Ewch i’r prif gynnwys

Deunyddiau’r dyfodol

Materials

Mae cylch amlddisgyblaethol Deunyddiau’r Dyfodol yn cydlynu ymchwil ym maes peirianneg i helpu i lunio’r deunyddiau newydd y bydd eu hangen i ategu datblygiadau technolegol yn y dyfodol.

Ein nodau

Gan gyfuno arbenigedd Ysgol Peirianneg a thrwy gydweithio amlddisgyblaethol, ein nod yw llunio deunyddiau newydd a sbarduno proses eu cynhyrchu a’u nodweddu. Mae’n harbenigedd yn ein galluogi i ganolbwyntio ar amrywiaeth helaeth o ddibenion megis offer meddygol, crochenwaith cywrain, deunyddiau magnetig, deunyddiau ynni a deunyddiau adeiladu cynaladwy.

Ein prosiectau ymchwil

Deunyddiau gwydn am oes

Yr Athro Tony Jefferson sy’n arwain y prosiect hwn o dan nawdd Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC). Rydyn ni’n ei gynnal ar y cyd ag Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Bradford. Rydyn ni’n anelu at drawsffurfio deunyddiau adeiladu erbyn 2022, gan ddefnyddio dull sydd wedi’i fabwysiadu ym mhrosiect Deunyddiau am Oes (M4L) i greu deunyddiau fydd yn ymaddasu yn ôl eu hamgylchedd, yn datblygu’r gallu i wrthsefyll pethau niweidiol, yn pennu dechrau eu dirywio ac yn eu gwella eu hunain pan fo difrod.

Dyma ragor o wybodaeth www.RM4L.com,

Gweithgynhyrchu ychwanegion trwy gyfrwng llinell arbrofol fetel (MANUELA)

Nod MANUELA yw sefydlu gwasanaeth llinell arbrofol gweithgynhyrchu ychwanegion sy’n cwmpasu holl gylch datblygu gweithgynhyrchu ychwanegion megis efelychu, gweithgynhyrchu cadarn, rheoli prosesau ar-lein, nodweddu, adborth ar y pryd, triniaeth ddilynol, protocolau cymwysterau gweithgynhyrchu ychwanegion a model busnes cysylltiedig. Ein cyfraniad yw llunio dulliau dysgu a hel data trwy beiriannau i wneud y gorau o brosesau gweithgynhyrchu ac efelychu deunyddiau gan ddefnyddio data am brosesau a deunyddiau (e.e. i wneud y gorau o brosesau a datblygu deuol digidol). Y Dr Samuel Bigot sy’n arwain y gwaith hwn.

Dyma ragor www.manuela-project.eu.

Celloedd artiffisial, dosbarthedig eu creiddiau, i ddehongli gweithrediad protein

Ar y cyd â Phrifysgol Trento a Phrifysgol Zurich, mae’r Athro David Barrow yn arwain y prosiect hwn o dan nawdd Undeb Ewrop gan anelu at y to nesaf o ddarganfod cyffuriau moleciwlau bychain, bioffiseg proteinau a chynhyrchu ynni biogemegol trwy ddefnyddio platfform technoleg fyw ac arno dechnolegau celloedd artiffisial. Nod y prosiect yw efelychu strwythurau a deinameg celloedd byw a meinweoedd cellog trwy osod sustemau biogemegol a bioffisegol sy’n gallu synhwyro, adlunio, cynnal synthesis a chynhyrchu elfennau electrocemegol ac ynni biogemegol.

Gwella sefydlogrwydd celloedd heulol organig ar sail derbynyddion heb ffwlerîn

Y Dr Zhe Li sy’n arwain y prosiect hwn ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, Imperial College, Eight19 Ltd., NSG Group ac Armor Group o dan nawdd EPSRC i geisio deall mecanweithiau dirywio deunyddiau organig celloedd heulol sydd heb ffwlerîn a gwella eu sefydlogrwydd. Bydd y gwaith hwn yn arwain at ddeunyddiau celloedd heulol effeithlon a chynaladwy.

