Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarnu grantiau Prosiectau Bach y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang i Sefydliad Ymchwil Dŵr Caerdydd

20 Chwefror 2018

Mae ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Dŵr wedi llwyddo i ennill grantiau Prosiectau Bach y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang a gyllidir yn fewnol er mwyn datblygu prosiectau ymchwil cydweithredol gyda phrifysgolion yn Affrica.

Bydd y Grantiau Prosiectau Bach hyn gan y Gronfa'n helpu i ddatblygu dau brosiect ymchwil peilot, dan arweiniad grwpiau amlddisgyblaethol o ymchwilwyr y Sefydliad, i fynd i'r afael â heriau dŵr sy'n ymddangos yn Affrica.

Mewn cydweithrediad â'r Athro Benjamin Mapani a Dr Heike Wanke o Brifysgol Namibia, bydd Dr Isabelle Durance, yr Athro Peter Kille a'r Athro Steve Ormerod yn arwain prosiect ymchwil peilot i asesu perthnasedd a gwerth posibl dulliau eDNA ar gyfer monitro bioamrywiaeth a phathogenau dŵr croyw yn Namibia.

Dyfarnwyd ail grant i Dr Adrian Healy, yr Athro Gillian Bristow a Dr Stuart Capstick. Gan ganolbwyntio ar ddwy ddinas sydd dan straen dŵr ar hyn o bryd, Windhoek, Namibia a Cape Town, De Affrica, bydd yr astudiaeth ryngddisgyblaethol hon a gynhelir mewn cydweithrediad â Dr Gina Ziervogel (Prifysgol Cape Town), Dr Earl Lewis (Prifysgol Namibia) a Dr Anna Matros-Goreses (Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Namibia), yn ymchwilio ymhellach i rôl cronfeydd dŵr tir yn y gwaith o leddfu argyfyngau dŵr.

Mae'r prosiect yn adeiladu ar ymchwil blaenorol yn Nigeria a gyllidwyd gan y Gronfa, oedd yn archwilio’r dewisiadau dŵr y mae aelwydydd a chymunedau yn Nigeria yn eu gwneud, i ddeall sut maent yn dylanwadu ar allu cymunedau i wrthsefyll ergydion amgylcheddol yn y dyfodol.

©Stephanie Thies

Bydd y gwaith a gynhelir yng nghyd-destun y ddau brosiect yn parhau i adeiladu ar y cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia, a ddechreuwyd gan Brosiect Phoenix, i ddatblygu ymchwil y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang sy'n cysylltu dŵr ar gyfer pobl gydag ecosystemau.

Mae'r Sefydliad Dŵr yn barod i ddatblygu prosiectau cydweithredol gyda phartneriaid ledled y byd. Cysylltwch os hoffech gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu’r stori hon