Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr creadigol yn addurno Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

14 Medi 2021

Bydd gwaith celf tri myfyriwr israddedig yn cael eu troi’n osodiadau finyl ar raddfa fawr pan fydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn agor ei drysau am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni.

Cyflwynodd y myfyrwyr eu dyluniadau fel rhan o gystadleuaeth a lansiwyd yn Mawrth i ddod o hyd i gelfwaith gwreiddiol i’w osod yn yr adeilad nodedig newydd ym Mhlas y Parc a fydd yn agor ar 4 Hydref 2021.

Dyluniodd yr enillwyr, sef Shreshth Goel, Lizzie Eves ac Isaac Slater sy’n fyfyrwyr yn y flwyddyn olaf, eu celfwaith sydd i’w gosod mewn mannau penodol yn y Ganolfan. Yr adeilad fydd cartref gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol a bydd yn barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2021/22.

Tiled design of languages and daffodils

Bydd celfwaith Shreshth, sy'n astudio rhaglen LLB y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yn cael ei osod y tu ôl i wasanaeth Cyswllt Myfyrwyr sydd mewn lle amlwg ar lawr gwaelod yr adeilad.

Dyma’r hyn a ddywedodd: “Defnyddiais eiriau croeso mewn nifer o ieithoedd rhyngwladol i gyfleu dwyieithrwydd ac amrywiaeth yn y Brifysgol. Ac mae cennin Pedr, blodyn cenedlaethol Cymru, yn cyfleu dechreuadau newydd, sef rhywbeth y mae pob myfyriwr yn ei wneud drwy gydol eu hamser yn y brifysgol. ”

Dewisodd Isaac, myfyriwr BSc mewn Pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ddefnyddio llwybrau yn ei ddyluniad. Bydd modd gweld hwn ar y llawr cyntaf, lle gall myfyrwyr drafod gyda chyflogwyr yn ogystal â chynghorwyr gyrfaol Tîm Dyfodol Myfyrwyr.

Dyma’r hyn a ddywedodd: “Mae llwybrau’n cyfleu dewisiadau gwahanol mewn bywyd a all eich arwain at eich dyfodol, a diddorol yw gweld sut y gall aflwyddiant neu ddiffyg cynnydd tybiedig arwain at lwyddiant weithiau.”

Bydd dau o ddyluniadau Lizzie, sydd hefyd yn astudio rhaglen y BSc mewn Pensaernïaeth, yn cael eu gosod yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Bydd y ddau ar y pedwerydd llawr, lle bydd myfyrwyr yn aros am apwyntiadau gyda staff cymorth.

Esboniodd Lizzie fod ei dewis o batrwm o dai teras sy’n ymddangos drosodd a thro yn cynrychioli tai myfyrwyr yn ardal Cathays a’r Rhath.

Dyma’r hyn a ddywedodd: “Mae'r tai hyn yn symbol o’r ffaith bod y ddinas yn un glud a bod pobl yn byw yng nghysgod ei gilydd, ac mae’r gwaith celf yn pwysleisio bod yr adeilad hwn bellach yn fan cyfarfod o bwys ar gampws Cathays.”

Bwriad ail ddarn o gelfwaith Lizzie yw creu teimlad o heddwch lle bydd yn myfyrwyr yn aros i gael apwyntiad.

Ychwanegodd: “Mae cysylltu â byd natur yn cael effaith gadarnhaol ar ein lles, sef rhywbeth sy'n hollbwysig ar gyfer y lle hwn. Mae'r braslun syml o fryniau Cymreig yn cyfleu'r angen i ofalu amdanon ni ein hunain a byd natur o’n cwmpas.”

Roedd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd a Noddwr Gweithredol Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, yn aelod o'r panel a oedd yn barnu gwaith celf y gystadleuaeth.

Dyma’r hyn a ddywedodd: “Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn fan croesawgar, cefnogol a deinamig i bob myfyriwr pan fydd yn agor yn ddiweddarach eleni.

Cafodd ei chreu ar y cyd â’r myfyrwyr o'r cychwyn cyntaf, ac mae cynnwys gwaith celf ein myfyrwyr ar y waliau’n crisialu ein hymrwymiad i weithio gyda myfyrwyr i wella eu profiad yn ogystal â'r gwasanaethau cymorth y bydd yr adeilad yn eu dwyn ynghyd mewn ffordd mor effeithiol.

“Gwnaeth cryfderau cysyniadol a thechnegol pob un o’r cynigion gryn argraff arnaf. Roedd yn anodd iawn dewis pedwar dyluniad yn unig, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn eu priod le yr hydref hwn."

Rhagor o wybodaeth am Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr.