Opsiwn i arbenigo
Rydym yn cynnig yr opsiwn o arbenigo ymhellach gyda graddau Geneteg, Anatomeg a Ffisioleg.
Ochr yn ochr â'n pum prif bwnc gradd (Gwyddorau Biolegol, Gwyddorau Biofeddygol, Biocemeg, Niwrowyddoniaeth a Sŵoleg), rydym hefyd yn cynnig tair gradd 'ymadael' ychwanegol sy'n eich galluogi i arbenigo mewn maes penodol.
BSc yn y Gwyddorau Biolegol (Geneteg)
Mae geneteg yn faes astudio cyffrous sydd â rhaglenni ar draws y biowyddorau, o fioamrywiaeth, cadwraeth a gwella cnydau, i ddiagnosteg a thrin clefydau.

Gyda modiwlau mewn geneteg foleciwlaidd, biowybodeg a genomeg, bydd y radd hon yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o egwyddorion geneteg craidd, yn ogystal â’r cyfle i ymarfer technegau peirianneg DNA. Gellir cyfuno'r pynciau craidd hyn â meysydd pwnc eraill, fel cadwraeth, esblygiad, bôn-gelloedd, geneteg biofeddygol, microbioleg a gwyddor planhigion, gan eich galluogi i greu gradd sydd wedi'i theilwra i'ch diddordebau a'ch dyheadau gyrfaol penodol.
BSc Gwyddorau Biofeddygol (Anatomeg)
Mae ein gradd Anatomeg yn cyfuno dulliau traddodiadol gyda thechnegau digidol modern i gynnig rhaglen gradd ysgogol, rhyngweithiol a chyfredol.

Fel myfyriwr Anatomeg yng Nghaerdydd, byddwch yn astudio anatomeg ddynol uwch, ymarferol ynghyd â bioleg celloedd/datblygiadol, gwyddoniaeth cyhyrysgerbydol, bioleg bôn-gelloedd a pheirianneg meinweoedd. Bydd hefyd gennych gyfle i ddewis modiwlau biowyddoniaeth ychwanegol, gan eich galluogi i deilwra eich gradd a’i gwneud yn addas ar gyfer eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfaol.
Ennill sgiliau llawfeddygol ymarferol
Mae Prifysgol Caerdydd yn gartref i Ganolfan Addysg Anatomegol Cymru, ac ni yw’r unig Brifysgol yng Nghymru (ac un o’r nifer fach yn y DU) sy’n galluogi myfyrwyr i ddadelfennu cyrff yn llawn. Gwneir y dadelfeniad o dan arweiniad arbenigwyr anatomegol ac addysgol medrus, ac mae’n cynnig cyfle prin i chi fagu sgiliau llawfeddygol ymarferol.

Rydw i wastad wedi ymddiddori yn y corff dynol, felly fe wnes i lawer o waith ymchwil a gweld bod Prifysgol Caerdydd yn cynnig adnoddau, cefnogaeth ac addysgu gwych i’w myfyrwyr anatomeg.Roedden ni’n cael ein haddysgu mewn modd integredig a wnaeth ein galluogi i ddeall anatomeg a gweithrediad y corff dynol yn fanwl.Mae wedi bod yn fraint astudio anatomeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
BSc Gwyddorau Biofeddygol (Ffisioleg)
Astudiaeth o sut mae’r corff yn gweithio yw ffisioleg, a bu cysylltiad agos rhwng y wyddoniaeth darganfod hon a meddygaeth erioed.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn ennill sylfaen gadarn mewn ffisioleg a’i berthnasedd i iechyd dynol a chlefyd. Rhoddir pwyslais mawr ar sylfaen arbrofol y pwnc, a byddwch yn ymgyfarwyddo â datblygiadau gwyddonol a’u heffaith. Yn eich blwyddyn olaf, gallwch astudio modiwlau sy’n adlewyrchu ein harbenigedd ym meysydd ffisioleg celloedd, niwroffisioleg a phathoffisioleg.
Gellir cyfuno’r pynciau hyn gyda modiwlau eraill sy’n cael eu cynnig yn Ysgol y Biowyddorau, gan eich galluogi i adeiladu rhaglen radd sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau.
Sut i wneud cais
I astudio Geneteg, gwnewch gais ar gyfer Gwyddorau Biolegol, Biocemeg neu'r Gwyddorau Biofeddygol (gan ddibynnu ar faes eich diddordeb).
I astudio Anatomeg neu Ffisioleg, gwnewch gais ar gyfer ein gradd BSc yn y Gwyddorau Biofeddygol.
Gallwch raddio gyda theitl y radd sy'n well gennych drwy ddewis y modiwlau perthnasol ym mlynyddoedd dau a thri.
Darganfyddwch mwy am ein cyrsiau Biowyddorau israddedig.