Ewch i’r prif gynnwys

'Pob peth byw': Y cysylltiad rhwng gwerthoedd diwylliannol ac economaidd o fewn systemau dŵr trefol gwydn

Prosiect rhyngddisgyblaethol i gryfhau gwytnwch systemau dŵr trefol yn Hargeisa, Somaliland.

Wrth i boblogaethau trefol yn Affrica Is-Sahara, mae creu systemau dŵr trefol cadarn i gynnal iechyd a glanweithdra dynol yn her datblygu sylfaenol. Mae'r her hon yn ddifrifol yn Somaliland, lle mae trefoli cyflym a thwf economaidd yn creu straen dŵr yn y tymor byr a hir.

Watercarriers
© Dr Adrian Healy

Drwy astudiaeth achos o Hargeisa, mae'r prosiect hwn yn cyfuno mewnwelediadau sosio-hydroleg, economeg dŵr a daearyddiaeth gymdeithasol, i archwilio sut mae gwerthoedd economaidd a diwylliannol yn rhyngweithio ag arferion dŵr anffurfiol i lunio mynediad dŵr trefol. Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan dîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd: Dr Richard GaleDr Adrian Healy a'r Athro Alison Brown o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a’r Athro Max Munday o Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae ymchwilwyr yn gweithio'n agos gyda sefydliadau Somaliland, gan gynnwys y Weinyddiaeth Adnoddau Dŵr, Llywodraeth Somaliland, Awdurdod Dŵr Hargeisa, Prifysgol Gollis a Phrifysgol Hargeisa i gryfhau gwydnwch cyflenwadau dŵr trefol a sicrhau mynediad fforddiadwy at ddŵr diogel i bawb.

Rhagor o wybodaeth

Dr Richard Gale

Dr Richard Gale

Senior Lecturer in Human Geography

Email
galert@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5275
Dr Adrian Healy

Dr Adrian Healy

Principal Research Fellow

Email
healya2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4281
Yr Athro Alison Brown

Yr Athro Alison Brown

Professor of Urban Planning & International Development

Email
brownam@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6519
Yr Athro Max Munday

Yr Athro Max Munday

Director of Welsh Economy Research Unit

Email
mundaymc@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5089