Cyfrif Sbarduno Effaith (IAA) y Cyngor Ymchwil Feddygol
Bydd Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn cefnogi ystod eang o brosiectau sydd â photensial masnachol cryf, a hynny er mwyn i'r byd allu mynd i'r afael â phroblemau o bwys mawr drwy gynnig atebion arloesol, gan gyflymu a sicrhau'r effaith a’r budd mwyaf posibl i gleifion.
Mae'r cyfrif hwn ar hyn o bryd yn ariannu prosiectau drwy'r Cyfrif Sbarduno Effaith wedi'i Gysoni.
Mae IAA y Cyngor Ymchwil Feddygol yn ychwanegu at y £3 miliwn o gyllid blaenorol i'r brifysgol (rhwng 2014 to 2022) drwy gynlluniau ‘Hyder yn y Cysyniad’ ac ‘Agosrwydd at Ddarganfod’ y Cyngor Ymchwil Feddygol.
Mae gweithio’n rhyngddisgyblaethol wrth wraidd ein hymchwil a diben penodol yr IAA yw annog prosiectau ar y cyd rhwng prifysgolion, y GIG a byd diwydiant, a hynny er mwyn canolbwyntio ar ddefnydd clinigol a hyfywedd masnachol. Mae hyn yn sail i'n portffolio trosi clinigol a'i botensial o ran trosi.
Rydyn ni wedi ymrwymo i wella iechyd pobl drwy ymchwil darganfod meddygol ar y cyd sy'n diwallu anghenion clinigol sydd heb eu diwallu hyd yn hyn.
Nodau
- creu data neu astudiaethau dichonoldeb cychwynnol i bennu hyfywedd prosiect
- datblygu cysylltiadau rhwng y byd academaidd a byd diwydiant fydd yn gwella dealltwriaeth rhwng y ddau
- cefnogi cyfnodau preswyl a lleoliadau i gyfnewid sgiliau a gwybodaeth
- meithrin perthynas waith â rhanddeiliaid drwy weithdai wedi'u hwyluso. Bydd y rhain yn creu prosiectau arloesol ar y cyd fydd yn cadw mewn golwg y gwaith o sicrhau effaith fuddiol i'r ddwy ochr
Cyllid
Rhoddodd IAA y Cyngor Ymchwil Feddygol fwy na £3 miliwn i'n hymchwilwyr rhwng 2014 to 2022. Dyrennir cyllid yn y dyfodol mewn dau faes eang:
Cyllid sbarduno
Hyd at £50,000 o gyllid i sbarduno prosiectau drwy gydol y llwybr trosi hyd y cam sicrhau canlyniadau. Roedd prosiectau a gefnogwyd drwy gynllun blaenorol ‘Hyder yn y Cysyniad’ gan y Cyngor Ymchwil Feddygol yn canolbwyntio ar optimeiddio a datblygu prototeipiau ac mae’n bosibl eu bod wedi cynnwys adroddiad marchnad neu reoleiddiol i lywio'r camau nesaf.
Lleoliadau
Hyd at £15,000 ar gyfer lleoliadau, yn enwedig o ran partneriaid byd diwydiant. Mae'r cynllun preswyl yn rhoi hyblygrwydd i ystyried a diffinio’r nodau a’r amcanion gyda phartneriaid allanol yn ogystal â meithrin prosiectau hirsefydlog ar y cyd.
Bydd yr alwad nesaf yn cael ei lansio ar 9 Mai 2023 ac yn para 9 wythnos. Rhaid cyflwyno'r cais erbyn 12 Gorffennaf 2023 a chynhelir paneli penderfynu ym mis Medi 2023. Bydd canlyniadau ymgeisio yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2023; bydd prosiectau llwyddiannus yn digwydd dros gyfnod o hyd at 12 mis.
Prosiectau a ariannwyd
Ariannwyd 87 o brosiectau rhwng 2014 a 2022.
Partneriaethau byd diwydiant
Datblygwyd mwy na 80 o bartneriaethau ar y cyd â byd diwydiant.
Cyllid dilynol
Cafwyd mwy na £17 miliwn o gyllid dilynol gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, cynghorau ymchwil eraill a phartneriaid byd diwydiant.
Arweinydd Strategol
Yr Athro Rachel Errington yw Arweinydd Strategol IAA y Cyngor Ymchwil Feddygol ac mae’n cael ei chefnogi gan Dr Chris Hubbard, Swyddog Effaith, Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi’r Brifysgol.