Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol
Nod Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol yw cefnogi dyfodol ffyniannus a chynaliadwy drwy droi ymchwil yn gamau gweithredu a newidiadau ymarferol.
Mae'r cyfrif hwn yn ariannu prosiectau drwy'r Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni.
Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu technolegau a systemau y gellir eu defnyddio i gynnal iechyd a lles pobl ac anifeiliaid ac amddiffyn a chwyldroi ein heconomi, ein cymdeithas a'n hamgylchedd.
Nodau
- gyrru'r broses o fasnacheiddio cynnyrch ymchwil cam cynnar drwy gefnogi astudiaethau prawf cysyniad a dichonoldeb technoleg arloesol ar raddfa fach
- prynu arbenigedd i mewn i alluogi ‘methu’n gyflym’ neu bennu peryglon prosiectau a’u datblygu er mwyn gallu eu rhoi a’u waith a’u masnacheiddio
- cefnogi a hwyluso cyfnewid gwybodaeth a datblygu gallu trwy secondiadau tymor byr rhwng cydweithwyr academaidd a darpar ddefnyddwyr terfynol, gan gynnwys partneriaid yn y diwydiant
- cefnogi gwaith datblygu diwylliant drwy gynnig gweithdai cyfnewid gwybodaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar ymgysylltu ag ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa
Cyllid
Rhwng 2022 a 2025, mae Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol wedi cyfrannu £300,000 at alwad gyntaf Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni y Brifysgol, a bydd yn parhau i ariannu prosiectau newydd sy'n cyflawni dyheadau'r Cyngor o dan dri phrif gylch gorchwyl:
Cronfa cychwynnydd
Hyd at £20,000 i wneud adnoddau’n fwy hygyrch, gan gynnwys arbenigedd allanol, ar gyfer pennu peryglon neu ddichonoldeb masnachol prosiect, a fydd yn cyfrannu at strategaethau ymchwil cyffredinol a datblygu prosiectau er mwyn gallu eu rhoi ar waith – mae enghreifftiau'n cynnwys caffael ymchwil i'r farchnad, rhyddid i weithredu ac adroddiadau masnachol.
Cronfa cyflymydd
Hyd at £50,000 i gefnogi prosiectau prawf cysyniad a dichonoldeb technoleg ar raddfa fach i gyflymu ymchwil er mwyn gallu ei rhoi ar waith, a fydd yn sicrhau canlyniadau effeithiol – bydd y gronfa hon yn galluogi academyddion i ddilysu eu hymchwil drwy ‘fethu’n gyflym’ a hel data hanfodol, a fydd yn arwain at sicrhau rhagor o gyllid trosi.
Lleoliadau a chyfnodau preswyl
Hyd at £15,000 i gefnogi secondiadau/lleoliadau cyfnewid tymor byr rhwng y byd academaidd a’r diwydiant i hwyluso cyfnewid gwybodaeth, rhoi cymorth, hyfforddi a/neu sefydlu proses gydweithio newydd – bydd y Cyfrif Cyflymu Effaith yn cefnogi lleoliadau cyfnewid i mewn ac allan ac yn hollbwysig i feithrin cysylltiadau tymor hir â phartneriaid.
Bydd yr alwad nesaf yn cael ei lansio ar 9 Mai 2023 ac yn para 9 wythnos. Rhaid cyflwyno'r cais erbyn 12 Gorffennaf 2023 a chynhelir paneli penderfynu ym mis Medi 2023. Bydd canlyniadau ymgeisio yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2023; bydd prosiectau llwyddiannus yn digwydd dros gyfnod o hyd at 12 mis.
Arweinydd Strategol
Yr Athro Helen White-Cooper yw Arweinydd Strategol Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol. Mae’n cael ei gefnogi gan Dr Chris Hubbard, Swyddog Effaith, Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd.
Yr Athro Helen White-Cooper
Cyfarwyddwr Ymchwil (Arloesi a'r Amgylchedd)