Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gartref mewn pandemig byd-eang

15 Rhagfyr 2020

Mother and daughters in homeworking and homeschooling scenario

Effaith gweithio gartref yn ystod pandemig coronavirus (COVID-19) oedd ffocws y ddiweddaraf yng Nghyfres Ysgol Busnes Caerdydd o Sesiynau Hysbysu dros Frecwast.

Dan arweiniad yr Athro Alan Felstead, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, a'r Athro Jonathan Morris, o Ysgol Busnes Caerdydd, cyflwynodd y digwyddiad safbwyntiau meintiol ac ansoddol ar yr ystyriaethau dan sylw.

Ar ddechrau'r sesiwn, eglurodd yr Athro Felstead gyd-destun ei arbenigedd ar weithio gartref, pwnc y mae wedi bod yn ymchwilio iddo ers canol y 1990au, cyn rhannu canfyddiadau ei adroddiad diweddaraf, a ysgrifennwyd ar y cyd â Dr Darja Reuschke o Brifysgol Southampton.

Dangosodd yr Athro Felstead sut mae gweithio gartref wedi tyfu cyn, yn ystod ac ers y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020.

Gan dynnu ar ddata o Arolygon y Gweithlu 1981-2019 ac Astudiaeth COVID-19 Understanding Society, nododd yr Athro Felstead gynnydd sylweddol mewn gweithio gartref yn sgil cyfnod clo cenedlaethol y DU; tyfodd o 6% ar ddechrau 2020 i 43% ym mis Ebrill.

“Ar ben hynny, mae’r nifer o bobl sy’n gweithio gartref wedi parhau'n uchel yn ystod y misoedd a’r wythnosau ar ôl i’r cyfnod clo cenedlaethol ddod i ben,” meddai’r Athro Felstead.

“Mae arolygon cyflogwyr hefyd yn dangos patrwm tebyg,” ychwanegodd.

“Canfu astudiaeth ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol o 5,500 o gyflogwyr fod dros chwarter yn defnyddio gweithio gartref o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19 a dywedodd ychydig llai nag un ym mhob pum cyflogwr eu bod am barhau i ddefnyddio gweithio gartref ar ôl i'r pandemig ddod i ben.”

Yr Athro Alan Felstead Athro Ymchwil

Gan fanylu ar rai o'r mathau o weithwyr y mae'r newid hwn i weithio gartref wedi effeithio arnyn nhw, nododd yr Athro Felstead fod aelodau mwyaf breintiedig y gweithlu bellach yn gweithio gartref.

Pwysleisiodd fod y cysyniad o fraint yn cyfeirio at y swyddi mae pobl yn eu gwneud, ac nid y math o bobl ydyn nhw: “Felly roedd y twf yn uchel ymhlith swyddi â sgiliau uchel. Roedd lawer yn is ymhlith rolau â llai o sgiliau. Cafwyd cynnydd cyflymach hefyd yn rhannau mwyaf llewyrchus y DU, ac roedd y rheini oedd yn gweithio y tu allan i'r cartref yn gyson ymhlith y rhai ar gyflogau is.

“Fodd bynnag, doedd y niferoedd o bobl oedd yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo ddim yn amrywio yn ôl rhyw, ethnigrwydd nac anabledd,” ychwanegodd.

Gorffennodd yr Athro Felstead ei gyflwyniad trwy drafod effeithiau gweithio gartref ar gynhyrchiant.

Er nad yw gweithwyr efallai'n gallu dysgu oddi wrth ei gilydd a hwythau wedi'u hynysu drwy weithio gartref, gydag arloesi a gwaith tîm o bosib yn dioddef yn yr un modd, mae'r data hyd yma'n dangos na fu effaith andwyol o'r fath ar gynhyrchiant.

Gan ategu'r ffeithiau a'r ffigurau a rannwyd gan yr Athro Felstead, treuliodd yr Athro Jonathan Morris weddill y sesiwn hysbysu'n disgrifio ei ymchwil ansoddol ar brofiad byw gweithio gartref yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19).

Esboniodd yntau gyd-destun ei ddiddordeb ymchwil mewn gweithio gartref, sy’n estyn yn ôl i ddechrau'r ganrif pan fu'n cyfweld â rheolwyr dros 30 o sefydliadau ar draws y DU, UDA a Japan oedd yn mynd drwy newidiadau sylfaenol ac yn aildrefnu'n strwythurau ystwyth.

Three people on Zoom call
Professors Jonathan Morris and Alan Felstead in conversation with Sarah Lethbridge.

