Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogwch ni

Tîm Caerdydd yn rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd yn 2023
Rhedwyr #TîmCaerdydd yn Hanner Marathon Caerdydd 2023

Cenhadaeth y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau yw deall rôl y system imiwnedd mewn cyflyrau megis canser, clefydau heintus, dementia, diabetes, clefyd y galon ac arthritis.

Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio ein gwybodaeth am y system imiwnedd i ddatblygu brechiadau ataliol, diagnosteg newydd, a thriniaethau arloesol ac imiwnotherapïau i drin y clefydau pwysig hyn, a hynny o ganlyniad i gyfraniadau amhrisiadwy ein cefnogwyr. Mae'r gefnogaeth hanfodol hon ar gyfer ymchwil flaengar yn sicrhau bod therapïau newydd yn cael eu trosglwyddo o fainc y labordy i ymyl y gwely yn yr ysbyty.

Sut gallwch chi gefnogi ymchwil imiwnedd systemau ym Mhrifysgol Caerdydd

Gwneud rhodd

Mae rhoddion hael yn cyfrannu arian sylweddol tuag at ymchwil imiwnedd systemau, gan gynnwys ymchwil canser bob blwyddyn. Mae rhoddion gan unigolion a sefydliadau yn hanfodol i sicrhau dyfodol y Sefydliad a sicrhau bod ein hymchwil hanfodol yn parhau.

Make a donation

Mae’r rheiny sy'n rhoi £1,000 neu fwy mewn blwyddyn academaidd yn dod yn aelodau o Gylch Caerdydd.

Os ydych yn ymddiriedolaeth, neu sefydliad a allai helpu i’n cefnogi drwy grant neu ddyfarniad, cysylltwch â:

Eleanor Hewett

Eleanor Hewett

Uwch-reolwr Datblygu

Email
hewette@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0372

Rhoddion er cof

Mae llawer o bobl yn dewis rhoi arian er cof am rywun annwyl. Mae'n ffordd o goffau sy'n rhoi gobaith i’r dyfodol. Cofiwch eich anwylyd gyda phlac a’u henw arno yn ein gardd goffa. Rhagor o wybodaeth.

Gadael rhodd yn eich ewyllys

Mae rhoddion mewn ewyllys yn ffordd wych o ddangos eich cefnogaeth a chael effaith barhaol ar ddyfodol systemau imiwnedd ac ymchwil canser. Gallwch chi helpu i wella diagnosis, triniaeth, a gofal am genedlaethau’r dyfodol. Gall ein Swyddog Cymynroddion helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Dysgwch ragor am adael rhodd yn eich ewyllys.

Codi arian

Mae gwaith codi arian ym Mhrifysgol Caerdydd yn cefnogi ymchwil canser drwy raglen Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser (FLiCR). Mae codi arian ar gyfer ymchwil canser yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth a chael hwyl. Chi sy’n dewis sut i godi arian – heriwch eich hun wrth redeg Hanner Marathon Caerdydd neu drefnu eich gweithgaredd neu ddigwyddiad codi arian eich hun. Bydd 100% o'r arian y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei dderbyn o’r ymdrechion codi arian hyn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer ymchwil. Gall unrhyw un godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd ac mae ein Swyddog Codi Arian Cymunedol wrth law i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Cefnogaeth gorfforaethol

Mae codi arian corfforaethol yn ffordd wych o ymgysylltu â staff, hybu ysbryd tîm, bodloni amcanion cyfrifoldeb corfforaethol ac arddangos cefnogaeth eich sefydliad i ymchwil canser. Rhagor o wybodaeth am godi arian corfforaethol.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â'n tîm codi arian i gael rhagor o wybodaeth.

Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr