Cyngor brechiadau
Diweddarwyd: 12/07/2023 13:43
Ar gyfer eich iechyd chi ac iechyd y rheiny o’ch cwmpas, rydym argymell cyfres o frechiadau.
Rydym yn argymell yn gryf bod holl fyfyrwyr newydd yn sicrhau eu bod wedi cael yr holl frechiadau angenrheidiol cyn dod i'r Brifysgol ac yn sicrhau:
- Eich bod wedi derbyn brechiadau:
- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi argymell bod myfyrwyr dan 25 oed yn cael brechlyn Llid yr Ymennydd ACWY.
- Os ydych chi'n rhan o grŵp sy'n agored i niwed, efallai fydd angen i chi dderbyn y brechiad tymhorol ar gyfer y ffliw. Dylech sicrhau eich bod wedi cofrestru gyda meddygfa cyn gynted â phosibl er mwyn derbyn gwahoddiad.
- Os ydych yn fyfyriwr gofal iechyd, bydd angen brechlynnau ychwanegol arnoch.
- Gofynnwch i’ch meddygfa teulu neu ddarparwr gofal iechyd os nad ydych sicr eich bod wedi cael un o’r brechlynnau hyn.
Os nad oeddech wedi derbyn brechiadau cyn gadael am y Brifysgol, gallwch gofrestru gyda meddygfa newydd a chysylltu â nhw am ragor o wybodaeth.
Efallai fydd angen brechiad arnoch i deithio dramor. Cysylltwch â'ch meddygfa am fwy o wybdoaeth. Bydd myfyrwyr rhyngwladol nad ydynt wedi cael brechiadau yn eu gwledydd nhw eu hunain yn gallu eu derbyn o'u meddygfa newydd yng Nghaerdydd yn rhad ac am ddim.
Helpu edrych ar ôl eich hun yn y brifysgol.