Immunophenotyping capabilities
Ynghyd â’n partneriaid yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd a’r Fro a Chanolfan Ganser Felindre, yn dod â gwyddonwyr a chlinigwyr sydd â diddordeb mewn imiwnotherapi trosiadol at ei gilydd.
Er bod ystod eang o imiwnotherapiwteg newydd yn cael eu profi mewn clefydau sy'n amrywio o lid i ganser, yn aml mae bwlch yn ein dealltwriaeth o'r mecanweithiau biolegol sy'n sail i'r ymateb i driniaeth. Mae angen biofarcwyr hefyd i asesu llwyddiant triniaeth.
Rydym yn cefnogi dyfnder ac ehangder sylweddol o arbenigedd imiwnolegol wrth ymchwilio i fecanweithiau biolegol afiechyd, biofarcwyr llwyddiant triniaeth yn ogystal ag adnabod cydberthynas imiwnedd sy’n benodol i antigenau. Mae meysydd arbenigedd dethol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol):
Gwrthgorff:
- Datblygu a defnyddio profion serolegol ar gyfer mesur imiwnedd a achosir gan frechlyn.
- Labordai cynhwysiant uchel (BSL3) ar gyfer mesur ymatebion gwrthgyrff penodol sy’n niwtraleiddio i firws.
- Datblygu a mesur ymatebion gwrthgyrff swyddogaethol nad ydynt yn niwtraleiddio (e.e. ADCC, ADCP, CDC) yn erbyn firws byw.
- Y gallu i ynysu, dilyniannu ac ail-fynegi gwrthgyrff sy’n benodol i antigenau gan roddwyr dynol ar gyfer dadansoddiad monoclonaidd/repertoire.
Celloedd T:
- Profion trwybwn uchel ar gyfer mesur ymatebion celloedd T sy'n benodol i antigenau (e.e. ELISPOT a phrofion gwaed cyfan, gan gynnwys profion achrededig).
- Dadansoddiad manwl iawn (~50 lliw) pwrpasol o imiwnedd celloedd T sy'n benodol i antigenau a ffenoteip (e.e. cof bôn-gelloedd, a chydberthnasau eraill o imiwnedd cellog amddiffynnol a achosir gan frechlyn).
- Didoli / clonio celloedd T ar gyfer dadansoddiadau repertoire TCR.
Firoleg/Profion Swyddogaethol:
- Profiad sylweddol o weithio gydag ystod eang o bathogenau, gan gynnwys pryderon cyfredol fel HCMV, SARS-CoV-2, a Ffliw.
- Arbenigedd blaenllaw mewn modelau llygod o haint firaol, gan gynnwys cyfleusterau ar gyfer arbrofion her cynhwysiant uchel (BSL3).
- Hanes sefydledig o ddatblygu a manteisio ar brofion seiliedig ar gelloedd ar gyfer astudio gallu celloedd T sy'n benodol i bathogenau ac ymatebion celloedd NK a achosir gan bathogenau er mwyn rheoli heintiau firaol/lledaeniad in vitro mewn modd swyddogaethol.
Cyflenwad:
- Arbenigedd rhyngwladol blaenllaw mewn bioleg gyflenwi, rolau cyflenwi mewn clefydau a therapiwteg cyflenwi.
- Setiau profi sefydledig a dilys i fesur cydrannau cyflenwi, rheolyddion, cynhyrchion actifadu a gweithgarwch swyddogaethol mewn hylifau a meinweoedd biolegol mewn pobl a modelau.
- Cyfuno biofarcwyr cyflenwi â geneteg gyflenwi i archwilio perthnasedd i glefydau ymhellach.
Lipidomeg:
- Mae gennym y gallu i gynnal dadansoddiadau lipidomig pwrpasol – i’w trafod fesul achos.
Cydweithrediadau
Rydym yn gweithio ar y cyd â Biotech, Pharma a’n Sefydliadau Ymchwil Clinigol lleol, ImmunoServ, TeloNostiX a CanSense.
ImmunoServ
Gall y tîm yn ImmunoServ ddylunio a chyflwyno pecynnau gwaith wedi'u teilwra i'ch prosiectau ymchwil penodol, gan gynnal profion imiwnedd sydd wedi'u sefydlu ymlaen llaw neu wedi'u haddasu yn ôl yr angen.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
TeloNostiX
Mae TeloNostiX yn gwmni diagnosteg in vitro sy'n darparu dadansoddiadau hyd telomerau manwl iawn ar gyfer cymwysiadau clinigol ac ymchwil. Yn seiliedig ar Ddadansoddiad Hyd Telomerau Sengl (STELA), mae gan dechnolegau platfform TeloNostiX gymwysiadau ar gyfer cael rhagolwg a rhagfynegi ymateb i driniaeth ar gyfer cleifion canser unigol, treialon clinigol wedi'u haddasu yn ôl risg, therapiwteg cellog ac anhwylderau sy'n gysylltiedig â thelomerau.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
CanSense
Mae CanSense yn darparu prawf gwaed cywir, anfewnwthiol, rhad i wneud diagnosis cynnar o ganser y coluddyn.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.