Manylion grant ESPRC.

Tyfu ac ailfodelu’r galon fochaidd - gwthio mathemateg trwy arbrofion

Nod y prosiect hwn yw nodweddu’r modd y bydd strwythur ac ymddygiad meinwe’r galon yn newid wrth heneiddio. Y Dr Peter Theobald sy’n arwain y gwaith o dan nawdd EPSRC a bydd y canlyniadau’n bwysig o ran dylanwadu ar ffyrdd o drin a thrafod clefyd y galon yn y dyfodol.

Deunydd newydd i gryfhau leinin helmau chwaraeon

Mae’r Dr Peter Theobald yn arwain prosiect o dan nawdd yr American National Football League (trwy Football Research Inc.) i ddeall a datblygu deunyddiau newydd ar gyfer helmau pêl-droed Americanaidd fel y bydd yr offer yn fwy diogel o ganlyniad i’w allu i wrthsefyll ysgytwad.

Effeithiau gweithgynhyrchu ar ddur trydanol ar gyfer gyrru moduron

Y Dr Phil Anderson a’r Dr Jeremy Hall sy’n arwain y prosiect hwn o dan nawdd cynllun KESS2 Undeb Ewrop ar y cyd â Cogent Power Ltd i gyflawni gwaith pwysig ynghylch datblygu deunyddiau a dulliau gweithgynhyrchu newydd ar gyfer sustemau gyrru cerbydau trydanol.

Powdr cryf iawn, di-hollt, Hastelloy X ar gyfer gweithgynhyrchu ychwanegion

Yr Athro Rossi Setchi sy’n arwain y prosiect hwn o dan nawdd Undeb Ewrop a’r byd diwydiannol i gynhyrchu pethau cryf iawn a di-hollt Hastelloy X trwy weithgynhyrchu ychwanegion ar gyfer ceir ac awyrennau.

Ffyrdd amlddisgyblaethol o werthuso faint y gall pethau tenau iawn blygu a glynu

Yr Athro Feodor Borodich sy’n arwain yr ymchwil hon a fydd o les ynghylch deunyddiau glynol ystwyth, deunyddiau sglein, deunyddiau aml eu haenau, celloedd biolegol a bioddeunyddiau. Cymrodoriaeth COFUND Marie Skłodowska-Curie yw hon.

Efelychu effeithiau ymbelydredd ar ddeunyddiau strwythurol niwclear ac awyrennol

Yr Athro Massimiliano Gei sy’n arwain y prosiect hwn i lunio dulliau efelychu a all ddarogan sut y bydd ymbelydredd yn niweidio deunyddiau mewn atomfeydd ac awyrennau.  Cymrodoriaeth COFUND Marie Skłodowska-Curie yw hon.

Ein cyfleusterau a’n galluoedd

  • Mecaneg Gymhwysol: meta-ddeunyddiau, ynysyddion trydanol, deinameg tonnau, deunyddiau cyfansawdd.
  • Prosesu: cemeg wlyb, cymysgu, llifanu, allwthio a bwrw ar gyfer polymerau, crochenwaith, deunyddiau cyfansawdd mân eu helfennau, microhylifeg.
  • Gweithgynhyrchu: gweithgynhyrchu haenau ychwanegion (polymerau a metelau), sintro cyflym, siambrau atgyfnerthu sment a choncrit, ffwrneisi carbonadu a chalchynnu, peiriannu laser, gosod haenau.
  • Nodweddu: mecanyddol, trydanol, magnetig, thermal, cemegol, cemegol-drydanol, sbegtrosgopig, microsgopeg gymhleth (OM, FESEM, AFM, MFM).

Pobl

Arweinydd y cylch

Dr Mark Eaton

Dr Mark Eaton

Lecturer - Teaching and Research

Email
eatonm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5793

Aelodau’r cylch