Ewch i’r prif gynnwys

Syniadau Codi Arian

Board game pieces

Os ydych chi eisiau codi arian i Brifysgol Caerdydd ond ddim yn siŵr lle i ddechrau, dyma ein syniadau codi arian gorau i chi gael dechrau arni. Mae gennym ysbrydoliaeth trwy gydol y flwyddyn o ffyrdd hawdd o godi arian.

Y gwanwyn

Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth)

Dathlwch bopeth Cymraeg! Beth am gynnal te prynhawn a chynnwys rhai ffefrynnau Cymreig fel cacennau cri a bara brith yn gyfnewid am gyfraniad?

Diwrnod y Llyfr (2 Mawrth)

Ydych chi wrth eich bodd â llyfrau? I ddathlu Diwrnod y Llyfr, beth am roi her i chi ddarllen nifer o lyfrau dros gyfnod penodol o amser yn gyfnewid am nawdd, neu gynnal arwerthiant llyfrau ail-law yn eich swyddfa? Neu os ydych yn rhan o glwb llyfrau, trefnwch i gynnal cinio neu swper i godi arian yn eich cyfarfod nesaf.

Gwerthu nwyddau diangen

Mae'n amser gwych i gael gwared ar nwyddau diangen a’u gwerthu i ychwanegu at eich cronfa codi arian. Gallech drefnu i gael stondin mewn arwerthiant cist car lleol neu hyd yn oed werthu eich eitemau ar-lein. Wedi’r cyfan, gall rhywbeth gwerth dim byd i un unigolyn fod yn werth y byd i rywun arall!

Hwyl y Pasg

Mae cymaint o ffyrdd g-wy-ch o godi arian a dathlu'r Pasg! O bobi, helfeydd wyau, hop-athonau noddedig i drefnu raffl hamper siocled.

Swîp Eurovision (Mai)

Mae swîp yn ffordd hwyliog o wneud y Eurovision Song Contest ychydig yn fwy cyffrous, a chodi arian. Yn gyfnewid am gyfraniad, dyrannwch wlad ar hap i'r cyfranogwyr ac mae pwy bynnag sy'n cael yr enillydd, yn cael gwobr!

Pobwch ddanteithion! (29 Mai)

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Bisgedi ar 29 Mai, beth am gynnal stondin bisgedi a chacennau neu fore coffi a gwahodd eich ffrindiau, teulu neu gydweithwyr i flasu rhai o’ch danteithion blasus yn gyfnewid am gyfraniad.

Haf

Gêm, Set, Gornest

Mae dechrau mis Gorffennaf yn nodi dechrau Wimbledon ac mae'n ffordd ‘ace’ o godi arian. Gallech gynnal parti gardd, barbeciw haf, gweini mefus a hufen yn gyfnewid am roddion, neu drefnu swîp sy'n rhedeg drwy gydol y twrnamaint.

Diwrnod Byrgyr Cenedlaethol

Mae’r digwyddiad codi arian poblogaidd hwn dros yr haf, yn ffordd wych a hawdd o sicrhau rhoddion. Beth am weld faint allwch chi ei godi trwy gynnig glanhau ceir eich teuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu gydweithiwr yn gyfnewid am gyfraniad?

Golchfa geir elusennol

Mae’r digwyddiad codi arian poblogaidd hwn dros yr haf, yn ffordd wych a hawdd o sicrhau rhoddion. Beth am weld faint allwch chi ei godi trwy gynnig glanhau ceir eich teuluoedd, ffrindiau, cymdogion neu gydweithiwr yn gyfnewid am gyfraniad?

Picnic i ginio

Gwnewch y mwyaf o'r heulwen a trenfnwch bicnic i godi arian. Mae cymaint o ffyrdd o wneud hyn p'un a ydych yn cynnal picnic pobi neu dim ond gwahodd eich cydweithwyr, cydletywyr neu ffrindiau i ddod at ei gilydd dros fwyd a diod flasus.

Parti gardd dros yr haf

Beth am gynnal eich parti eich hun yn yr ardd? Gallech weini bwyd a diod hafaidd flasus, chwarae gemau gardd neu gynnal noson ffilm awyr agored, gyda phopgorn. Gall fod mor rhwydd â gofyn am rodd gan bawb sy'n dod i’r digwyddiad.

Cyngerdd neu noson gomedi

Gall trefnu cyngerdd neu noson gomedi fod yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd, gan godi arian hanfodol ar yr un pryd. Ar ôl i chi sicrhau'r perfformwyr a'r lleoliad, does ond angen i chi rannu'r digwyddiad a gwerthu eich tocynnau!

