Ewch i’r prif gynnwys

Cludiant cynaladwy

Mae ymchwil i gludiant cynaladwy yn ymwneud ag amryw ddulliau cludo isel eu carbon ynghyd ag isadeileddau cysylltiedig megis trydan a hydrogen i gynnal cyfundrefnau cyfredol a hwyluso cludiant y dyfodol.

Trosolwg

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn arwain at effeithiau byd-eang y dylai pawb geisio eu lleddfu. Mae Deddf Newid Hinsoddol 2008 yn datgan bod rhaid cwtogi ar allyriadau’r deyrnas hon o leiaf 80% erbyn 2050. Daw 21% o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr y deyrnas trwy gludiant, a cherbydau ar y ffyrdd sy’n gollwng tua 92% o’r ganran honno.

Mae cludiant yn ategu ansawdd ein bywydau a’n gobeithion economaidd, a bydd yn hanfodol i lwyddiant y deyrnas. Y gamp fydd cadw’r ddysgl yn wastad rhwng dau beth sy’n ymddangos yn groes i’w gilydd gan roi i bobl a chwmnïau ragor o ddewisiadau isel eu carbon ynghylch pryd, ble a sut i deithio neu gludo nwyddau.

Mae posibiliadau pellgyrhaeddol o ran cwtogi ar ein hallyriadau, gan gynnwys:

  • cerbydau a threnau sy’n defnyddio trydan glân
  • dylunio awyrennau is eu carbon
  • sustemau gwahanol iawn ar gyfer rheoli gwybodaeth a thrafnidiaeth.

Bydd datblygiadau o’r fath yn ein galluogi i ddibynnu’n llai ar olew a nwyddau wedi’u mewnforio.

Mae’r gorchwylion ymestynnol hynny’n gysylltiedig â nifer o Heriau Mawr Strategaeth Ddiwydiannol y Deyrnas Gyfunol sy’n anelu at wneud y gorau o’r manteision i’r deyrnas yn sgîl y symud byd-eang i dwf glân, a rôl flaenllaw’r deyrnas hon ynglŷn â dylanwadu ar natur symudedd y dyfodol.

Nodau

Mae’n hymchwilwyr yn ystyried pob rhan o’r gyfundrefn. Rydyn ni’n astudio’r hyn sy’n sbarduno newid yn nhrefn ein cludiant megis arloesi technegol, anghenion symudedd unigol a gofynion economaidd dros newid ynghyd â phryderon amgylcheddol a chymdeithasol o ran cynaladwyedd. At hynny, mae angen ystyried rôl ac effaith polisïau a rheoliadau cwtogi ar allyriadau ac a fydd ein cymdeithas yn barod i’w derbyn.

Mae’r ffordd gyfun hon yn ymwneud â gorchwylion y tymor byr, canolig a hir megis trefn y cyflenwi, isadeiledd gwefru’r dyfodol a thechnolegau cysylltiedig ar gyfer cerbydau.

Meysydd ymchwil

Un o brif nodweddion y thema hon yw’r ffordd amlddisgyblaethol o ddatblygu cludiant cynaladwy mewn amryw feysydd megis:

  • awyrofod
  • cerbydau modur
  • rheilffyrdd
  • isadeileddau
  • tanwyddau amgen: biodanwyddau cynaladwy
  • hyrwyddo dewisiadau is eu carbon
  • defnyddio mecanweithiau marchnadoedd i annog pobl i ddefnyddio cludiant is ei garbon.

Cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr PhD

Rydym wedi cael dyfarniad Hwb Hyfforddiant Doethurol Rhyngddisgyblaethol mewn Trafnidiaeth Gynaliadwy. Golyga hyn y bydd rhaglen unigryw ar gael fydd yn cynnig dealltwriaeth holistig o'r diwydiant trafnidiaeth yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â sawl PhD a ariennir yn llawn gyda mwy o gyflog i fyfyrwyr cymwys.

Ariannu ymchwil

Mae £5 miliwn wedi’u rhoi i’r tîm eisoes ar gyfer ymchwil i gerbydau trydan ac mae £8 miliwn wedi’u rhoi ar gyfer ymchwil i’r ‘grid craff’.

Partneriaid

Rydyn ni’n cydweithio â phartneriaid diwydiannol ac academaidd ym mhrif feysydd ein hymchwil.

Partneriaid diwydiannol

Dyma rai o’n partneriaid:

  • Y Grid Cenedlaethol
  • Transport for London
  • TATA Steel
  • Llywodraeth Cymru
  • Aston Martin
  • Western Power Distribution
  • Boeing
  • Innovate UK.

Partneriaid academaidd

Dyma rai o’n partneriaid academaidd:

  • Prifysgol Cranfield
  • Prifysgol Birmingham
  • Prifysgol Bryste
  • Prifysgol Southampton.

Ein hymchwilwyr

Arweinyddion themâu

Tîm ymchwil

Picture of Liana Cipcigan

Yr Athro Liana Cipcigan

Athro Trydaneiddio Trafnidiaeth a Gridiau Smart

Telephone
+44 29208 70665
Email
CipciganLM@caerdydd.ac.uk
Picture of Ze Ji

Dr Ze Ji

Uwch Ddarlithydd (Addysgu ac Ymchwil)

Telephone
+44 29208 70017
Email
JiZ1@caerdydd.ac.uk
Picture of Jun Liang

Yr Athro Jun Liang

Athro Electroneg Pŵer a Rhwydweithiau Pŵer

Telephone
+44 29208 70666
Email
LiangJ1@caerdydd.ac.uk
Picture of Rossi Setchi

Yr Athro Rossi Setchi

Athro mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ar gyfer AI, Roboteg a Systemau Peiriant Dynol (IROHMS)

Telephone
+44 29208 75720
Email
Setchi@caerdydd.ac.uk

Cysylltwch â ni

The Sustainable Transport Group,
School of Engineering,
Cardiff University,
Queen's Buildings,
The Parade,
Cardiff,
CF24 3AA.