Ewch i’r prif gynnwys

Ymgeiswyr sy'n hunan-ariannu

Roedd y prosiectau canlynol ar gael fel ysgoloriaethau. Nawr rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n hunan-ariannu yn y meysydd hyn.

Hysbysebir swyddi a ariennir ar ein tudalennau ysgoloriaethau.

Dylai pob ymgeisydd ddisgwyl cael ei gyfweld gan ddarpar oruchwylwyr.

Prosiectau sydd ar gael ar hyn o bryd

Rhestrir isod y prosiectau sydd ar gael yn yr Ysgol ar hyn o bryd. Dylid cyflwyno ceisiadau trwy wasanaeth ceisiadau Prifysgol Caerdydd. Nodwch deitl a goruchwyliwr y prosiect ar eich cais.

Prosiectau sydd ar gael mewn mathemateg gymhwysol a chyfrifiadurol.

GoruchwyliwrTeitlau'r prosiectau
Dr Katerina Kaouri
  • Calsiwm a mecaneg mewn modelau continwwm embryogenesis a modelau’n seiliedig ar gelloedd
Dr Thomas Woolley
  • Cyfuno damcaniaeth gêm a'r terfyn sŵn gwan i ddeall modelau ecolegol gofodol-amserol symudiadau anifeiliaid
Dr Usama Kadri
  • Symudiad cydgysylltiedig pysgod sy’n cyd-deithio ar hap
  • Canfod tsunami yn gynnar gyda thonnau disgyrchiant acwstig
  • Theori aflinol tonnau disgyrchiant acwstig
  • Ymbelydredd tonnau disgyrchiant acwstig gan wrthrych sy’n taro
  • Rheoli llif hylif nwy o bell mewn piblinellau llorweddol
Yr Athro Tim Phillips
  • Dynameg swigod yn codi mewn hylifau fiscoelastig
  • Dadelfennu cyffredinol priodol ar gyfer hafaliadau darfudiad-trylediad
  • Dulliau PGD sgwariau lleiaf dynwaredol yr elfen sbectrolu
  • Dylanwad cywasgadwyedd ar ddeinameg microswigod wedi’u mewngapsiwleiddio
Dr Chris Davies
  • Sefydlogrwydd llif hylif dros arwynebau anffurf a symudol

Prosiectau sydd ar gael mewn geometreg, algebra, ffiseg fathemategol a thopoleg.

GoruchwyliwrTeitlau'r prosiectau
Yr Athro Roger Behrend
  • Cyfuniadeg
Dr Gandalf Lechner
  • Cynrychioliadau holomorffig grŵp brêd
  • Theori maes cwantwm ac algebras gweithredydd
Dr Ulrich Pennig
  • Grwpiau gwedd a k-theori tro
  • Cohomoleg bwndel parhaus
Dr Mathew Pugh
  • Algebras gweithredydd

Prosiectau sydd ar gael mewn dadansoddiad mathemategol.

GoruchwyliwrTeitlau'r prosiectau
Dr Mikhail Cherdantsev
  • Homogeneiddiad problemau cyfnodol mewn PDEs llinol ac elastigedd aflinol
Yr Athro Nicolas Dirr
  • Esblygiad rhyngwyneb mewn amgylchedd ar hap
  • Dulliau mathemategol ar gyfer pontio graddfa: o systemau gronynnau rhyngweithiol i hafaliadau differol
Yr Athro Alexander Balinsky
  • Dysgu peirianyddol a chloddio data
Dr Jonathan Ben-Artzi
  • Dadansoddiad mathemategol, systemau dynamegol a theori sbectrol
Dr Federica Dragoni
  • PDES aflinol (cyfernodau penderfynedig neu stocastig)
Dr Matthew Lettington
  • Ar ffracsiynau parhaus aml-ddimensiwn
Yr Athro Karl Michael Schmidt
  • Theori sbectrol gweithredwyr gwahaniaethol

Prosiectau sydd ar gael mewn ymchwil weithrediadol.

GoruchwyliwrTeitlau'r prosiectau
Dr Rhyd Lewis
  • Optimeiddio cyfuniadol
Dr Daniel Gartner
  • Datblygu llwyfan ar gyfer rheoli gweithrediadau gofal iechyd sy’n sail i benderfyniadau strategol, tactegol a gweithredol
  • Dulliau metaheuristaidd ar gyfer modelau graffigol tebygoliaeth
Dr Vincent Knight
  • Damcaniaeth gêm
Yr Athro Owen Jones
  • Modelu dynameg paraseit in silico
  • Cynhyrchu pŵer llanw gorau posibl
Dr Iskander Aliev
  • Optimeiddio cyfanrifau
Dr Andrei Gagarin
  • Optimeiddio lleoliad gorsafoedd gwefru ar gyfer cerbydau trydanol mewn rhwydweithiau ffyrdd
Dr Maggie Chen
  • Modelu risg systemig a microstrwythur y farchnad gan ddefnyddio prosesau Hawkes a dulliau rhwydweithiau dynamig

Prosiectau sydd ar gael ym maes ystadegau.

GoruchwyliwrTeitlau'r prosiectau
Yr Athro Anatoly Zhigljavsky
  • Dylunio arbrofion mewn modelau atchweliad gydag arsylwadau cydberthynas
  • Modelu digwyddiadau chwaraeon gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a dulliau ystadegol ar gyfer data mawr
Dr Jonathan Gillard
  • Brasamcanion gradd isel o fatricsau gyda ffocws ar ddulliau ystadegol
Dr Andreas Artemiou
  • Dysgu peiriant a dulliau lleihau dimensiwn ar gyfer setiau data dimensiwn uchel
Dr Andrey Pepelyshev
  • Priodweddau ystadegol graddfa nano a micro arwynebau peirianneg garw a’u priodweddau tribolegol
Dr Kirsten Strokorb
  • Dadansoddiad cadarn o ddigwyddiadau eithafol amlamarywedd
Dr Bertrand Gauthier
  • Anamlder a strwythurau mewn problemau dysgu peiriannol ar raddfa fawr

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, ebostiwch maths-pgr@caerdydd.ac.uk.