Ewch i’r prif gynnwys

Ailgodi’n gryfach

8 October 2020

Group of people on virtual call
L-R from top left corner: Dr Deborah Hann, Sarah Hopkins, Katie Roderick, Simon Pickthall, Nirushan Sudarsan, Jessica Rees, Leanne Herberg, Sara Edwards and Aimee Page.

Mae Uwch-ddarlithydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth wedi arwain trafodaeth banel ar ailgodi’n gryfach ar ôl pandemig coronafeirws (COVID-19) yn y sesiwn ddiweddaraf yng Nghyfres Briffio Brecwast Ysgol Fusnes Caerdydd.

Dechreuodd Dr Deborah Hann, o Ysgol Fusnes Caerdydd, y digwyddiad trwy ddadlau na fydd dychwelyd i'r ffordd yr oedd pethau o'r blaen yn ddigon. Yn hytrach, mae'r pandemig yn cynnig cyfle i fynd ati i archwilio ffyrdd y gall sefydliadau arwain newid er daioni.

Eglurodd fod cyfweliad gyda'r Economegydd Thomas Piketty yn The Guardian ym mis Mai 2020 wedi ei hysbrydoli i gydweithio gyda Cynnal Cymru, Citizen’s Cymru, Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro a Thîm Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd ar y sesiwn hysbysu gydweithredol hon dros frecwast.

Dangosodd Dr Hann sut mae polisi’r Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD) yn cefnogi’r syniad o ailgodi’n gryfach ar ôl y pandemig a bod angen i bolisïau ymadfer ysgogi newidiau mewn ymddygiad os ydynt am fod yn ystyrlon ac yn hirsefydlog.

“Gobeithio y bydd y sesiwn hysbysu hon yn gwneud i bobl i feddwl pa wahaniaeth y gallen nhw ei wneud wrth fynd drwy'r pandemig ei hun, a hefyd yn y ffordd y byddwn ni'n ailgodi ein cymdeithas wedyn.”

Dr Deborah Hann Uwch-ddarlithydd Cysylltiadau Cyflogaeth, Dirprwy Bennaeth Adran (Dysgu ac Addysgu)

Cyn trosglwyddo i'r siaradwr cyntaf, eglurodd Dr Hann y byddai'r sesiwn yn cael ei rhannu'n dair rhan yn ymwneud â'r cyflog byw gwirioneddol, Compact Swyddi Cymunedol Caerdydd a'r cynllun partneriaeth cyflogres, a sut y gallai'r mentrau hyn ein helpu i ailgodi’n gryfach.

Y cyflog byw gwirioneddol

Yn dilyn cyflwyniad Dr Hann, cafwyd y cyntaf o dri chyflwyniad gan Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru, ar rôl Cynnal wrth gyflymu datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

“Un o’r rolau pwysicaf sydd gennym yw mai ni yw corff achredu'r cyflog byw gwirioneddol,” meddai. “Rydyn ni'n arwain sefydliadau yng Nghymru drwy'r broses, o fynegi diddordeb hyd at achrediad.”

Esboniodd Sarah fod y cyflog byw gwirioneddol yn gyflog a gyfrifir yn annibynnol ac a delir yn wirfoddol, sy'n galluogi gweithwyr i ddiwallu eu hanghenion dyddiol.

Gan osod y fenter yn ei chyd-destun, pwysleisiodd Sarah fod yr ymgyrch:

  • Yn talu £ 9.50 yr awr y tu allan i Lundain a £ 10.85 yr awr yn Llundain
  • Wedi rhoi dros £ 32m o gyflog ychwanegol ym mhocedi gweithwyr yng Nghymru er 2011
  • Wedi achredu 224 o gyflogwyr Cyflog Byw yng Nghymru a 5000 ledled y DU
  • Wedi helpu Caerdydd yn ei hymdrech i ddod yr ail ddinas yn unig yn y DU i ennill statws Dinas Cyflog Byw

Gan droi at effeithiau cymdeithasol ac economaidd y pandemig coronafeirws (COVID-19), amlinellodd Sarah dair ffordd y gall y cyflog byw gwirioneddol ein helpu i ailgodi’n gryfach.

“Y gweithwyr â'r cyflogau isaf sydd wedi eu taro galetaf gan COVID-19. Er mwyn adeiladu cymdeithas wydn ac iach yn y dyfodol, mae angen i ni leihau’r bwlch hwn mewn anghydraddoldeb incwm.”

Sarah Hopkins Cyfarwyddwr Cynnal Cymru

“Yn ail, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y gall gwaith teg helpu i sicrhau economi gryfach, fodern a mwy cynhwysol. Mae gwobr deg, gyda'r cyflog byw gwirioneddol yn isafswm, yn rhan allweddol o'r diffiniad o waith teg a gyflwynwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg yn 2019.”

“Ac yn olaf, mae talu’r cyflog byw gwirioneddol yn galluogi pobl. Mae'n darparu cyd-fuddion eraill i gymdeithas ac yn sicrhau adferiad economaidd cynhwysol,” ychwanegodd Sarah.

Gorffennodd Sarah ei chyflwyniad trwy wahodd Katie Roderick, Rheolwr AD yn Burns Pet Food a Simon Pickthall, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Glanhau Sparkles, i rannu barn gweithwyr ar yr hyn mae'r cyflog byw gwirioneddol yn ei olygu iddyn nhw a'u gweithwyr.

Y compact swyddi cymunedol

Nirushan Sudarsan, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac ymgyrchydd Citizens Cymru, oedd y nesaf i siarad, am ei ymwneud â Chompact Swyddi Cymunedol Caerdydd (CJC).

“Sefydlwyd CJC o ddeutu 2017 gyda datblygu ardal Bae Caerdydd,” dywedodd. “Dros y ddau ddegawd diwethaf, rydyn ni wedi gweld llawer o enwau busnes a sefydliadau mawr yn lleoli yno...”

“Ond gwelsom fod llawer o bobl oedd yn byw gerllaw yn Butetown, Riverside a Grangetown yn teimlo nad oedd cynrychiolaeth ddigonol iddyn nhw yn llawer o’r sefydliadau hynny, gan gynnwys cyflogwyr mawr fel Llywodraeth Cymru, ITV ac Admiral.”

Nirushan Sudarsan Myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac ymgyrchydd Citizens Cymru

Esboniodd Nirushan mai nod y Compact yw dod â phobl leol a chyflogwyr at ei gilydd i fynd i’r afael â thlodi, diweithdra a diffyg cynrychiolaeth yn y gweithle drwy:

  • Achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol.
  • Arferion recriwtio teg, gan gynnwys CVs heb enwau na chyfeiriadau a hyfforddiant mewn tueddiadau diarwybod
  • Sicrwydd swyddi, gan gynnwys dim gorfodaeth ar gyfer contractau dim oriau

Fel Sarah, daeth Nirushan â’i gyflwyniad i ben trwy wahodd siaradwr gwadd i son am ei phrofiad o’r fenter.

Rhannodd Jessica Rees, Rheolwr Troseddau Casineb Cymru yn Cymorth i Ddioddefwyr, ei phrofiad a manteision ymuno â'r CJC.

Partneriaethau cyflogres

Leanne Herberg, Prif Weithredwr Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro roddodd y cyflwyniad olaf gan ddechrau drwy osod rôl y sefydliad yn ei chyd-destun fel cwmni cydweithredol ym maes gwasanaethau ariannol yng Nghymru sy'n cynnig cynilion a benthyciadau i bobl leol.

Esboniodd fod mwy o angen nag erioed am ffyrdd hawdd i weithwyr adeiladu eu gwytnwch ariannol trwy ddiwylliant o gynilo rheolaidd a'r gallu i sicrhau ffynhonnell credyd moesegol lle bo angen.

Rhannodd Leanne ymchwil ar gynilion cartrefi mewn argyfyngau a chyfeiriodd at statws Caerdydd fel dinas gyda llu o fenthyciadau tan ddiwrnod cyflog - cyfanswm o 11,000 o fenthyciadau llog uchel gyda gwerth cyfunol o £17.5m mewn un flwyddyn yn unig.

“Rydyn ni'n credu y gall ein partneriaethau cyflogres fynd i’r afael â’r materion hyn yn rhagweithiol ac rydyn ni'n barod i chwarae ein rôl wrth ailgodi'n gryfach a meithrin lles ariannol yn lleol.”

Leanne Herberg Prif Weithredwr Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro

“Fel enghraifft o hyn, mae cynilion cyfunol ein haelodau ychydig dros £7m ar hyn o bryd, ac mae hyn wedi cynyddu ychydig dros £1m ers dechrau'r cyfnod clo. Felly, rydyn ni'n hyderus fod ein partneriaethau cyflogres eisoes yn meithrin gwydnwch ar gyfer dyfodol ein haelodau,” ychwanegodd Leanne.

Gorffennodd Leanne ei chyflwyniad hefyd drwy wahodd gwesteion o Gymdeithas Tai Linc-Cymru i siarad am eu profiadau o'r fenter partneriaeth cyflogres.

Gan ddod â'r cyfarfod ffurfiol i ben, bu Sara Edwards, Cynghorydd AD, a Aimee Page, Cydlynydd Iechyd a Diogelwch, yn trafod buddion partneriaeth cyflogres, o ran busnes ac i aelodau, o'r camau datblygu fel rhan o strategaeth llesiant y sefydliad hyd at lwyddiant y cynllun heddiw.

Yn dilyn y cyflwyniadau ar bob menter, gwahoddodd Dr Hann gwestiynau i'r panelwyr gan y rheini oedd yn bresennol.

Rhagor o wybodaeth am:

Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Yn sgil cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru o achos pandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar y we.

Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.

Rhannu’r stori hon

Enabling our business contacts to find out more about latest business research and key developments from industry partners and practitioners.