Crynhodd yr Athro Morris ei ganfyddiadau o ddwy astudiaeth a gynhaliwyd yn 2000 a 2019, oedd yn olrhain ymddangosiad technoleg ddigidol soffistigedig, a'r graddau y treiddiodd yn ehangach wedi hynny.

Wrth sôn am y newid hwn mewn persbectif, dywedodd yr Athro Morris: “Gwahaniaeth mawr a welsom ni oedd tra bod rheolwyr yn yr astudiaeth gyntaf yn croesawu'r hyblygrwydd roedd gweithio gartref yn ei roi, y gwahaniaeth y tro hwn oedd bod technoleg ddigidol soffistigedig a'r ffôn clyfar i'w gweld ac yn cael eu defnyddio ym mhobman.

“Roedd rheolwyr yn cwyno eu bod yn ei chael yn anodd dianc rhag gwaith am eu bod ar alw'n barhaus a bod y rhaniad rhwng amser gweithio a pheidio â gweithio'n aneglur iawn.”

Pan gyflwynwyd mesurau'r cyfnod clo fel ffordd o leihau lledaeniad coronafirws ym mis Mawrth 2020, unwaith eto cysylltodd yr Athro Morris â'i gysylltiadau yn yr astudiaeth i glywed mwy am eu profiadau’n gweithio gartref dan amgylchiadau economaidd-gymdeithasol gwahanol iawn.

Y tro hwn anfonodd holiadur at 50 o reolwyr o wahanol oed a rhywedd ar draws 7 sefydliad mewn lleoliadau gwasanaeth a gweithgynhyrchu oedd yn cynrychioli technoleg uchel a thechnoleg isel.

Ymhlith manteision gweithio gartref, canfu'r Athro Morris fod rheolwyr yn gwerthfawrogi:

  • peidio gorfod cymudo.
  • peidio gorfod teithio gyda'r gwaith.
  • peidio gorfod bod yn y gwaith y tu hwnt i oriau arferol.
  • cyfleoedd i fwynhau gwell cydbwysedd bywyd-gwaith.

Ar y llaw arall, mynegodd rheolwyr anfanteision o ran:

  • aneglurder yn y rhaniad rhwng amser gwaith ac amser i ffwrdd o'r gwaith.
  • teimlo wedi ynysu.
  • anhawster ymlacio.
  • undonedd.
  • Blinder Zoom/cyfarfodydd.
  • gofal plant ac addysgu gartref - yn enwedig ymhlith ymatebwyr benywaidd.

Gan symud i ffwrdd o safbwyntiau unigol, tynnodd yr Athro Morris sylw at rai o'r heriau sefydliadol sy'n gysylltiedig â gweithio gartref.

Er gwaethaf arbedion costau amlwg ar wariant sefydliadol ar ynni a hyd yn oed leihau maint swyddfeydd yn y tymor hir, nododd y rheolwyr bryderon am reolaeth. Rhannodd rhai eu pryderon ynghylch staff yn esgeuluso eu gwaith gartref, a nodwyd hefyd anawsterau o ran cyfathrebu'n effeithiol a dysgu oddi wrth ei gilydd a gyda'i gilydd.

Gan gyfaddef fod y cofnodion ymchwil yn besimistaidd mewn sawl ffordd, gorffennodd yr Athro Morris ar nodyn gobeithiol.

“Rwy’n credu y bydd canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol yn deillio o'r ffaith nad yw pobl yn cymudo. Mae potensial hefyd i lefelu i fyny ac adfywio cymunedau. Canlyniad cadarnhaol arall a nododd y rheolwyr yn ein hastudiaeth yw cymaint y mae aros gartref a threulio mwy o amser gyda'u teuluoedd wedi'u rhyddhau'n bersonol.”

Yr Athro Jonathan Morris Associate Dean for Research, Professor in Organisational Analysis

“Yn olaf, fel y dywedodd Alan, rwy’n credu y gwelwn fodel gweithio hybrid yn datblygu - rhywfaint o waith swyddfa sy’n galluogi pobl i ddysgu a datblygu, ochr yn ochr â gweithio gartref a hyd yn oed gofod cymunedol neu drydydd gofod hefyd.”

Ar ôl y cyflwyniadau cafwyd sesiwn holi ac ateb ar amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys seicoleg ac iechyd meddwl, daearyddiaeth, mynediad a chynhwysiant digidol, anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, tai a thrydydd gofod.

Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Yn sgil cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru o achos pandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar y we.

Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.

Cyflwynwyd y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Hwb PrOPEL - menter newydd o bwys a gynlluniwyd i gefnogi gwelliannau mewn cynhyrchiant drwy well ymarfer yn y gweithle ac ymgysylltu â gweithwyr.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.