Ewch i’r prif gynnwys

Chwaraeon perfformiad a chlybiau

Gyda thraddodiad hir o ragoriaeth chwaraeon ar draws nifer o feysydd, rydym yn cynnig y cymorth angenrheidiol i fyfyrwyr sy'n athletwyr talentog i ragori yn eu maes.

Rhaglenni perfformiad

Student netball player

Mae ein rhaglenni cefnogaeth gynhwysol yn helpu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i gyrraedd eu potensial chwaraeon llawn. Mae’r rhaglen yn darparu athletwyr elît gydag adnoddau a chefnogaeth i helpu gwneud y gorau o’u perfformiad chwaraeon; o reoli ffordd o fyw, paratoadau ffisegol ar gyfer chwaraeon a seicoleg chwaraeon, i’r potensial am wobr ariannol.

Dysgwch mwy am ein Rhaglenni Perfformiad Uchel

Clybiau chwaraeon

Volleyball

Mae ein myfyrwyr yn gallu cymryd rhan mewn dros 60 o glybiau chwaraeon; o chwaraeon traddodiadol fel rygbi, pêl-droed, criced neu denis i grefftau ymladd, chwaraeon moduro a chwaraeon ddŵr.

Mae nifer o glybiau'n teithio i bob rhan o'r DU i gystadlu yn erbyn prifysgolion eraill yng nghystadleuaeth Chwaraeon Prifysgol a Cholegau Prydain.

Pori clybiau chwaraeon myfyrwyr

Gemau Mewn Golegol (IMG)

Gemau Mewn Colegol (IMG) yw cynghreiriau chwaraeon hamdden, hwyl a chystadleuol i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Caerdydd. Creu tîm eich hun gyda'ch ffrindiau cwrs neu fflat a ymunwch unrhyw un o'n cynghreiriau canlynol. Fel arall, ymunwch ag un o'r tîmau ysgolion a chymdeithasau sefydledig sydd bob amser yn croesawu chwaraewyr newydd!

  • Pêl-rwyd IMG
  • Pêl-droed (7-yr-ochr) IMG
  • Pêl-droed (11-yr-ochr) IMG

Gyda dros 100 o dîmau ysgolion a thîmau chymdeithasau i ddewis o'u plith mae IMG yn darparu myfyrwyr gyda chyfleoedd cyfranogiad beth bynnag profiad chwarae blaenorol. Mae IMG yn hynod o boblogaidd ac yn rhan fywiog o brofiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Nid yn unig mae IMG yn darparu cyfranogiad a chystadleuaeth chwaraeon ond hefyd cyfleoedd i gymdeithasu, mynychu digwyddiadau a gwneud ffrindiau!

Dysgwch fwy amdan Gemau Mewn Colegol (IMG) neu i ymuno eich tîm cysylltwch â img@caerdydd.ac.uk.