Yr hydref

Noson gemau

Digwyddiad codi arian sy'n berffaith ar gyfer pob oedran! Cloddiwch eich gemau bwrdd neu'ch consolau a gwahoddwch eich ffrindiau, teulu neu gydweithwyr draw ar gyfer cystadleuaeth gyfeillgar. Gofynnwch am gyfraniad yn gyfnewid a gallech godi mwy o arian hyd yn oed trwy werthu cacennau neu raffl hefyd.

Calan Gaeaf (31 Hydref)

Trefnwch i wisgo gwisg ffansi arswydus a chodwch dâl am wneud hynny neu beth am gynnal arwerthiant nwyddau pob ar thema arswydus i godi arian?

Noson gwis yr hydref

Digwyddiad clasurol o godi arian a ffordd wych o ddod â theulu a ffrindiau at ei gilydd. Gallech ei gynnal yn rhithiol neu’n wyneb yn wyneb, gan godi tâl mynediad i gymryd rhan a dyfarnu gwobr fach i'r enillwyr.

Gaeaf

Codi arian dros y Nadolig

P'un a ydych chi'n gosod arddangosfa oleuadau ysblennydd er mwyn cael rhoddion, yn crefftio cardiau neu anrhegion Nadolig, yn cynnal Diwrnod Siwmper Nadolig, yn trefnu raffl hamper Nadolig, neu'n coginio mins peis blasus a gwin cynnes (neu sudd!) , mae'r Nadolig yn amser gwych i godi arian.

Ymgymerwch â her newydd

Mae mis Ionawr yn amser perffaith i osod nod neu her i chi'ch hun. Boed yn dysgu rhywbeth hollol newydd, rhoi’r gorau i rywbeth (siocled, cyfryngau cymdeithasol, brathu eich ewinedd!) neu osod nod chwaraeon i chi'ch hun, mae rhywbeth i bawb. Dewiswch eich her a gofynnwch i'ch ffrindiau a'ch teulu am nawdd.

Rygbi'r Chwe Gwlad

Os ydych chi'n gefnogwr rygbi, beth am drefnu digwyddiad gwylio gartref a darparu bwyd a diod i'ch gwesteion, yn gyfnewid am gyfraniad. Mae'n sicr o fod yn ddigwyddiad codi arian difyr!

Syniadau nad oes angen adnoddau ar eu cyfer

Casgliad newid mân

Mae mor syml ag y mae'n swnio. Beth am ofyn i bobl roi unrhyw newid mân sydd ganddynt? Fel maen nhw'n dweud, mae pob ceiniog yn cyfrif!

Achlysur arbennig neu ben-blwydd

P'un a ydych yn dathlu priodas, partneriaeth sifil, pen-blwydd, pen-blwydd priodas, neu garreg filltir bwysig arall, efallai yr hoffech ofyn am roddion tuag at eich achos ymchwil dewisol yn lle anrhegion.

Trefnu gêmathon

Gosodwch her gêmathon i chi'ch hun a chynnal eich ffrwd fyw noddedig eich hun. Rydych chi'n dewis yr hyn rydych chi'n ei chwarae, am ba hyd rydych chi'n ei chwarae a phryd rydych chi'n ei wneud, yn gyfnewid am roddion.

Eillio pen neu farf

Os ydych chi'n teimlo'n feiddgar (neu'n foel!) gafaelwch yn yr eilliwr a chasglwch nawdd i eillio'ch pen neu'ch barf. Os yw hynny'n gam yn rhy bell, lliwiwch eich gwallt yn lliw gwallgof!

Mynd â’r ci am dro

Y syniad ‘pero-ffaith’ i godi arian! Helpwch eich ffrindiau, eich teulu a'ch cymdogion gyda dyletswyddau cerdded cŵn yn gyfnewid am roddion.

Pacio bagiau neu gasgliad bwced

Trefnwch i bacio bagiau neu gynnal casgliad bwced yn eich archfarchnad leol – mae bwcedi ar gael ar gais a gallwn ddarparu llythyr awdurdod. Cofiwch, mae angen caniatâd perchennog y tir arnoch i gynnal casgliad.

Diwrnod gwisgo’n gyfforddus neu wisgo’n smart

Trefnwch ddiwrnod gwisgo’n gyfforddus neu wisgo’n smart yn y gwaith, y Brifysgol neu'r ysgol a gofynnwch i bobl gyfrannu neu eich noddi.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os ydych eisiau trafod eich cynlluniau codi arian #TeamCardiff , cysylltwch â ni a gallwn gynnig yr holl gyngor a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch.

Picture of Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Telephone
+44 29208 76551
Email
CuyesS@caerdydd.ac.uk