Ewch i’r prif gynnwys

Y Rhaglen Perfformiad Uchel

Y Rhaglen Perfformiad Uchel

Diben y Rhaglen Perfformiad Uchel yw helpu myfyrwyr i ragori yn eu gyrfa academaidd ac ym myd y campau tra eu bod yn astudio yma.

Mae'r rhaglen yn cynnig llu o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr-athletwyr o’r radd flaenaf a'i nod yw:

  • galluogi athletwyr o’r radd flaenaf i barhau i hyfforddi a chystadlu ar y lefel uchaf tra eu bod yn astudio
  • cynyddu lefel perfformiad athletwyr
  • cynnig gwasanaeth sy'n rhoi athletwyr yn gyntaf
  • cynnig y cyd-destun cefnogi a hyfforddi gorau
  • gwella sgôr Chwaraeon Colegau a Phrifysgolion Prydain (BUCS) y Brifysgol yn barhaus

Manteision i athletwyr

I weld sut gall y Rhaglen Perfformiad Uchel eich cefnogi chi gyda’ch astudiaethau academaidd a gyrfa chwaraeon.

Disgwyliadau'r Rhaglen

Dysgwch beth sy’n ddisgwyliedig ohonoch, os ydych yn cael eich derbyn ar y Rhaglen Perfformiad Uwch.

Ymholiadau

If you're interested in studying at Cardiff University and are at an elite level within your sport and would like further information on the High Performance Programme please contact us.

Storïau perfformiad uchel

Dyma rai o’n hathletwyr perfformiad uchel sy’n cydbwyso eu hastudiaethau gyda chwaraeon o’r safon uchaf.

Bod yn gymwys

I fod yn gymwys ar gyfer y Rhaglen Perfformiad Uchel mae’n rhaid ichi gystadlu ar safon ryngwladol iau neu’n uwch yn eich camp.

Rhoddir blaenoriaeth i chwaraeon Olympaidd, Paralympaidd a’r Gymanwlad a/neu chwaraeon sy’n rhan o fframwaith cystadlu BUCS. Caiff chwaraeon eraill eu hystyried fesul achos.

Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus gynrychioli Carfan 1af/A Prifysgol Caerdydd.

Mae llawer o gystadleuaeth am leoedd ar y rhaglen yn gallu bod felly mae'n hanfodol bod pob ymgeisydd yn gallu dangos tystiolaeth o'i gyflawniadau o ran ei gamp.

Mae ymgeiswyr o bob cenedl a lefel gradd yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer y Rhaglen Perfformiad Uchel. Cofiwch, pan fo'n berthnasol, y byddwn ni’n ystyried effaith COVID-19 ar gyfleoedd cystadleuol a chael eich dewis.

Gwneud cais

Os ydych yn bodloni'r meini prawf uchod o ran cymhwysedd ar gyfer y Rhaglen Perfformiad Uchel a hoffech wneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-2023, llenwch Ffurflen Gais Rhaglen Perfformiad Uchel 2022-2023 a’i dychwelyd erbyn dydd Gwener 30 Medi 2022.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-2024 ebostiwch hpp@caerdydd.ac.uk

Clare Daley

Swyddog Chwaraeon Perfformiad