Ewch i’r prif gynnwys

Themâu

Mae ein hymchwil arloesol ym maes imiwnoleg yn arwain at arloesedd clinigol.

Rydym yn canolbwyntio ar bedair thema ymchwil, a hynny i sicrhau datblygiadau meddygol sy'n cael effaith go iawn.

  • imiwno-oncoleg
  • clefydau heintus a phandemigau
  • clefydau llidiol iminwedd-gyfryngol
  • niwro-imiwnoleg

Imiwno-oncoleg

Microscopy image of a tumour

Bob dwy funud, mae rhywun yn cael diagnosis o ganser, ac mae mwy na 160,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yn y DU oherwydd canser.

Imiwnotherapi ar gyfer canser yw un o'r datblygiadau gwyddonol mwyaf arwyddocaol ym maes meddygaeth yn ddiweddar, yn dilyn darganfod y gellir harneisio celloedd T i atal tiwmorau rhag datblygu a’r clefyd rhag cynyddu. Mae ein hymchwil ym meysydd imiwnoleg ac imiwnotherapi’n canolbwyntio ar ddiffinio nodweddion penodol a swyddogaethau gorau celloedd T a defnyddio'r wybodaeth hon i hwyluso’r gwaith o ddatblygu therapïau a brechlynnau canser newydd sy’n seiliedig ar gelloedd T.

Ym maes imiwnotherapi ar gyfer canser, rydym yn canolbwyntio’n benodol ar nodi atebion i broblemau a fydd o fudd i ystod eang o gleifion, gan gynnwys strategaethau modiwleiddio imiwnedd sy’n amrywio o addasu meddyginiaethau presennol at ddibenion gwahanol i fodiwleiddio micro-amgylchedd tiwmorau drwy ddefnyddio triniaethau therapiwtig pwrpasol sy'n seiliedig ar feirysau.

A ninnau’n cael ein hariannu gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a’r sector elusennau, a hefyd drwy ein partneriaethau â’r Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol, Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Canolfan Ymchwil Canser Caerdydd, a’r diwydiannau fferyllol a biodechnolegol, rydym wrthi’n cwtogi ar yr amser rhwng gwyddoniaeth ddarganfod ac astudiaethau clinigol er mwyn gwella canlyniadau cleifion canser yng Nghymru a thu hwnt.

Clefydau heintus a phandemigau

Stock image of coronavirus

Mae clefydau heintus a phandemigau’n bygwth bywyd, iechyd ac economïau. Er mwyn rheoli clefydau heintus presennol a chlefydau heintus yn y dyfodol yn effeithiol, bydd angen ystyried bioleg y pathogen a sut mae'r system imiwnedd yn ymateb i'r haint.  Rydym yn defnyddio ein harbenigedd helaeth mewn feirysau ac imiwnedd gwrthfeirysol i ddeall y rhyngweithio sy’n digwydd rhwng yr organeb letyol a’r pathogen yn rhan o haint, a hynny er mwyn hwyluso’r gwaith o ddatblygu strategaethau ymyrryd, triniaethau a dulliau diagnosio newydd. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu platfformau newydd ar gyfer brechlynnau sy’n seiliedig ar feirysau, gan gynnwys gwneud ymchwil fanwl iawn i imiwnedd amddiffynnol a achosir gan frechlyn.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae ‘Iechyd Cyfunol’ yn ddull uno integredig sy'n ceisio cydbwyso’n gynaliadwy ac optimeiddio iechyd pobl, anifeiliaid ac ecosystemau. Drwy fynd ati mewn ffordd ryngddisgyblaethol, rydym yn ceisio mabwysiadu dull Iechyd Cyfunol er mwyn integreiddio astudiaethau o’r rhyngweithio rhwng y lletywr dynol a’r pathogen, gan gynnwys iechyd anifeiliaid, y gwyddorau ymddygiadol, economeg gymdeithasol, a’r gwyddorau amgylcheddol.

Drwy gyfrwng yr ymchwiliadau amlddisgyblaethol hyn sy’n golygu bod angen cydweithio â’r diwydiant a’r byd academaidd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, rydym yn ceisio sicrhau gwybodaeth a datblygu strategaethau i’n hamddiffyn nawr ac yn y dyfodol rhag clefydau heintus.

Clefydau llidiol iminwedd-gyfryngol

Inflammation

Mae clefydau llidiol imiwnedd-gyfryngol, fel arthritis rhiwmatoid neu lwpws, yn glefydau nad ydynt yn heintus sy'n effeithio ar organau penodol neu sawl organ. Mae ein portffolio ymchwil eang yn ymdrin â grŵp amrywiol o glefydau dynol sy'n rhannu mecanweithiau llidiol neu imiwnyddol cyffredin.

Mae’r thema, sy’n seiliedig ar y cydweithio rhwng gwyddonwyr darganfod ac academyddion clinigol, yn defnyddio dulliau ym meysydd imiwnoleg systemau a meddygaeth systemau i wella’r broses ddiagnostig, y broses haenu a phenderfyniadau o ran triniaeth, a hynny drwy ymchwilio i sail foleciwlaidd a chellol imiwnedd yr organeb letyol, llid y meinwe a chynnydd cronig clefydau. Mae cyllid gan UKRI, y sector elusennau a phartneriaid diwydiannol yn cefnogi ymchwil i glefyd cardiofasgwlaidd, clefyd yr arennau, arthritis, diabetes, llid y meinwe nerfol, clefydau dermatolegol a chlwyfau.

Niwro-imiwnoleg

Neuron

Mae'r system imiwnedd yn chwarae rôl hollbwysig yn rhan o afiechydon niwrolegol a seiciatrig. A ninnau’n rhan o Sefydliad Ymchwil Dementia y DU a Chanolfan Hodge, rydym yn cyfuno arbenigedd imiwnolegol a feirolegol â niwrowyddoniaeth er mwyn nodi'r therapïau newydd a gwell sydd eu hangen ar fyrder yn y maes meddygol hwn. Dan arweiniad yr hyn rydym yn ei ddeall ar gyfer astudio clefydau niwrolegol a seiciatrig yn enetig, rydym yn canolbwyntio'n benodol ar nodi sut mae ymatebion llidiol yn cyfrannu at y cyflyrau hyn. Rydym hefyd yn ceisio deall sut y gall heintiau ddylanwadu ar gynnydd clefydau.

Ein nod yw deall y rôl y mae'r system imiwnedd yn ei chwarae wrth adnabod poen. Mae ehangu’r maes ymchwil hwn yn hollbwysig, gan y bydd i hyn oblygiadau sylweddol i glefydau llidiol cronig lle mae’r system imiwnedd hefyd yn cyfrannu at iselder, blinder, anhwylderau sy’n effeithio ar dymer, a newidiadau mewn patrymau cysgu. Mae gweithio mewn ffordd gydweithredol ac amlddisgyblaethol yn ein galluogi i gael effaith go iawn ym maes clefydau niwro-imiwnolegol.

Data a Deallusrwydd Artiffisial

Mae a wnelo Imiwnoleg Systemau â dehongli bioleg gymhleth y system imiwnedd trwy integreiddio data a gafwyd drwy ddefnyddio technolegau arbrofol ar raddfa fawr a chan gymhwyso Deallusrwydd Artiffisial (AI). Nod y thema hon yw gweithredu gweithgareddau ymchwil penodol ym maes AI yn ogystal ag ymuno â'r gweithgareddau a arweinir gan ddata ym mhob thema arall yn y sefydliad ymchwil hwn.

Mae pa mor barod yw data (data-readiness) ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial yn bwnc llosg, ac fe’i trafodir yn Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial Genedlaethol llywodraeth y DU, sy'n gorchymyn cael data sy’n dwyn y byrfodd Saesneg FAIR: Data sy'n Ganfyddadwy, Hygyrch, Rhyngweithredol ac Ailddefnyddiadwy (FAIR).  Mae data FAIR yn prysur ddod yn safon de facto ym maes AI yn y Gwyddorau Bywyd, a cheir gweithgareddau’n ffocysu ar hyn mewn prosiectau ledled Ewrop megis ELIXR-CONVERGE ac EOSC-Life.

Trwy gyplysu stiwardio data FAIR yn effeithiol, integreiddio ac AI, ein nod yw datblygu’r gwaith sy’n cael ei wneud o ran darganfod bioleg imiwnedd newydd a datblygu profion diagnostig a therapiwteg.

Arweinwyr themâu ymchwil

I gael rhagor o wybodaeth am ein gweithgareddau ymchwil, cysylltwch â’r rhai sy’n arwain ar y themâu:

Yr Athro Ian Humphreys

Yr Athro Ian Humphreys

Athro Pathogenesis Feirysol a Chyd-gyfarwyddwr Arweiniol y Sefydliad Ymchwil ar Imiwnedd Systemau

Email
humphreysir@caerdydd.ac.uk
Telephone
02920 687012
Yr Athro Awen Gallimore

Yr Athro Awen Gallimore

Professor

Siarad Cymraeg
Email
gallimoream@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7012
Yr Athro Kathy Triantafilou

Yr Athro Kathy Triantafilou

Chair

Email
triantafilouk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29207 42802/44184
Yr Athro Simon Jones

Yr Athro Simon Jones

Chair

Email
jonessa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7325