Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol
Mae ein Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn galluogi ein hymchwilwyr i gael effaith gadarnhaol sy'n gwella canlyniadau i unigolion, yn datblygu cymdeithas, ac yn cryfhau'r economi ledled y DU a thu hwnt.
Rydym yn dyrannu arian i gyflymu effaith ein prosiectau ymchwil trwy bartneriaethau â sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, gan gefnogi secondiadau, digwyddiadau a hyfforddiant. Gellir gweld llwyddiant ein partneriaethau yn y ffaith bod hanner ein prosiectau gorffenedig wedi arwain at waith pellach gyda phartneriaid.
Ers 2018, mae £1.2 miliwn wedi gwella'r nifer sy'n defnyddio ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ymhlith ystod o ddefnyddwyr terfynol, gan gynnwys llunwyr polisi a sefydliadau allanol, gan arwain at ganlyniadau megis gwneud penderfyniadau gwell mewn sefyllfaoedd brys gyda Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân a llywio diwygio etholiadol yn Senedd Cymru.
Rydym yn cefnogi’r gwaith o gyfleu ein hymchwil i ystod eang ac amrywiol o gymunedau trwy ein Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol flynyddol fel rhan o rwydwaith mawr o bartneriaid IAA ESRC sy'n dathlu gwaith y gwyddorau cymdeithasol ledled y DU.
Prosiectau a ariannwyd
Rydym wedi ariannu 160 o brosiectau.
Partneriaid
Rydym wedi gweithio gyda 210 o bartneriaid.
Newidiadau wedi'u dogfennu i bolisïau
Mae prosiectau ESRC wedi ysbrydoli mwy na 50 o newidiadau wedi'u dogfennu i bolisïau
Nodau
- ymgysylltu â chymuned ymchwil ESRC, a'i chefnogi, i rannu gwybodaeth, arferion da a thechnolegau sy'n deillio o ymchwil y gwyddorau cymdeithasol
- cynorthwyo i sicrhau bod y sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector a/neu gymunedau yn gallu ymgysylltu ag ymchwil gwyddorau cymdeithasol, gan alluogi i effaith gael ei chyflawni'n haws
- nodi a chefnogi cydweithrediadau a phartneriaethau o ansawdd uchel
- ehangu gallu academyddion, myfyrwyr a staff gwasanaethau proffesiynol y gwyddorau cymdeithasol i wneud gwahaniaeth yn y byd
Canlyniadau
- mwy o ymchwilwyr sydd â'r sgiliau, cymhelliant a phrofiad i gyfnewid gwybodaeth
- mwy o lythrennedd effaith ymhlith academyddion sy'n cymryd rhan ym mhob cam gyrfa, gan gryfhau ein diwylliant effaith ac arloesi ymhellach
- mwy o ymwybyddiaeth o ymchwil prifysgolion mewn sefydliadau a chymunedau allanol yn ein rhanbarth ac yn fyd-eang, a mwy o fudd iddynt
- cydberthnasau cynaliadwy gydag ystod ehangach o sefydliadau allanol sy'n gweithio gyda'r brifysgol: o ymchwil gydweithredol i ymgynghoriaeth a phartneriaethau trosglwyddo gwybodaeth, i ddod yn bartneriaid craidd gyda'n cymunedau campws arloesi sydd wedi'u lleoli yn sbarc|spark
- ymgysylltu â'r cyhoedd yn well drwy ddigwyddiadau, megis ein Ffair Haf Arloesedd flynyddol, adnoddau a phecynnau cymorth a ddatblygwyd gyda phartneriaid, a hyfforddiant carfan a dosbarthiadau meistr
Cyllid
Rhwng 2018 a 2023, cawsom £1.2 miliwn o gyllid ESRC. Gwnaethom ddefnyddio hwn i lansio tair i bedair galwad cyllid y flwyddyn ar gyfer pedwar categori o brosiectau.
Mae'r alwad nesaf yn cael ei lansio ar 9 Mai 2023. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Gorffennaf 2023. Bydd prosiectau'n cychwyn ym mis Hydref 2023 am hyd at 12 mis.
Math o gronfa | Disgrifiad | Swm y gronfa gychwynnol |
---|---|---|
Cychwynnydd | Cyllid sbarduno a gynlluniwyd i ddatblygu cydweithrediadau newydd | Hyd at £4,000 |
Digwyddiadau | Cyllid i gynorthwyo gyda chynnwys y cyhoedd a diwydiant yn eich ymchwil drwy ddigwyddiadau | Hyd at £3,000 |
Cyllid sbarduno | Cyllid i gataleiddio partneriaethau a chyflymu prosiectau i ganlyniadau | Hyd at £30,000 |
Lleoliadau | Cyllid i ganiatáu i bartneriaid ac ymchwilwyr allanol weithio gyda'i gilydd naill ai o fewn diwydiant neu o fewn lleoliad ym Mhrifysgol Caerdydd | Hyd at £15,000 |
Ymateb cyflym | Cynllun modd ymatebol sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn ar gyfer gweithgarwch digymell sy'n gysylltiedig ag effaith. | Hyd at £3,000 |
Cymorth ychwanegol
Roeddem yn llwyddiannus wrth wneud cais am gymorth arloesi ychwanegol yn y gwyddorau cymdeithasol drwy ddwy gronfa IAA ESRC gysylltiedig.
Masnacheiddio Ymchwil y tu allan i'r Gwyddorau Cymdeithasol (CRoSS)
Cyllid masnacheiddio cam cynnar yw CRoSS i brofi, lleihau risg neu ddangos potensial masnachol syniadau ymchwil newydd. Yn sgil cyllid atodol IAA ESRC, cynhaliodd y brifysgol ei digwyddiad cyflwyno gwyddorau cymdeithasol cyntaf erioed, ‘Devils’ Den’, yn 2022. Cyflwynodd y rhai a gymerodd ran eu syniadau am y cyfle i sicrhau £5,000 i ehangu eu hymchwil a’i datblygu ar hyd y llwybr masnacheiddio i gael effaith.
Mae IAA ESRC ar hyn o bryd yn cynnig cyllid ychwanegol o hyd at £5,000. Gall staff gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio a chyfleoedd hyfforddi ar dudalen fewnrwyd ESRC.
Cronfa Sbarduno Leol (LAF); Lleoliadau Bach yn Seiliedig ar Her gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd
Mae'r Gronfa Sbarduno Leol, sy'n bartneriaeth rhwng y brifysgol a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn un o ddim ond 11 o raglenni a ariennir gan ESRC a ariennir ledled y Deyrnas Unedig i hybu twf, arloesedd a gwytnwch lleol a rhanbarthol. Mae Cronfa Sbarduno Leol Caerdydd (LAF), mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi llwyddo i sicrhau saith cyfle lleoliad bach i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa weithio gyda chymunedau arloesi lleol i fynd i'r afael â heriau lleol, megis mynd i'r afael â thlodi bwyd a thai cynaliadwy.
Astudiaethau achos
Arweinydd Strategol
Dr Dawn Knight yw Arweinydd Strategol IAA ESRC ac fe’i chefnogir gan Sophie Jones, Rheolwr IAA ESRC a Vicky Edwards, Swyddog Effaith.