Y Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni
Rydym yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n gofyn cydweithio’n agos â’r diwydiant, llunwyr polisïau a'r cyhoedd, a hynny er mwyn defnyddio tystiolaeth ymchwil mewn ffyrdd amrywiol ac arloesol.
Mae ein prosiectau'n defnyddio cyllid cyflym a hyblyg o’r fath i dreialu gwaith ymgysylltu cynhwysol a gwaith rhyngddisgyblaethol arloesol, a hynny er mwyn ysgogi effaith yn y byd go iawn ar raddfa sylweddol.
Mae Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) yn cynnwys cyllid gan bum Cyngor Ymchwil:
- Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)
- Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)
- Y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC)
- Y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)
- Y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC)
- Y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC)
Cyflwynwyd 36 o brosiectau, gwerth cyfanswm o £1,080,608.Yn ddiweddar, argymhellwyd rhoi cyllid i 14 ohonynt, o ganlyniad i alwad gyntaf erioed Prifysgol Caerdydd am geisiadau i’r Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni ddechrau hydref 2022.
Bydd yr alwad nesaf yn cael ei lansio ar 9 Mai 2023 ac yn para naw wythnos. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12 Gorffennaf 2023. Bydd paneli penderfynu’n cael eu cynnal ym mis Medi 2023. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2023. Mae prosiectau llwyddiannus yn para hyd at 12 mis.
Ein hamcanion
Mae Prifysgol Caerdydd wedi'i chysegru i greu newid byd go iawn drwy ei chyllid IAA. Rydym yn anelu at:
- mynd i'r afael â heriau o bwys drwy weithio’n amlddisgyblaethol ar draws Cyfrifon Cyflymu Effaith UKRI a chanolfannau ymchwil y Brifysgol i ehangu ein hymdrechion
- cynnal gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth, sicrhau effaith a throsi
- sefydlu partneriaethau sy'n arwain at greu effaith ystyrlon ar y cyd ar gyfer cymunedau, sefydliadau a phartneriaid, yng Nghymru a thu hwnt
- cyflymu canlyniadau arloesol o bwys mewn partneriaeth â’r diwydiant, y sector cyhoeddus, elusennau a sefydliadau'r llywodraeth.
Cyllid
Mae pedwar Cyngor Ymchwil yn cynnig cronfa Cychwynnydd. Dyma gyllid sbarduno ar gyfer cydweithio o’r newydd.
Mae pob un o'r pum Cyngor Ymchwil yn cynnig cronfa Cyflymydd. Dyma gyllid sy’n atgyfnerthu partneriaethau ac yn cyflymu prosiectau er mwyn sicrhau canlyniadau.
Y terfynau uchaf o ran cyllid ar gyfer pob Cyngor Ymchwil yw:
Cronfa | AHRC | ESRC | BBSRC | EPSRC | MRC | STFC |
---|---|---|---|---|---|---|
Cychwynnydd | £5,000 | £5,000 | £20,000 | £20,000 | Amh | £20,000 |
Cyflymydd | £15,000 | £30,000 | £50,000 | £50,000 | £50,000 | £50,000 |
lleoliadau | £15,000 | £15,000 | £15,000 | £15,000 | £15,000 | £15,000 |
Digwyddiadau | Amh | £3,000 | Amh | Amh | Amh | Amh |
Ymateb cyflym | Amh | £3,000 | Amh | Amh | Amh | Amh |