Ewch i’r prif gynnwys

Antur

Mountainous terrain surrounding a lake.

Os ydych yn mwynhau dianc o’r ddinas, mae Caerdydd yn ddewis perffaith fel lleoliad ar gyfer astudio dramor. Oherwydd maint Cymru, gallwch fwynhau traethau, llynnoedd, coedwigoedd, gweunydd, afonydd a mynyddoedd i gyd mewn diwrnod.

Mae’r dudalen hon yn rhoi rhai syniadau am weithgareddau antur yng Nghymru, ond wrth gwrs, nid yw popeth yn cael ei drafod yma. Gallwch weld mwy o wybodaeth ar wefan Croeso i Cymru.

Os ydych yn fabolgampwyr proffesiynol neu amatur, y ffordd orau i brofi antur yw ymuno â chymdeithasau chwaraeon perthnasol Undeb y Myfyrwyr. Maent yn trefnu teithiau sydd wedi'u sybsideiddio a chewch gyfle i gwrdd ag eneidiau hoff cytûn.

Heicio

Mae'n anodd cael gwell lle na Chymru os ydych chi'n heiciwr. Gyda thri pharc cenedlaethol a'r unig lwybr yr arfordir yn y byd y gallwch gerdded ei 870 milltir yn ei gyfanrwydd, mae gennych ddigon o ddewis. Yn agos i Gaerdydd, mae digon o gyfleoedd heicio ym Mannau Brycheiniog, Bro Morgannwg a Fforest  y Dena. Gallwch hefyd heicio ar hyd Taith Taf, sef llwybr 55 milltir o Gaerdydd i Aberhonddu.

Efallai’r ardal fwyaf poblogaidd i heicwyr yw Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n gartref i fynydd uchaf Cymru, Yr Wyddfa, fel mae'r fideo isod yn dangos.

Gwylio fideo youtube am antur ym March Cenedlaethol Eryri.

Marchogaeth a Beicio

Wrth gwrs, mae ffyrdd eraill i brofi golygfeydd Cymru a cheir digon o lwybrau i ffwrdd o'r traffig i feicwyr a marchogion.

Mae marchogaeth ar draethau Sir Benfro yn gyfle na allwch ei golli. Mae yn ddigonedd o gyfleoedd i feicwyr mynydd ar draws Cymru hefyd gyda rhai beicwyr dewr yn mwynhau rasio i lawr y mynyddoedd serth.

Gwyliwch fideo ar youtube am feicio i lawr mynyddoedd yng Nghymru

Arfordira a chwaraeon arfordirol arall

Dyma leoliad perffaith ar gyfer chwaraeon dŵr hefyd, os ydych yn hoffi hwylio, syrffio, hwylfyrddio neu ganŵio. Mae gan Gaerdydd Canolfan Dŵr Gwyn yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol sy'n werth ymweliad.

Efallai nad ydych wedi clywed am arfordira, ond cafodd ei ddyfeisio yng Nghymru a bellach mae’n un o’r chwaraeon antur sy’n tyfu’n gyflym yn y DU. I bob pwrpas, fel mae’r enw’n awgrymu – rydych yn croesi’r arfordir mewn unrhyw ffordd (diogel) y dymunwch, sy’n gallu cynnwys (ond ddim yn gyfyngedig i) nofio, dringo, neidio ar hyd creigiau a sgramblo. Mae modd i chi fynd ar deithiau cerdded yn y dull Nordig hefyd ym mynyddoedd Cymru fel mae'r fideo isod yn dangos.

Fideo Youtube am deithiau cerdded Nordig yn Ngogledd Cymru.

Dringo ac abseilio

Gyda Chaerdydd mor agos i Fannau Brycheiniog a’r Mynyddoedd Duon (ac amrywiaeth anhygoel o glogwyni môr), gallwch ddychmygu ei fod yn lleoliad poblogaidd i ddringwyr.

Gallwch hefyd feithrin eich sgiliau yng Nghanolfan Dringo Creigiau Dan Do yng Nghaerdydd. Mae'r Ganolfan yn cynnig gostyngiad i fyfyrwyr yn wythnosol.

Gweithgareddau eraill

Dyma flas yn unig o'r gweithgareddau antur sydd ar gael yng Nghymru.

Gallwch fynd i ogofa, dysgu saethyddiaeth, hwylio mewn caiac a datblygu sgiliau coedwriaeth. Er nad yw Cymru’n cael llawer o eira, gallwch fynd i sgïo neu eirafyrddio ar lethr sgïo sych ger Caerdydd hefyd. Ymunwch â Chymdeithas Chwaraeon Eira Prifysgol Caerdydd a gallwch fynd ar daith i’r Alpau Ffrengig.