Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrif Sbarduno Effaith Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol

Mae Cyfrif Sbarduno Effaith Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yn helpu i bontio'r bwlch rhwng ein hymchwil a'i hallbynnau.

Mae'r cyfrif hwn bellach yn ariannu prosiectau drwy'r Cyfrif Sbarduno Effaith wedi’i Gysoni.

Mae prosiectau llwyddiannus yn ymgysylltu â'r cyhoedd a byd diwydiant drwy arloesi gyda'r nod o effeithio ar y gymdeithas a'r economi mewn ffyrdd cynaliadwy a chadarn.

rosette

Prosiectau a gafodd gyllid

Gwnaethom ddyfarnu 48 o brosiectau rhwng 2017-2022

people

Academyddion a hyfforddwyd

Wedi ymgysylltu â 417 o academyddion a’u hyfforddi ers 2017

star

Cyllid

Mwy na £900,000 o gyllid IAA rhwng 2017 a 2022

Nodau

  • hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth a symudiad pobl drwy roi cymorth ar gyfer lleoliadau’r ddwy ffordd ym myd diwydiant, adrannau'r llywodraeth a byrddau iechyd
  • cefnogi’r broses o brocera partneriaethau ac ymchwil i'r farchnad er mwyn deall y maes yn well ar y dechrau ac annog defnyddwyr terfynol a busnesau i hwyluso'r gwaith o ddad-beryglu buddsoddiad cyn ymrwymo rhagor o adnoddau neu gyllid
  • cefnogi’r gwaith o fasnacheiddio gweithgareddau effaith cam cynnar drwy ddichonoldeb y dechnoleg ac astudiaethau prawf o gysyniad
  • cynyddu’r graddau rydyn ni’n ymgysylltu ag ymchwilwyr, gan dargedu ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i'w cynnwys yn agenda effaith

Canlyniadau

  • mae ymchwilwyr wedi meithrin gallu, gwybodaeth a sgiliau wrth greu effaith
  • datblygu prosiectau newydd gyda phartneriaid allanol sy'n diwallu anghenion defnyddwyr a rhanddeiliaid
  • lleoedd preswyl a lleoliadau newydd ar gyfer staff y Brifysgol, yn ogystal â staff sefydliadau allanol
  • sicrhau prosiectau dilynol yn sgil ein gweithgareddau effaith drwy gyllid allanol a datblygiadau a noddir gan fyd diwydiant
  • ehangu cyfleoedd ar y cyd sy'n cefnogi ein hymchwilwyr i weithio gyda phrifysgolion eraill yng Nghymru a'n prifysgolion partner yn GW4

Cyllid

Yn sgil IAA yr EPSRC clustnodwyd tua £908,000 i'n hymchwilwyr rhwng 2017 a 2022, gan ariannu 48 o brosiectau a gafodd effaith.

Rhwng 2022 a 2025, mae IAA yr EPSRC wedi cyfrannu cyllid tuag at alwad wedi’i gysoni cyntaf y Brifysgol gwerth £1,229,204 a bydd yn parhau i ariannu prosiectau newydd sy'n cyflawni dyheadau'r Cyngor.

Bydd yr alwad nesaf yn cael ei lansio ar 9 Mai 2023 a bydd ar agor am 9 wythnos. Rhaid cyflwyno cais erbyn 12 Gorffennaf 2023 a bydd paneli penderfynu yn cael eu cynnal ym mis Medi 2023.  Bydd canlyniadau ceisiadau yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2023, mae prosiectau llwyddiannus yn para hyd at 12 mis

Astudiaethau achos

Solcer House

Sbarduno buddsoddiad i dai fforddiadwy, carbon isel ledled Cymru

Mae ein hymchwilwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi dylunio ac wedi adeiladu'r tŷ carbon isel fforddiadwy cyntaf yn y DU gan ddefnyddio technolegau sydd ar gael yn y farchnad.

Partneriaeth ymchwil yn arwain at Glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd

Mae gan ein hymchwil a’n partneriaeth â chyfleuster lled-ddargludyddion cyfansawdd y Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyflawn cyntaf a buddsoddiad o dros £167 miliwn.

Close up of a grid of gold mesh

Glanhau’r broses o gynhyrchu PVC

Mae'r Athro Graham Hutchings o'r Ysgol Cemeg wedi bod yn gweithio tuag at leihau’r peryglon amgylcheddol ynghlwm wrth weithgynhyrchu polyfinyl clorid (PVC).

Arweinydd Strategol

Yr Athro Jo Patterson yw Arweinydd Strategol IAA yr ESPRC ac mae Simon Broadbent (Swyddog Effaith, Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi) yn ei chefnogi.

Yr Athro Jo Patterson

Yr Athro Jo Patterson

Professorial Research Fellow

Email
patterson@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4754

Cysylltu â ni

Impact and Engagement Team