Ewch i’r prif gynnwys

Gwella effaith amgylcheddol digwyddiadau mawr

Datblygodd ein tîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr becyn cymorth gwerthuso i wneud digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol yn fwy cynaliadwy.

Stadiwm Principality

Yn hanesyddol, mae gwerthusiadau o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol wedi canolbwyntio’n fwy ar eu canlyniadau economaidd. O ganlyniad, mae canlyniadau amgylcheddol digwyddiadau o'r fath wedi cael eu hanwybyddu.

Mewn ymateb i hyn, cyfunodd tîm o ymchwilwyr o Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd eu harbenigedd i asesu effeithiau amgylcheddol ac economaidd digwyddiadau mawr.

Roedd ffocws rhyngddisgyblaethol y tîm yn golygu eu bod yn defnyddio dulliau economaidd i ddadansoddi gwariant mewn digwyddiadau ynghyd â dulliau a ddefnyddir i asesu'r effeithiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r gwariant hwn.

Dull cyfun

Yn 2004, tîm Caerdydd oedd y cyntaf i ddefnyddio cyfuniad o ddau ddull sydd eisoes yn bodoli ar gyfer asesu digwyddiadau ar y cyd wrth iddynt werthuso Gêm Derfynol Cwpan yr FA yn Stadiwm y Mileniwm (yr enw ar y pryd) yng Nghaerdydd.

Yn ogystal â dangos y gallai'r dulliau gael eu defnyddio gyda'i gilydd, llwyddodd y tîm i wneud y canlynol:

  • dangos y gellid amcangyfrif allyriadau drwy asesu'r gwariant sy'n gysylltiedig â digwyddiadau
  • nodi'r mathau o wariant a gafodd yr effeithiau amgylcheddol mwyaf
  • ac amlygu sut y gallai lleihau teithio awyr a theithio mewn ceir leihau effeithiau amgylcheddol digwyddiadau yn sylweddol

Roedd gêm rygbi'r Chwe Gwlad yn 2006 yng Nghaerdydd, Grand Départ Tour de France 2007 yn Llundain, a digwyddiadau diwylliannol, gan gynnwys Gŵyl y Gelli 2012, yn cynnig cyfleoedd pellach i’r tîm ymchwil asesu a chymharu effeithiau economaidd ac amgylcheddol digwyddiadau mawr.

Argymhellodd yr ymchwilwyr y dylid defnyddio'r dull cyfunol hwn fel mater o drefn wrth werthuso effaith digwyddiadau gan ei fod yn galluogi trefnwyr digwyddiadau, llunwyr polisïau ac ymgynghorwyr i ystyried effeithiau amgylcheddol ochr yn ochr ag effeithiau economaidd.

Mae mabwysiadu'r dull hwn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi newid sut mae llunwyr polisïau, trefnwyr digwyddiadau ac ymgynghorwyr yn deall ac yn gwerthuso effeithiau amgylcheddol niweidiol eu digwyddiadau.

Cynnal digwyddiadau mwy cynaliadwy

Yn 2016, gwahoddwyd tîm ymchwil Caerdydd i adolygu adran amgylcheddol pecyn cymorth EventIMPACTS UK Sport.

Cyflwynwyd y pecyn cymorth yn 2008 i safoni’r methodolegau ar gyfer effaith digwyddiadau, ac mae'n cael ei reoli ar sail gydweithredol rhwng UK Sport a phartneriaid sy’n cynnwys yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Discover Northern Ireland, Event Scotland a Llywodraeth Cymru.

Ers iddo gael ei ailddatblygu gan dîm Caerdydd yn 2017, mae tua 3,000 o unigolion a sefydliadau yn y DU ac ar draws pum cyfandir wedi cofrestru i ddefnyddio'r pecyn cymorth ar ei newydd wedd, gan arwain at ddigwyddiadau mwy cynaliadwy yn y DU ac yn rhyngwladol.

Yn ystod y flwyddyn honno, cydweithiodd Dr Collins a'r Athro Munday ag UK Sport i gynnal arolwg o ddefnyddwyr cofrestredig y pecyn cymorth. Dangosodd yr ymatebion fod eventIMPACTS wedi cael ei ddefnyddio i asesu effeithiau economaidd ac amgylcheddol digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol gan ystod eang o sefydliadau ar draws 13 o wledydd ledled y byd.

Nododd yr ymatebwyr fod y pecyn cymorth yn helpu i lywio penderfyniadau, polisïau a chamau gweithredu cynllunio, a bod hynny wedi arwain at gynnal digwyddiadau mwy cynaliadwy.

Cardiff Half Marathon  - Starting line

Dangosodd yr arolwg y canlynol:

  • Roedd 47% o sefydliadau yn cytuno'n gryf ei fod wedi gwella eu dealltwriaeth o effeithiau amgylcheddol digwyddiadau ynghyd â'u gwaith gwerthuso
  • Roedd 31% o sefydliadau yn cytuno'n gryf ei fod wedi gwella eu ffordd o feddwl am sut i leihau effeithiau amgylcheddol
  • Roedd 22 o sefydliadau wedi defnyddio adnoddau'n uniongyrchol o adran amgylcheddol eventIMPACTS i lywio penderfyniadau wrth gynllunio a chynnal digwyddiadau
  • Roedd 27% wedi lleihau effaith amgylcheddol negyddol eu digwyddiadau o ganlyniad i ddefnyddio'r pecyn cymorth