Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn Ysgol fywiog, lewyrchus a chartrefol.

Welsh flag behind held by two people

Er mai ni yw'r adran Gymraeg hynaf yng Nghymru, rydym yn edrych tua'r dyfodol ac ar ddatblygiad ein hiaith, ein cymdeithas a'n hunaniaeth yn y Gymru gyfoes.

Cyfunir astudiaethau ym maes iaith a llên â modiwlau unigryw sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn y Gymru gyfoes. A beth bynnag y bo’r meysydd dan sylw — o farddoniaeth ganoloesol hyd at dechnoleg iaith — byddwn bob amser yn defnyddio dulliau arloesol a blaengar i’w hastudio. Mae'r amrywiaeth eang o fodiwlau ar gael i fyfyrwyr israddedig yn cynnwys astudiaethau cyfieithu, technoleg iaith mewn oes ddigidol, sosioieithyddiaeth, caffael iaith, ethnigrwydd ac amlddiwylliannedd, mapio’r Cymry, a diwylliant Cymraeg dinas Caerdydd, a llawer mwy.

Gyda staff academaidd blaenllaw a gweithgar yn eu meysydd, rydym yn dylanwadu ar fywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol.

Rydym yn bwydo ein harbenigeddau ymchwil i’n dysgu ac yn awyddus i feithrin eich sgiliau a chyfrannu at eich llwyddiant mewn ffordd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i'ch dyfodol. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae 91% o raddedigion yr Ysgol yn gweithio neu yn ymgymryd ag astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio. Cewch nifer o gyfleoedd hefyd i ddilyn cyfnod o brofiad gwaith mewn amrediad o sefydliadau.

Y tu hwnt i raglenni gradd, rydym yn helpu i sicrhau ffyniant yr iaith trwy wasanaethu'r gymuned leol. Mae ein Canolfan Cymraeg i Oedolion yn dysgu'r iaith i dros 1,700 o oedolion yng Nghaerdydd a'r Fro. Yn ogystal â hyn, mae cynllun newydd Cymraeg i Bawb yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim, ochr yn ochr â'u hastudiaethau mewn meysydd eraill.