Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Mae ein hymchwil, sydd wedi'i seilio ar systemau biolegol, yn cyfrannu at ddatblygiad diagnostig, therapïau a brechlynnau yn erbyn rhai o fygythiadau mwyaf iechyd cyhoeddus ein hoes.

Chronic inflammation

Mae'r system imiwnyddol yn gweithredu fel rhwydwaith soffistigedig o strwythurau a phrosesau biolegol sy'n hwyluso gwahaniaethu rhwng y cyflwr arferol a'r "perygl" a achoswyd gan gyfryngau heintus, anafiadau a datblygiad tiwmorau.

Er mwyn helpu i gynnal uniondeb corff iach, mae celloedd gydag a heb imiwnedd yn cyfathrebu gyda'i gilydd yn barhaus. Yn ddelfrydol, mae rhyngweithio o'r fath yn sefydlu amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau pathogenig ac yn trwsio meinwe ac yn helpu gwella briwiau, Pan fydd y cydbwysedd bregus rhwng y rhyngweithiadau hyn yn gwyrdroi, mae clefydau difrifol a chronig yn datblygu.

Mae ymchwil am y mecanweithiau sylfaenol hyn a manteisio arnynt yn y clinig yn cyfrannu at ymyriadau a brechiadau ac yn berthnasol iawn i iechyd cyhoeddus. Ein bwriad yw adnabod yr hanfodion molecwlar a chellog sy’n sail i heintiau, enynfâu a thrwsio meinweoedd a deall sut gall ymatebion y system imiwnedd fod yn gronig, yn aneffeithiol ac yn niweidiol iawn.

Mae ein timau rhyngddisgyblaethol yn ymdrin ag ymddangosiad brawychus heintiau nad oes modd eu trin, twf alergeddau ac anhwylderau a sialensiau iechyd sylweddol poblogaeth sy'n heneiddio'n fyd-eang.

Mae cymhlethdod y system imiwnyddol yn golygu bod yn rhaid defnyddio archwiliadau 'data mawr' fel proffilio mynegiadau genynnau a sgrinio trwybwn uchel, cysylltu genomau eang ac astudiaethau cysylltiedig. Mae gwybodaeth o'r fath yn bwydo dulliau a seilir ar systemau trwy fodelu mathemategol a rhagfynegi.