Ewch i’r prif gynnwys

Re-energising Wales

27 Chwefror 2020

Group of people sat in lecture space

Un o adroddiadau'r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) ar ddefnyddio ynni adnewyddadwy yng Nghymru i fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd a bod o fudd i'r economi oedd ffocws y sesiwn ddiweddaraf yng Nghyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd.

Dechreuodd Auriol Miller, Cyfarwyddwr yr IWA y cyfarfod drwy egluro nodau ac amcanion gwaith y Sefydliad ar y cyfleoedd a'r heriau economaidd i ddyfodol ynni adnewyddadwy Cymru.

Dywedodd: “Un o themâu gweithgarwch y Sefydliad Materion Cymreig lle mae'r gwaith hwn yn perthyn yw gwireddu economi lwyddiannus, lân, werdd a theg i Gymru...”

“Mae gennym ddiddordeb yn y syniadau campus a all drawsnewid Cymru a dod â phobl at ei gilydd ar draws sectorau – cyhoeddus, preifat, academaidd, trydydd sector, grwpiau cymunedol ac unigolion â diddordeb – yn ogystal â rhychwantu meysydd polisi. Ac felly dyna oedd y cyd-destun ar gyfer y darn hwn o waith.”

Auriol Miller Cyfarwyddwr yr Sefydliad Materion Cymreig
Two women at front of lecture space
Sarah Lethbridge introduces Auriol Miller at pre-COVID Breakfast Briefing on Energy and Foundational Economy.

Gwneud cynnydd

Amlinellodd Auriol fanylion rhaglen waith tair blynedd a greodd sylfaen o dystiolaeth ar gyfer yr hyn a honnwyd yn adroddiad terfynol y Sefydliad Materion Cymreig.

Roedd hyn yn cynnwys:

  • Mapio'r galw am ynni yn y dyfodol ledled Cymru.
  • Astudiaeth achos ar Ddinas-ranbarth Bae Abertawe.
  • Asesiad Cymru gyfan o effaith economaidd, buddsoddiadau ac enillion – a gynhaliwyd gyda'r Athro Calvin Jones, Deon Gwerth Cyhoeddus a Materion Allanol yn Ysgol Busnes Caerdydd.
  • Astudiaeth o faterion cymdeithasol a chymunedol a pherchnogaeth.
  • Astudiaeth ar ysgogiadau gwleidyddol a rheoleiddiol.

Cwblhaodd ei chyflwyniad gan ddweud: “Y pwynt am yr hyn rydym ni'n ei wneud yw nad dyma'r unig ateb, ond mae'n un ateb. A cheision ni wneud rhywbeth yr oedd hi’n bosib ei wneud nawr heb esgusodion, oherwydd dyna bwynt gwneud cynnydd.”

Yna eglurodd Hywel Lloyd, aelod o grŵp llywio Re-energising Wales, y system ynni sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.

Eglurodd, yn anecdotaidd: “Dros gyfnod y prosiect, bob hyn a hyn byddem ni'n cael sgwrs gyda rhywun a fyddai'n dweud rhywbeth fel 'o, ddylech chi ddim dechrau fan hyn..'.

“Wel mae'n rhaid i ni ddechrau fan hyn, oherwydd dyma'r pethau sydd gennym ni.”

Ar ôl amlinellu'r cyd-destun, roedd ei gyflwyniad yn canolbwyntio ar adroddiad yr IWA a'r 10 cam gweithredu hanfodol sydd angen eu cyflawni rhwng 2019 a 2035 i sicrhau 100% o ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Man presenting in lecture space
Hywel Lloyd presenting at pre-COVID Breakfast Briefing on Energy and the Foundational Economy.

Cyn dod â'r cyfarfod i ben gyda sesiwn holi ac ateb, ceisiodd Hywel ddiffinio'r economi sylfaenol.

Drwy nifer o ddiffiniadau, eglurodd ei nodweddion, sef:

  • Bob dydd
  • Presennol
  • Seiliedig ar leoedd
  • Wedi'i hangori
  • Cyfnewidiadwy
  • Cylchol.

Gan greu cyswllt rhwng cysyniad yr economi sylfaenol ag ynni, esboniodd Hywel: “Yn amlwg, mae ynni'n weithgaredd economaidd bob dydd ac mae ynni adnewyddadwy yn gynyddol bresennol mewn mannau lle mae'r bobl, oherwydd ei natur wasgaredig a datganoledig...”

“Mae modd defnyddio ynni adnewyddadwy mewn ffordd gwbl wahanol i'r system tanwydd ffosil; mae modd ei angori neu ei gyfnewid, ac wrth gwrs, mae iddo botensial enfawr i fod yn gylchol yn hytrach nag yn echdynnol.”

Hywel Lloyd Aelod o grŵp llywio Re-energising Wales

Yn dilyn y cyflwyniadau, atebodd Auriol a Hywel gwestiynau ar gyflenwad a galw, ynni ar y môr a datblygu.

Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Os na allech chi fod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn cyn pandemig COVID-19.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.