Cynhadledd Ryngwladol ar Ddylunio Gwirebol 2025
Dylunio Gwirebol mewn trawsnewidiadau cynaliadwyedd: Dylunio ar gyfer yr economi, cymdeithas a'r amgylchedd.
Bydd y DU yn cynnal yr 16eg cynhadledd nesaf ICAD Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Caerdydd rhwng 25 a 27 Mehefin 2025.
Galw am bapurau
Rydym yn falch iawn o'ch gwahodd i gyflwyno papurau sy'n gysylltiedig â theori dylunio, dulliau ac offer, ac astudiaethau achos a chymwysiadau Dylunio Gwirebol, i nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (SDGs y CU).
Cefndir
Cyfres ICAD yw'r man cyfarfod traddodiadol ar gyfer y Gymuned Dylunio Gwriebol ledled y byd, gan gynnwys Sefydliad Ymchwil Dylunio Gwirebol (ADRF) a'r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Dylunio Gwirebol (IAAD), ers 2000. Ers ei argraffiad cyntaf, cynhaliwyd cynadleddau ICAD yng Nghaergrawnt a Chaerwrangon (MA-UDA), Seoul a Daejeon (Korea), Lisbon (Portiwgal), Florence (yr Eidal), Xi'an (Tsieina), Iasi (Rwmania), Reykjavik (Gwlad yr Iâ), Sydney (Awstralia), Lisbon (Portiwgal), ac Eindhoven (yr Iseldiroedd).
Mae Dylunio Gwirebol (AD) yn fethodoleg ddylunio pwerus a ddatblygwyd gan yr Athro Nam P. Suh y gellir ei gymhwyso i ddylunio cynhyrchion, prosesau a systemau. Mae AD yn Ddull Dylunio Systemau i ddadansoddi a throsi anghenion rhanddeiliaid yn systematig i ofynion swyddogaethol, paramedrau dylunio a newidynnau proses. Mae hefyd yn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau wrth gofnodi gwybodaeth am broses. Mae ei strwythur yn cynnig sail gadarn i gefnogi arloesedd ym maes dylunio tuag at gyflawni'r amcanion a osodwyd yn Agenda y Cenhedloedd Unedig ar gyfer datblygu cynaliadwy 2015-2030.
Pynciau'r gynhadledd
Theori dylunio, dulliau ac offer, ac astudiaethau achos a chymwysiadau o’r canlynol:
- Iechyd a lles da (SDG 3 y CU)
- Addysg o ansawdd (SDG 4 y CU)
- Dŵr glân a glanweithdra (SDG 6 y CU)
- Ynni fforddiadwy a glân (SDG 7 y CU)
- Gwaith gweddus a thwf economaidd (SDG 8 y CU)
- Diwydiant, arloesedd a seilwaith (SDG 9 y CU)
- Lleihau anghydraddoldebau (SDG 10 y CU
- Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy (SDG 11 y CU)
- Cynhyrchu a defnydd cyfrifol (SDG 12 y CU)
- Camau gweithredu ar yr Hinsawdd (SDG 13 y CU)
Dyddiadau pwysig
Dyddiad | Gwybodaeth |
---|---|
1 Gorffennaf 2024 | Galwad am grynodebau |
30 Medi 2024 | Dyddiad cau ar gyfer crynodebau |
1 Tachwedd 2024 | Nodyn o dderbyniad crynodebau |
28 Chwefror 2025 | Cyflwyno papurau terfynol |
15 Ebrill 2025 | Rownd gyntaf o adolygiadau yn ôl at awduron gyda phenderfyniad terfynol Cofrestru'n agor |
15 Mai 2025 | Cyflwyno papurau parod i gamera Dyddiad cau ar gyfer cofrestru’n gynnar |
30 Mai 2025 | Nodyn o dderbyniad terfynol |
25–27 Mehefin 2025 | Cynhadledd yng Nghaerdydd |
Pwyllgor gwyddonol ICAD
Aelod o’r Bwrdd | Cysylltiad |
---|---|
Alessandro Giorgetti | Prifysgol Roma Tre IT |
Amro Farid | Sefydliad Masdar/MIT AE |
Ang Liu | UNSW AU |
Antonio Gabriel-Santos | FCT NEW PT |
A. M. Gonçalves-Coelho | FCT NEW PT |
António Mourão | FCT NEW PT |
Bojan Babic | Prifysgol Belgrade, Serbia |
Camilla Pezzica | Ysgol Pensaernïaeth Cymru - DU |
Christopher A. Brown | WPI UDA |
Clarice Bleil de Souza | Ysgol Pensaernïaeth Cymru - DU |
David Cochran | Prifysgol Purdue Lafayette Indiana UDA |
Dominik Matt | Prifysgol Bolzano IT |
Erwin Rauch | Prifysgol Bolzano IT |
Efrén Benavides | UPM IS |
Erik Puik | Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Fontys, Eindhoven NL |
Gabriele Arcidiacono | G. Prifysgol Marconi IT |
Goran Putnik | Prifysgol Minho PT |
Hilario Oh | MIT USA |
Inas Khayal | Sefydliad Dartmouth UDA |
João Fradinho | FCT NEW PT |
John Thomas | Cognitive Tools Ltd. LLC UDA |
Joseph Timothy Foley | Prifysgol Reykjavik IS |
Jussi Kantola | Prifysgol Turku UTU FI |
Laurențiu Slătineanu | TUIASI RO |
Luc Mathieu | ENS Cachan FR |
Marianna Marchesi | Ysgol Pensaernïaeth Cymru - DU |
Masayuki Nakao | Prifysgol Tokyo |
Miguel Cavique | Naval Academy PT |
Nam P. Suh | MIT USA |
Oana Dodun | TUIASI RO |
Paolo Citti | G. Prifysgol Marconi IT |
Petra Foith-Förster | Bosch D |
Petru Duşa | TUIASI RO |
Sami Kara | UNSW AU |
Sina Peukert | Karlsruher Institut für Technologie D |
Taesik Lee | KAIST KO |
Vladimir Modrak | TU Kosice SK |
Prif sesiynau i’w cadarnhau.
Trefnwyr y gynhadledd
Yr Athro Clarice Bleil De Souza
Cadeirydd mewn Gwneud Penderfyniadau Dylunio
Dr Marianna Marchesi
Darlithydd Dylunio ar gyfer Cynaliadwyedd ac Economi Gylchol
I gysylltu â threfnwyr y gynhadledd, cysylltwch ag icad2025@caerdydd.ac.uk
Lleoliad
Adeilad Bute, Rhodfa'r Brenin Edward VII, CF10 3NB, Caerdydd, Cymru - DU
Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n arddangos ein hymchwil ac yn ennyn diddordeb ein myfyrwyr, staff a'r cyhoedd.