Rhaglen MA
Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ar YouTube
Mae ein MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn radd arloesol sy’n cynnig cyfle i ymwneud â maes eang a chyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Mae'n rhaglen hyblyg, lle byddwch yn ystyried y berthynas rhwng llenyddiaeth, iaith, diwylliant a hunaniaeth, ond bydd union gynnwys y cwrs yn cael ei deilwra yn ôl eich diddordebau ymchwil personol ac i gyd-fynd â’n meysydd arbenigedd. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys:
- llenyddiaeth Cymru drwy'r canrifoedd
- ysgrifennu creadigol a beirniadol
- llenyddiaeth plant
- polisi a chynllunio iaith
- theori cyfieithu a methodoleg
- hunaniaeth, ethnigrwydd ac amlddiwylliannedd.
Bydd gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw yn y meysydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau academaidd uwch yn eich maes dewisol a chynnal gwaith ymchwil gwreiddiol. Dyma rai enghreifftiau o waith ymchwil MA arloesol dros y blynyddoedd diwethaf: mapio tirwedd ieithyddol, beirniadaeth o lenyddiaeth greadigol, ymchwil ryngdestunol a llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol, a thechnolegau digidol ac ieithoedd lleiafrifol.
Course | Qualification | Mode |
---|---|---|
Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd | MA | Amser llawn, Rhan amser |
Cysylltu
Dr Rhiannon Marks
Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd