Ewch i’r prif gynnwys

Meysydd Chwarae

Mae'r maes chwaraeon helaeth hwn yn darparu caeau chwaraeon synthetig o ansawdd uchel ac ystafelloedd newid, ystafelloedd cyfarfod ac arlwyo i fyfyrwyr, staff a defnyddwyr allanol/cymunedol.

Defnyddio cyfleusterau

CyfleusterPris
Hanner cae chwarae 3G artiffisial (fesul awr)£75
Cae chwarae 3G artiffisial llawn (fesul awr)£100
Cae chwarae 3G artiffisial llawn (fesul diwrnod)Cysylltwch am bris
Ystafell gyfarfod (fesul awr)£40

Cwblhaodd Chwaraeon Prifysgol Caerdydd osod ei gaeau chwaraeon synthetig newydd ym mis Rhagfyr 2022. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys:

  • 3 x cae pêl-droed 3G (wedi'u hachredu gan FIFA)
  • 2 x cae rygbi 3G (wedi'u hachredu gan Rygbi'r Byd)
  • 1 x cae hoci/lacrosse wedi'i orchuddio â thywod (wedi'i achredu gan FIH)
  • 1 x cae pêl-droed Americanaidd 3G
  • Mae llifoleuadau ar yr holl gaeau synthetig
  • 20 x ystafell newid
  • Ystafell gyfarfod tîm gydag offer clyweledol
  • Gofod arlwyo/lolfa
  • Gofod digwyddiadau awyr agored
  • Lleoedd parcio i dros 400

Cadw cyfleuster neu le mewn dosbarth/sesiwn

Dylid cadw lle trwy gysylltu â'r derbynfa. Mae defnyddio cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol yn amodol ar delerau ac amodau.

Derbynfa caeau chwarae

Caeau Chwarae Prifysgol Caerdydd, Heol Mendip, Llanrhymni, CF3 4JN

Caeau Chwarae Prifysgol Caerdydd (ar Google Maps)

Oriau agor

Mae’r cyfleuster ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 21:00, a rhwng 09:00 ac 18:00 ar y penwythnos. Gall yr oriau agor amrywio yn ystod yr haf yn amodol ar yr hyn sydd wedi’i drefnu/nifer y lleoedd sydd wedi’u cadw.

Mae'r cyfleuster ar gau ar wyliau banc.

Mynediad

Mae cyfleusterau parcio da ar gyfer ceir a bysiau ar y safle hwn. Serch hynny, ar yr ychydig achlysuron pan fydd cystadlaethau mawr i fyfyrwyr yn cael eu cynnal, gall fod diffyg lleoedd parcio.

Dylid nodi bod y cyfleuster wedi'i leoli mewn ardal breswyl a bod gofyn i bob defnyddiwr ddangos gofal ac ystyriaeth wrth barcio yn yr ardaloedd cyfagos.