Ragoriaeth Airbus mewn Seiberddiogelwch Dynol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cryfhau ein clwstwr seiber ymhellach, ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r prosiect hwn drwy raglen Endeavr. Gyda lwc, bydd yn helpu i gynnal ein syniadau, yn gwarchod ein rhwydweithiau TG, ac yn diogelu ein seilwaith digidol cenedlaethol rhag ymosodiadau seiber."

Dywedodd Dr Kevin Jones, Prif Swyddog Diogelu Gwybodaeth y Grŵp yn Airbus: "Ar hyd y daith, rydym wedi meithrin perthynas, ymddiriedaeth a dull cydweithio sy'n hanfodol bwysig. Yn y bôn, mae ein cydweithio yn ymwneud â rhannu gwybodaeth, trosglwyddo sgiliau ac ymddiriedaeth. Mae'n golygu y gallwn ddod ag arferion gorau a'r wybodaeth ymchwil ddiweddaraf i ddiwydiant am yr hyn rydyn ni'n ei gyflawni bob dydd."

Dywedodd Kellie Beirne, Prif Swyddog Gweithredol, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Mae'r bartneriaeth wedi mynd o nerth i nerth. Mae ymchwil gan y bartneriaeth wedi ysgogi buddsoddiad ychwanegol o tua £25m mewn gweithgaredd yn y dyfodol, gan sicrhau mai'r rhanbarth a Chymru fydd cartref Airbus yn y tymor hir. Mae'n ased gwych i’w werthu ar lwyfan byd-eang."

Dyma ddywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn adeiladu ar seiliau cryf. Lansiwyd Canolfan Ragoriaeth Airbus mewn Seiberddiogelwch yn 2017, dan arweiniad yr Athro Pete Burnap yn gweithio gyda'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, a chafodd ei chydnabod yn Ganolfan Ragoriaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol yn 2018. Mae lansio Canolfan Ragoriaeth Airbus mewn Seiberddiogelwch Dynol, dan arweiniad yr Athro Phil Morgan, yn canolbwyntio ar bobl, gan ddod o hyd i atebion i weithredoedd dynol sy'n aml y ddolen wanaf yn y gadwyn seiberddiogelwch."

Meddai'r Athro Phillip Morgan, Grŵp Ymchwil Rhagoriaeth Ffactorau Dynol, Ysgol Seicoleg. sy'n arwain Canolfan Ragoriaeth Airbus mewn Seiberddiogelwch sy'n Canolbwyntio ar Bobl: "Optimeiddio pobl yw'r allwedd i seiberddiogelwch. Er bod gennym y caledwedd a'r feddalwedd orau, o bosibl, fe wnaethom sylweddoli bod rhaid gwneud rhagor ar y ffactorau sy'n ymwneud yn benodol â phobl ym maes seiberddiogelwch, mewn diwydiant, mewn gweithleoedd. Fe wnaethom gydnabod hefyd bod seiberddiogelwch di-dor yn amhosibl oni bai ein bod yn ystyried pobl yn gywir, ac mae hyn wedi arwain at ddatblygu rhaglen ymchwil uchelgeisiol sy'n parhau i dyfu gyda chymorth y Ganolfan."

Bu'r digwyddiad hefyd yn dathlu cydnabyddiaeth Prifysgol Caerdydd fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch. Mae'r Brifysgol wedi ennill statws Gwobr Aur gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC), rhan o GCHQ.

Mae Caerdydd bellach yn un o ddim ond pedair Prifysgol ymchwil-ddwys Grŵp Russell yn y DU sydd â statws ACE-CSE at ddibenion addysg a statws ACE-CSR yn sgil ei gwaith ym maes Ymchwil Seiberddiogelwch.

Dywedodd Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, a Chyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth bresennol Airbus mewn Dadansoddeg, Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd, fod y tîm addysgu yn gweithio'n ddiflino i ddatblygu rhaglenni sy'n sicrhau bod cwmnïau'n cyflogi graddedigion sydd â'r sgiliau seiberddiogelwch technegol angenrheidiol.

"Rwyf wrth fy modd ein bod yn cryfhau ein perthynas ag Airbus o ran ymchwil mewn seiberddiogelwch a yrrir gan ddeallusrwydd artiffisial, gan gyflwyno elfen newydd o amgylch seiberddiogelwch sy'n canolbwyntio ar bobl. Mae'r ffaith bod hyn yn cael ei arwain gan yr Ysgol Seicoleg yn enghraifft wirioneddol o gydweithio rhyngddisgyblaethol. Mae hyn yn hanfodol wrth i ni ddatblygu dyfodol newydd digidol ac awtomataidd – dim ond un cyfle y cawn ni i wneud hyn yn y ffordd gywir i gymdeithas. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn benodol at ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol i wella sgiliau pobl leol i yrfaoedd seiber drwy gynnal gweithgarwch DPP blaengar sydd wedi’i deilwra i anghenion cyflogwyr,” meddai’r Athro Burnap.

“Gan mai ni yw’r brifysgol sy’n arwain Canolfan Arloesedd Seiber Cymru gwerth £13.8m, ein nod yw sicrhau bod y rhanbarth yn creu’r talent parod angenrheidiol sy’n denu busnesau i’r ardal ac yn creu dros 25 o gwmnïau seiber newydd, yn ogystal â gwella a mireinio sgiliau seiberddiogelwch ymarferol dros 1,500 o bobl leol."

Ychwanegodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Sgiliau a Thwf Seiber yn NCSC, “Tyst i ymdrechion parhaus academyddion, staff cymorth ac uwch-reolwyr yw’r ffaith bod seiberddiogelwch yn parhau’n uchel ar agenda Prifysgol Caerdydd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Chaerdydd dros y blynyddoedd nesaf ac yn annog prifysgolion eraill i weithio tuag at sicrhau cydnabyddiaeth debyg yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.