Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Ffocws Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yw cefnogi gwaith prawf cysyniad a dangos dichonoldeb dulliau ymchwil neu syniadau penodol.
Mae'r cyfrif hwn bellach yn ariannu prosiectau drwy'r Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni.
Mae ein prosiectau'n cyflymu allbynnau ymchwil er mwyn iddynt gael eu defnyddio gan ddefnyddwyr terfynol drwy droi ymchwil ffiseg a seryddiaeth yn weithgareddau sy'n cael effaith ar raddfa hygyrch ac ar lawr gwlad. Rydym wedi ymrwymo i ehangu sut rydym yn deall y bydysawd – o'r agwedd leiaf i ddimensiynau seryddol.
Nodau
- cefnogi’r gwaith o droi allbynnau ymchwil yn dechnolegau, prosesau a dulliau arloesol ar gam cynnar
- deall anghenion marchnad yr ymchwil a wnawn i gynyddu ymgysylltiad â pholisïau, y diwydiant a chymunedau ledled y byd
- ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i ddilyn gyrfaoedd mewn pynciau gwyddonol a thechnolegol
Canlyniadau
- ymchwilwyr wedi datblygu’r gallu, y wybodaeth a’r sgiliau i sicrhau effaith
- mwy o dechnolegau masnachol posibl wedi’u datgelu, patentau wedi’u cofnodi a thechnolegau a phrosesau wedi'u trwyddedu
- prosiectau wedi ysgogi newidiadau i bolisïau ar sail ymchwil wyddonol gref, llwybrau effaith gwell a phartneriaethau newydd
Cyllid
Mae cyllid Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg wedi'i ddyrannu mewn tri maes cyffredinol:
Ymgysylltu â busnes
Secondiadau byr i’r byd busnes neu oddi yno neu ddigwyddiadau arddangos i gyflwyno busnesau i ymchwil gymhwysol
Prawf cysyniad
Llu o waith technegol sy’n amrywio o ran dyfnder a hyd yn troi syniadau unigryw yn effaith
Asesiad o botensial masnachol
Arolygon marchnad wedi’u cynnal ar gyfer technolegau newydd i warantu ein bod yn cyflawni'r hyn sydd ei angen ar y diwydiant a'r cyhoedd a sicrhau newid gwirioneddol a chadarnhaol
Rhwng 2022 a 2025, mae Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg wedi cyfrannu £150,000 at alwad gyntaf Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni y Brifysgol, a bydd yn parhau i ariannu prosiectau newydd sy'n cyflawni dyheadau'r Cyngor.
Bydd yr alwad nesaf yn cael ei lansio ar 9 Mai 2023 ac yn para 9 wythnos. Rhaid cyflwyno'r cais erbyn 12 Gorffennaf 2023 a chynhelir paneli penderfynu ym mis Medi 2023. Bydd canlyniadau ymgeisio yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2023; bydd prosiectau llwyddiannus yn digwydd dros gyfnod o hyd at 12 mis.
Un o’r 12 ymgeiswyr gorau
Ni oedd un o'r 12 ymgeisydd gorau am gyllid Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn 2019.
Prosiectau wedi'u creu
Oherwydd y cyllid hwn, roedd yn bosibl cynnal pedwar prosiect prawf cysyniad dros ddwy flynedd.
Cyllid a ddyfarnwyd
Dyfarnwyd £153,326 i'r prosiectau prawf cysyniad a digwyddiadau hyfforddi rhwng 2019 a 2021.
Astudiaethau achos
Yr Athro Marc Pera Titus yw Arweinydd Strategol Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae’n cael ei gefnogi gan Simon Broadbent (Swyddog Effaith, Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd).
Yr Athro Marc Pera Titus
Cadeirydd mewn Cemeg Catalytig Cynaliadwy a Chyfarwyddwr Rhyngwladol