Ewch i’r prif gynnwys

Porwch raglenni ymchwil yn ôl Ysgol

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Mae gennym fri rhyngwladol cryf am ein hymchwil, gyda chryfderau yn y gwyddorau, hanes a theori pensaernïaeth.

Ysgol Busnes Caerdydd

Mae ein myfyrwyr PhD yn aelodau cwbl integredig o’n cymuned ymchwil, sydd yn gartref i nifer o unedau a grwpiau uchel eu parch.

Ysgol y Biowyddorau

Mae ein rhaglenni yn rhychwantu’r gwyddorau biolegol, o ddeall niwronau i fecanweithiau clefydau a geneteg rhywogaethau sydd mewn perygl.

Yr Ysgol Cemeg

Mae ein hymchwil wedi’i rhannu yn bum thema benodol, gan gydweithio yn fewnol a gydag Ysgolion Academaidd ar draws y Brifysgol.

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Mae ein diwylliant ymchwil deinamig, cryf a sefydlog yn sail i’n henw da rhyngwladol am waith o’r radd flaenaf.

Yr Ysgol Deintyddiaeth

Yn cynhyrchu prosiectau ymchwil rhyngwladol-gystadleuol ac ôl-raddedigion medrus gyda rhagolygon gyrfa ardderchog yn y dyfodol.

Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd

Mae ein rhaglenni yn seiliedig ar waith ymchwil annibynnol llawn amser, gyda goruchwyliwr academaidd i’ch llywio i ganfod meysydd newydd a chyffrous.

Yr Ysgol Peirianneg

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau ardderchog, staff addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac amgylchedd cefnogol.

Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Ymunwch ag amgylchedd rhyngddisgyblaethol cefnogol sy’n cynhyrchu ymchwil sy’n arwain y byd ac ymchwil a rennir.

Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Rydym yn ganolfan ryngwladol fawr ar gyfer ymchwil mewn cynllunio dinas a rhanbarthol, daearyddiaeth dynol a dylunio trefol.

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Yn un o adrannau ymchwil gofal iechyd mwyaf blaenllaw’r DU, mae ein hymchwil yn cyfoethogi addysg a gofal iechyd ac yn rhoi manteision uniongyrchol i gleifion a’r cyhoedd.

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Ymunwch â chymuned ymchwil ac academaidd fywiog, sy’n falch o hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol

Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymchwil sy'n ymwneud â materion cyfoes ar draws newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol.

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein diwylliant ymchwil llewyrchus a’n bri rhyngwladol yn ein helpu i gyflwyno prosiectau arloesol ac unigryw.

Yr Ysgol Mathemateg

Mewn amgylchedd ymchwil cyfeillgar sy’n annog cyfnewid syniadau, mae myfyrwyr yn defnyddio clystyrau a gynhelir gan Ysgolion yn ogystal â chyfleusterau rhagorol y Brifysgol.

Yr Ysgol Meddygaeth

Wedi ymrwymo i geisio gwella iechyd drwy addysgu, ymchwilio ac ymgysylltu â’r byd ehangach.

Yr Ysgol Ieithoedd Modern

Rydym yn sicrhau bod ein hôl-raddedigion yn rhan o’n diwylliant ymchwil cryf, ysgogol a bywiog.

Yr Ysgol Cerddoriaeth

Rydym yn ganolfan greadigol a chynhwysfawr ar gyfer ymchwil, cyfansoddi a pherfformio.

Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg

Nod ein hymchwil arloesol yw creu gwell dealltwriaeth o fecanweithiau sylfaenol y golwg, yn ogystal â dyfeisio ymyriadau therapiwtig newydd.

Yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Mae rhagoriaeth ein hymchwil perthnasol ym meysydd gwyddoniaeth fferyllol ac iechyd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol.

Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Mae gennym brofiad helaeth o ragoriaeth ymchwil ac mae labordai o'r radd flaenaf yma i gefnogi ein hystod eang o weithgareddau ymchwil.

Yr Ysgol Seicoleg

Caiff yr ymchwil ei wneud mewn labordai pwrpasol, a barn llawer yw bod yr isadeiledd hwnnw gyda’r gorau mewn unrhyw Ysgol Seicoleg yn y DU.

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Byddwch yn astudio mewn amgylchedd academaidd ac ymchwil bywiog a bydd arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd yn eich goruchwylio.

Ysgol y Gymraeg

Rydym yn cynnal ymchwil eang a llawn effaith o dan arweiniad ysgolheigion uchel eu parch.