Ewch i’r prif gynnwys

Mynediad at ddŵr daear yn ardaloedd trefol Affrica

Mae archwilio dulliau cyrchu dŵr daear yn cynyddu gwydnwch ardaloedd trefol ar draws Affrica, gan gynnig dealltwriaeth o ddiogelwch dŵr yn ogystal â gwydnwch pobl a lleoedd.

Mae sicrhau mynediad at ddŵr glân i bawb yn hawl ddynol sylfaenol ac yn un o gonglfeini’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Er gwaethaf cynnydd amlwg, mae twf cyflym dinasoedd Affrica dros y blynyddoedd diwethaf wedi herio gallu’r sector cyhoeddus i ateb y galw cynyddol am gyflenwadau dŵr domestig.

WaterFlowOrange
@Devin Sapsford

Mae’r newid mewn amodau hinsoddol, yn arbennig y cynnydd mewn achosion o sychder, yn dwysau’r her ar gyfer llawer o ddinasoedd.

Ar adegau, mae’r cyflenwadau dŵr sydd ar gael yn annigonol i ddiwallu’r galw, gan arwain at ddisgrifio nifer o ddinasoedd fel bod mewn sefyllfa o argyfwng dŵr.

Pan mae darpariaeth awdurdodau cyhoeddus yn annigonol, ac mae’r amodau’n caniatáu, mae llawer o aelwydydd yn comisiynu eu tyllau turio eu hunain er mwyn sicrhau eu cyflenwadau dŵr daear. Mae goblygiadau’r duedd hon, sy’n prysur gynyddu, yn parhau i fod heb eu deall i raddau helaeth.

Drwy gyfrwng cyfres o weithgareddau, rydym yn gweithio gyda chydweithwyr i feithrin dealltwriaeth gryfach o’r grymoedd sy’n llywio’r llu o dyllau turio, a’r goblygiadau posibl ar gyfer gwydnwch yr ardaloedd trefol, cartrefi preswyl a’r ecosystem yn fwy eang.

Mentrau cyfredol

Dewch i wybod mwy am ein prosiectau parhaus a’n gweithgareddau yn ardaloedd trefol Affrica.

Dyfodol dŵr daear

Deall potensial dŵr daear i gynnig dyfodol trefol cynaliadwy yn Affrica.

Capetown

Dŵr daear a gwydnwch yn neheubarth Affrica

Dod i ddeall rôl dŵr daear wrth gefnogi gwydnwch cymunedau a deall yr effeithiau economaidd-gymdeithasol anuniongyrchol sy'n gysylltiedig â'i ddatblygiad yn y tymor byr a'r tymor hir.

Faucet1

Resilience In Groundwater Supply Systems: integrating resource-based approaches with agency, behaviour and choice in West Africa (RIGSS)

Developing and testing an innovative framework for understanding the interplay between environmental resources, social systems and behavioural choices affecting the resilience of groundwater supplies.