Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau israddedig, ôl-raddedig a addysgir, ymchwil ôl-raddedig a chyrsiau proffesiynol.

Cewch gyfle i ddysgu'r sgiliau ymarferol a damcaniaethol bydd eu hangen i lwyddo yn eich gyrfaoedd dewisol.

Israddedig

Israddedig

Cynigir amrywiaeth eang o gynlluniau gradd, yn rhan-amser ac yn llawn-amser, gan gynnwys nifer o raddau cydanrhydedd.

Rhaglen MA

Rhaglen MA

Mae’r MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn radd arloesol. Caiff cynnwys y gradd eu teilwra yn ôl diddordebau ymchwil y myfyrwyr a’r arbenigedd o fewn yr Ysgol.

Ymchwil ôl-raddedig

Ymchwil ôl-raddedig

Rydym yn awyddus i ddatblygu ymhellach effaith ein hymchwil ar y byd o'n cwmpas. Rydym yn croesawu myfyrwyr ymchwil i gydweithio â ni er mwyn hybu gwelliannau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

Cyrsiau proffesiynol a Dysgu Cymraeg Caerdydd

Cyrsiau proffesiynol a Dysgu Cymraeg Caerdydd

Mae gennym brofiad helaeth iawn o ddarparu cyrsiau iaith ar bob lefel i gynulleidfaoedd allanol, yn y gymuned ac yn y gweithle. Ceir nifer o wahanol gyrsiau a llwybrau, a’r rheini yn addas ar gyfer ystod eang o anghenion.