Ewch i’r prif gynnwys

Byw a heneiddio’n iach

Healthy living and ageing

Mae ymchwil byw a heneiddio’n iach yn ceisio deall a chefnogi astudiaethau ar hirhoedledd a llesiant ar sail ffactorau a phrosesau genetig, moleciwlaidd a chellog.

Trosolwg

Mae byw a heneiddio’n iach yn rhoi i bobl yr amgylchedd a’r cyfle i wneud beth sydd o werth iddyn nhw yn ystod eu hoes.  Afiechydon yw’r prif fygythiad i lesiant pobl.  Prif achosion marwolaeth yn y Deyrnas Unedig yn 2018 oedd:

  • dementia a chlefyd Alzheimer
  • clefydau isgemia'r galon
  • clefydau cerebrofasgwlaidd
  • clefydau resbiradol is cronig
  • canser yr ysgyfaint.

Ein nodau

Rydym yn datblygu’r dulliau newydd wedi’u cyfuno â pheirianneg er mwyn atal afiechydon cysylltiedig ag oed a’u ffactorau risg, eu canfod yn gynnar a rhoi diagnosis yn eu cylch, a’u trin.

Cyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK)

Mae cyflyrau MSK yn effeithio ar filiynau o bobl bob blwyddyn, gan gyfyngu ar eu gallu i fyw a heneiddio’n iach. Ymhlith y cyflyrau hyn mae:

  • osteoarthritis
  • arthritis gwynegol
  • gymalwst
  • poen yn y cefn
  • poen yn y gwddf
  • ffibromyalgia
  • osteoporosis.

Yn 2017 roedd y cyflyrau hyn yn cyfrif am fwy na 22% o gyfanswm y baich afiechyd yn y Deyrnas Unedig.  Mae amlygrwydd yr afiechydon hyn yn cynyddu’n sylweddol gydag oed.

Mae dros 50% o’r bobl dros 65 oed yn y Deyrnas Unedig yn byw gydag o leiaf un cyflwr MSK. Gall hyn olygu byw mewn poen a gorfod delio gyda chyfyngiadau swyddogaethol sy’n gallu effeithio ar fywyd pob dydd, er enghraifft colli medrusrwydd, cryfder a symudedd.

Effeithiau

  • Gall poen a chyfyngiadau swyddogaethol achosi blinder ac iselder o ganlyniad.
  • Poen MSK yw un o’r rhwystrau allweddol i gynnal gweithgarwch corfforol, a gellir ei ystyried yn ffactor allweddol yn nechreuad cyflwr bregus.
  • Mae colli cyfranogiad yn cael effaith ddifrifol ac arwyddocaol ar a yw unigolyn yn mwynhau bywyd.  Mae pobl sydd â chyflyrau MSK yn fwy tebygol o fod ag ansawdd bywyd is na’r rhai heb gyflyrau MSK.
  • Mae osteoarthritis yn arbennig yn achosi heneiddio cyn pryd, a marwolaethau cyn pryd.  Mae pobl ag osteoarthritis yn wynebu risg uwch o farw na phobl debyg o ran oed.

Ein meysydd ymchwil

Nod ein tîm ymchwil yw gwella heneiddio iach ar gyfer y rhai sy’n dioddef o gyflyrau MSK trwy wneud y canlynol:

  • cynnal gwaith ymchwil ar achosion a phatrymau afiechydon MSK er mwyn deall yn well ffactorau sy’n effeithio ar eu dechreuad a’u cynnydd
  • datblygu ymchwil i driniaethau, gan gynnwys monitro adsefydlu a llawdriniaethau
  • darparu adnodd ar gyfer clinigwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid.

Meysydd ymchwil eraill

  • diagnosis a thriniaeth cynnar ar gyfer canser
  • therapi bôn-gelloedd
  • lab-ar-sglodyn
  • uwchsain
  • delweddu meddygol
  • microhylifeg
  • biosynwyryddion
  • ysgerbwd cyhyrol
  • biofecaneg
  • dadansoddi symudiad
  • ffiseg feddygol yr ymennydd a pheirianneg glinigol
  • ffiseg ymbelydredd meddygol a pheirianneg
  • cymwysiadau meddygol ymbelydredd
  • ffiseg meddygaeth niwclear
  • mesur dwysedd esgyrn a chyfansoddiad corff
  • radiotherapi foleciwlaidd
  • cynllunio triniaeth radiotherapi
  • atal anafiadau
  • ysgafnhau
  • gweithgynhyrchu ychwanegion ar gyfer cymwysiadau meddygol
  • orthopedeg: effeithiau triniaethau, effeithlonrwydd a chynllunio llawfeddygol, dosbarthiadau swyddogaethol a monitro adferiad cleifion
  • datblygu dulliau o gywiro symudiad ar gyfer delweddau cydraniad eithriadol uchel.

Pobl

Arweinwyr themâu

Yr Athro Cathy Holt

Yr Athro Cathy Holt

Professor

Email
holt@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4533
Dr Xin Yang (Chris)

Dr Xin Yang (Chris)

Lecturer - Teaching and Research

Email
yangx26@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5708

Tîm ymchwil

Yr Athro Johannes Benedikt

Yr Athro Johannes Benedikt

Professor

Email
benedikt@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6919
Yr Athro William Evans

Yr Athro William Evans

Honorary Professor

Siarad Cymraeg
Email
evanswd1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)77 0217 4012
Dr Zhihua Xie

Dr Zhihua Xie

Lecturer - Teaching and Research

Email
zxie@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9375
Dr Zhangming Wu

Dr Zhangming Wu

Lecturer

Email
wuz12@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0) 29 2087 4542
Yr Athro Emiliano Spezi

Yr Athro Emiliano Spezi

Senior Lecturer - Teaching and Research

Email
espezi@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6521
Dr Peter Theobald

Dr Peter Theobald

Senior Lecturer - Teaching and Research

Email
theobaldps@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4726
Dr Daniel Gallichan

Dr Daniel Gallichan

Lecturer in Medical Imaging

Email
gallichand@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0045
Dr Rhys Morris

Dr Rhys Morris

Honorary Research Fellow

Siarad Cymraeg
Email
morrisrj@caerdydd.ac.uk
Telephone
029 2074 2015
Dr Gemma Whatling

Dr Gemma Whatling

Senior Lecturer - Teaching and Research

Email
whatlinggm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6348
Dr Yulia Hicks

Dr Yulia Hicks

Senior Lecturer - Teaching and Research

Email
hicksya@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5945
Dr Xianfang Sun

Dr Xianfang Sun

Lecturer

Email
sunx2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9355