Ewch i’r prif gynnwys

Stiwdio 49

Mae Stiwdio 49, sy'n agos iawn at Ganol y Ddinas a Phrif Adeilad y Brifysgol, yn stiwdio ddawns fodern sy'n cynnig ystod eang o ddosbarthiadau ffitrwydd.

Defnyddio’r cyfleusterau

CyfleusterAelodTalu fesul tro
Dosbarthiadau ymarfer corffYn rhad ac am ddim£8
Gwasanaethau ffitrwydd£25£30
Defnydd achlysurol o’r stiwdio aerobigYn rhad ac am ddim£8
Llogi stiwdio aerobig£60£60

Ystafelloedd newid

Mae ystafelloedd newid yn rhad ac am ddim i aelodau neu £1.50 fesul tro.

Cadw Lle

Dylid cadw lle trwy gysylltu â'r dderbynfa. Mae defnyddio cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol yn amodol ar delerau ac amodau.

Derbynfa Stiwdio 49

Stiwdio 49, 49 Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

Gweld Stiwdio 49 yn Google Maps

Oriau agor

Mae’r cyfleuster ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 07:00 a 21:00, a rhwng 10:00 ac 18:00 ar y penwythnos.

Gall yr oriau agor amrywio yn ystod yr haf yn amodol ar y lleoedd sydd wedi’u cadw.