Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Mae prosiectau Cyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau sy’n cael eu hariannu gan y Brifysgol yn canolbwyntio ar sicrhau dyfodol ffyniannus i gymdeithas a’r economi drwy ymchwil ym meysydd y celfyddydau a’r dyniaethau.

Mae'r cyfrif hwn bellach yn ariannu prosiectau drwy'r Cyfrif Cyflymu Effaith wedi'i Gysoni.

Mae ein prosiectau’n rhoi pwyslais ar bartneriaethau amlddisgyblaethol a chydweithredol. Bydd cyllid ar gyfer prosiectau’n gwella iechyd a lles y byd o'n cwmpas drwy greadigrwydd a yrrir gan werthoedd.

Nodau

Mae cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau’n cefnogi ymchwil o'r radd flaenaf mewn ystod eang o bynciau sy’n amrywio o hanes ac archaeoleg i athroniaeth ac ieithoedd. Mae hefyd yn cefnogi ymchwil sy’n ymwneud â dyluniad ac effeithiolrwydd cynnwys digidol ac effaith deallusrwydd artiffisial. Mae ein nodau ar gyfer prosiectau’r Cyfrif Cyflymu Effaith yn adeiladu ar amcanion Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau:

Darganfod ein hunain

Byddwn yn meithrin ac yn datblygu ymagweddau at effaith ac arloesedd sy'n canolbwyntio ar y profiad dynol, gan gynnwys gyrru a llywio’r cyfraniadau a’r newidiadau penodol y gall ymchwilwyr ym meysydd y celfyddydau a'r dyniaethau eu sicrhau drwy ymchwilio a chynhyrchu ar y cyd â phartneriaid a chymunedau mewn ffordd agored, moesegol ac ymgysylltiedig.

Heriau cyfoes

Byddwn yn helpu ein hymchwilwyr i barhau i fod ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â heriau cyfoes, gan gynnwys dod â dysgu o'r gorffennol a dadansoddi'r presennol i ddychmygu dyfodol newydd.

Asedau diwylliannol

Rydym eisiau bod o fudd i sefydliadau, cymunedau ac unigolion sy'n cadw ac yn eirioli dros ein hasedau diwylliannol (boed yn lleoedd, yn gasgliadau neu’n gymunedau) neu sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd amgylcheddol ac adfywiad a datblygiad economaidd lleoedd sydd wedi'u dad-ddiwydiannu a'u 'gadael ar ôl', yn lleol ac yn fyd-eang.

Yr economi greadigol

Byddwn yn helpu cydweithwyr i barhau i ddatblygu a meithrin partneriaethau sy'n defnyddio methodolegau creadigol i greu sector diwylliannol arloesol, yn enwedig wrth i'r diwydiannau creadigol adfer ar ôl y pandemig.

Cyllid

Bydd yr alwad nesaf yn cael ei lansio ar 9 Mai 2023 ac yn para chwe wythnos. Rhaid cyflwyno'r cais erbyn 12 Gorffennaf 2023 a chynhelir paneli penderfynu ym mis Medi 2023. Bydd canlyniadau ymgeisio yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2023; bydd prosiectau llwyddiannus yn digwydd dros gyfnod o hyd at 12 mis.

Cronfa cychwynnydd

Mae’r ffrwd hon yn cynnig hyd at £5,000 i sbarduno effaith ac arloesedd mewn ardaloedd lle mae buddsoddiad ar raddfa fach yn gallu arwain at fanteision sylweddol. Mae'r ffrwd hon yn meithrin ac yn datblygu prosiectau a phartneriaethau ac yn annog cymryd risgiau, sy’n golygu y gallwch methu’n gyflym.

Cronfa cyflymydd

Mae’r ffrwd hon yn cynnig hyd at £15,000 i ddatblygu a chyflymu effaith a chefnogi cyfleoedd yn sgil heriau sy'n dod i'r amlwg. Mae'r ffrwd hon yn ariannu partneriaethau sydd â hanes profedig o greu effaith, yn ogystal â phartneriaethau newydd a allai ddatblygu’n wirioneddol.

Cronfa lleoliadau

Mae’r ffrwd hon yn cynnig hyd at £15,000.

Rhwng 2022 a 2025, mae Cyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau wedi cyfrannu £450,000 tuag at alwad Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni y Brifysgol, a bydd yn parhau i ariannu prosiectau newydd sy'n cyflawni dyheadau'r Cyngor.

Daeth yr alwad gyntaf i ben ar 16 Tachwedd 2022. Bydd yr alwad nesaf ym mis Mai 2023. Bydd pob prosiect yn para hyd at 12 mis.

Arweinydd Strategol

Dr Jenny Kidd yw arweinydd strategol Cyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mae’n cael ei chefnogi gan Vicky Edwards (Swyddog Effaith, Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd).

Dr Jenny Kidd

Dr Jenny Kidd

Reader and Director of Postgraduate Research

Email
kiddjc2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 74489

Cysylltu â ni

Impact and Engagement Team