Cyfleusterau addysgu
Mae'r Ysgol Mathemateg yn adeilad gwych newydd Abacws sydd â chyfleusterau addysgu rhagorol.
- Ystafell Fasnachu ffug newydd at ddibenion mathemateg ariannol
- Labordai cyfrifiadurol a ddyluniwyd i ganiatáu gwaith grŵp yn ogystal â dosbarthiadau a’r cyfle i astudio ar eich pen eich hun
- Ystafelloedd seminar a darlithfeydd hyblyg sy’n meddu ar gynllun arloesol er mwyn annog pobl i ryngweithio
- Mannau pwrpasol i fyfyrwyr wneud gwaith prosiect
- Mannau y gall ein partneriaid diwydiannol eu defnyddio a bydd y rhain yn rhoi cyfleoedd ymgysylltu rhagorol i'n myfyrwyr.
Mae Abacws yn cynnig y gorau o ran lleoedd addysgu newydd, gan gynnwys darlithfeydd ac ystafelloedd seminar sy’n ein hannog i gydweithio a meddwl yn greadigol.
Mae nifer o leoedd arbenigol yn yr adeilad sy’n golygu bod y myfyrwyr yn gallu gweithio mewn ffordd gyfforddus ac anffurfiol, naill ai ar brosiectau grŵp neu’n astudio ar eu pennau eu hunain.
Ymhlith y nodweddion allweddol eraill y mae: