Ewch i’r prif gynnwys

Pentref Hyfforddiant Chwaraeon

Mae'r Pentref Hyfforddiant Chwaraeon yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon awyr agored â llifoleuadau ac yn cynnal gweithgareddau chwaraeon dan do.

Defnyddio’r cyfleusterau

Cyfleuster awyr agoredPris
Cae artiffisial llawn (hoci)£100
Hanner cae artiffisial (hoci)£75
Cwrt pêl-rwyd awyr agored£29
Cae Chwarae 3G Artiffisial 7 pob ochr (rygbi, pêl-droed, frisbee)£65
Cwrt tenis awyr agored £12
Cyfleuster o dan doPris
Neuadd Chwaraeon£80
Cwrt Chwaraeon (Pêl-droed, Pêl-rwyd, Pêl-fasged, Pêl-foli)£53
Gweithgaredd cwrt bach (sboncen, badminton, tenis bwrdd)£12
Rhwydi criced£45

Ystafelloedd newid

Mae ystafelloedd newid yn rhad ac am ddim i aelodau neu £1.50 fesul tro. Mae’n bosibl llogi’r ystafelloedd newid cyfan.

Cadw Lle

Gellir cadw lle ar gyfer y sesiynau ffitrwydd a’r cyrtiau amrywiol ymlaen llaw trwy ein ap Chwaraeon.

Cysylltwch â'r dderbynfa os oes gennych ymholiadau pellach. Mae defnyddio cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol yn amodol ar delerau ac amodau (PDF).

Derbynfa’r Pentref Hyfforddiant Chwaraeon

Pentref Hyfforddiant Chwaraeon, Tal-y-bont, CF14 3AT

Gweld y Pentref Hyfforddiant Chwaraeon yn Google Maps

Oriau agor

Mae'r Pentref Hyfforddiant Chwaraeon ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 07:30 ac 23:00, a rhwng 08:30 ac 20:30 ar y penwythnos.

Mae'r cyfleuster ar gau ar wyliau banc.

Mynediad

Mae mynediad i geir trwy Western Avenue. Trowch i mewn i Ffordd Excelsior (tuag at Tesco Extra), yna yn y gylchfan gadewch wrth yr allanfa gyntaf, ac yna trowch i'r dde yn syth i Lety Myfyrwyr Tal-y-bont.

Mae parcio hygyrch ar y safle. Mae'r dderbynfa a'r ystafell ffitrwydd wedi'u lleoli ar y llawr gwaelod sy'n hygyrch trwy ddrysau awtomatig. Mae'r cyfleusterau newid ar y llawr gwaelod.