Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Mentora Ehangu Mynediad i Feddygaeth (WAMMS)


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg
  • Ar gael yn Gymraeg

Mae ein mentoriaid ar gael i ymweld â disgyblion blwyddyn 11 i 13 mewn ysgolion ledled Cymru i gynnal gweithdai ar y broses gwneud cais i’r ysgol meddygaeth.

Bydd hyn yn cynnwys cais UCAS, ysgrifennu datganiad personol a pharatoi ar gyfer cyfweliad.

Trwy ymgysylltu â’r disgyblion fel hyn, bydd yn eu cynorthwyo i wneud cais i astudio meddygaeth yng Nghymru a’r DU – gan ddatblygu eu gwybodaeth a magu eu hyder yn ystod y broses ymgeisio.

Cynhelir y rhaglen hon drwy gydol y flwyddyn academaidd, o fis Medi i fis Mehefin.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Engagement Team, School of Medicine sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Karen Edwards yn edwardske4@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2074 2104 i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Mae mentora ar gael i ysgolion ledled Cymru yn ystod y flwyddyn academaidd gyfan, o fis medi i fis Mehefin. Anfonwch ebost atom i wneud ymholiad.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Themâu cwricwlwm

  • TickIechyd a lles
  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg
  • TickGwyddorau bywyd

Math o weithgaredd

  • TickMentora
  • TickCefnogaeth gan fyfyriwr y Brifysgol
  • TickCyflwyniad neu ddarlith
  • TickGweithdy

Diben

  • TickHyrwyddo addysg uwch
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn