Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrgelloedd a chyhoeddiadau rhad ac am ddim

Mae croeso i’r cyhoedd ymweld â’n llyfrgelloedd ar y campws, a gallant hefyd gael mynediad at lyfrau a chyfnodolion ar-lein yn rhad ac am ddim gan Wasg Prifysgol Caerdydd.

Defnyddiwch ein llyfrgelloedd

Gallwch fynd i’n llyfrgelloedd a phori drwy ein hadnoddau print heb ymaelodi. Os ydych am fenthyg llyfrau o’n llyfrgelloedd bydd rhaid i chi ymaelodi.

Dysgwch fwy am aelodaeth a sut i ddod i’n gweld:

Mature students in the library

Defnyddio ein llyfrgelloedd

Ymunwch fel aelod o'r gymuned i ddefnyddio rhai o'n hadnoddau print ac eAdnoddau

Trevithick Library

Lleoliadau ac oriau agor

Archwiliwch ein llyfrgelloedd a darganfod gwybodaeth am eu lleoliadau, oriau agor a'u meysydd pwnc.

Llyfrau a chyfnodolion rhad ac am ddim gan Wasg Prifysgol Caerdydd

Mae Gwasg Prifysgol Caerdydd yn gyhoeddwr Mynediad Agored llawn, gyda’r holl lyfrau a chyfnodolion yn cael eu cyhoeddi ar-lein i unrhyw ddarllenwyr eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim.

Mae cyhoeddiadau’n cynnwys cyfnodolion academaidd a llyfrau ar lawer o wahanol bynciau, gan gynnwys profiadau cleifion canser benywaidd, materion LGBTQ+, crefftau ymladd, llenyddiaeth Saesneg, technoleg gyfrifiadurol newydd, ac economi Cymru.

Ewch i wefan Gwasg Prifysgol Caerdydd i bori drwy’r casgliad o lyfrau a chyfnodolion.