Ffisiotherapi (MSc)
- Hyd: Tair blynedd
- Dull astudio: Rhan amser
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd
Mae ceisiadau ar gyfer y cwrs yma ar gau ar hyn o bryd. Bydd ceisiadau ar gyfer mynediad 2024/25 yn agor ddechrau mis Hydref.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Fel ffisiotherapydd cymwysedig, bydd yr MSc hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich proffesiwn p'un a ydych yn chwilio am ddyrchafiad o fewn ymarfer clinigol neu'n symud i'r byd academaidd neu ymchwil.
Ymunwch â ni ac astudio mewn Ysgol sydd yn y 3 uchaf yn y DU am Ffisiotherapi (BSc) yn ôl The Times and Sunday Times Good University Guide 2019.
Mae ein rhaglen ôl-raddedig wedi'i chynllunio ar gyfer ffisiotherapyddion cymwysedig, ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Mae'n rhoi cyfle i chi fynd â'ch dysgu i'r lefel nesaf, gan wella eich sgiliau a'ch gwybodaeth er mwyn herio a gwerthuso eich ymarfer proffesiynol eich hun yn feirniadol a llywio gofal iechyd ffisiotherapi yn eich gwlad. Bydd y rhaglen yn helpu i lywio'r ffordd rydych yn ymarfer, gan gefnogi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli newid, a gwella gwasanaethau i wella gofal cleifion. Rydyn ni’n ymdrechu i wneud yn siŵr eich bod chi’n barod ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa.
Byddwch yn dysgu mewn amgylchedd cefnogol a chewch gyfle i deilwra eich modiwlau dewisol mewn ffordd sy'n gweddu orau i'ch anghenion. Mae ein modiwlau'n cwmpasu ystod o feysydd arbenigol gan gynnwys cyhyrysgerbydol,
niwro-adsefydlu ac anadlu cardiofasgwlaidd. Rydyn ni hefyd yn ymdrin â dulliau ymchwil i gefnogi eich dysgu ar lefel Meistr. Nod y rhaglen yw datblygu eich meddwl beirniadol i'ch cefnogi i fod yn arbenigwr yn eich maes ymarfer a gwella eich cyflogadwyedd yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Bydd ymchwilwyr ac academyddion profiadol sy’n arbenigwyr yn eu meysydd yn cefnogi eich dysgu. Caiff tiwtor personol ei ddyrannu i chi, a fydd yn eich helpu gyda’ch astudiaethau. Efallai y byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau tiwtor personol mewn grŵp a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau mentora gyda'ch cyfoedion. Yn ogystal, byddwch yn dysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol o fyfyrwyr byd-eang sy'n astudio ar wahanol gamau yn eu gyrfa, gan rannu gwybodaeth a meithrin dealltwriaeth o ymarfer ffisiotherapi ledled y byd.
Mae eich amgylcheddau dysgu yn cynnwys ein labordy ffisiotherapi a'n hystafelloedd efelychu pwrpasol. Mae gennym amrywiaeth o offer yn yr Ysgol, fel melin draed gwrth-ddisgyrchiant a chanolfan cipio symudiadau, ynghyd ag offer arall a ddefnyddir i ddadansoddi symudiadau pobl.
Nodweddion unigryw
Here are some of the key features of why we think our programme will make you the best physiotherapist you can be:
- The opportunity to learn in a School ranked in the top three in the UK for physiotherapy (BSc) by the Complete University Guide 2019.
- The opportunity to learn in a School ranked 4th in the UK overall and 1st for our research environment in the 2014 Research Excellence Framework assessment (under Allied Health Professions, Dentistry, Nursing and Pharmacy).
- The opportunity to work with internationally renowned researchers such as Professor Shea Palmer, Professor Nicola Phillips (OBE), and Dr Val Sparkes: as well as clinicians who are Advanced Physiotherapy Practitioners in their speciality.
- Be part of a School that has engagement with external partners embedded in our work, playing a vital role in enhancing the quality of our core activities of research, education and scholarship
- Benefit from a range of physiotherapy equipment to enhance your learning, including a specifically designed research lab and simulation suite.
- Benefit from learning alongside a globally diverse group who are studying at various points in their career.
- We offer a free bespoke in-sessional English language course to support healthcare international students. Please note that places are limited.
- All our teaching sessions are captured on recording and made available online* for students to review and revisit during their learning. (*where appropriate to do so)
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.
Meini prawf derbyn
A degree in Physiotherapy (UK diploma or equivalent in Physiotherapy). Only qualified physiotherapists are eligible to apply.
12 months (full-time equivalent) clinical experience is required prior to starting the programme. This should be evidenced by an employer or colleague reference.
Applications are considered on a personal statement where a judgement is made on your suitability for the programme.
You must address the following points in your personal statement, this list is not exhaustive:
- Why have you selected this programme?
- What interests you about this programme?
- Any relevant experience related to the programme or module content.
- How you plan to use the qualification in your career.
- How you and your profession will benefit from your studies.
- Why you feel you should be given a place on the programme.
Application deadline:
End of July of each academic year. Your application may be considered after this date but it may be for a later intake.
English Language Requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 and 5.5 in all subskills.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae'r rhaglen MSc Ffisiotherapi yn fodiwlaidd, a rhaid i fyfyrwyr gwblhau 120 credyd yng nghydran a addysgir y rhaglen a 60 credyd arall yng nghydran y traethawd hir. Mae 60 credyd yn fodiwlau craidd, ac mae 60 credyd yn ddewisol. Trefnir y modiwlau a addysgir mewn fformat bloc a chânt eu cynnal drwy gydol y semester.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Blwyddyn un
Ym Mlwyddyn Un byddwch yn cwblhau un modiwl craidd (30 credyd) ac un modiwl dewisol (30 credyd) sy'n cyfateb i 60 credyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Research methods and data analysis in healthcare | HCT343 | 30 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sport and Exercise Participation, Inter-Disciplinary Management and Injury Prevention | HCT023 | 30 credydau |
Musculoskeletal Diagnosis and Treatment | HCT139 | 30 credydau |
Neurorehabilitation: a Theoretical Basis | HCT200 | 30 credydau |
Clinical Kinaesiology and Tissue Pathology | HCT226 | 30 credydau |
Cardio-Respiratory Care: Theory to Practice | HCT341 | 30 credydau |
Blwyddyn dau
Ym Mlwyddyn Dau byddwch yn cwblhau un modiwl craidd ac un modiwl dewisol sy’n cyfateb i 60 credyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Evidencing Learning in Specialist Professional Practice | HCT199 | 30 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sport and Exercise Participation, Inter-Disciplinary Management and Injury Prevention | HCT023 | 30 credydau |
Musculoskeletal Diagnosis and Treatment | HCT139 | 30 credydau |
Neurorehabilitation: a Theoretical Basis | HCT200 | 30 credydau |
Clinical Kinaesiology and Tissue Pathology | HCT226 | 30 credydau |
Cardio-Respiratory Care: Theory to Practice | HCT341 | 30 credydau |
Blwyddyn tri
Ym Mlwyddyn Tri byddwch yn cwblhau eich traethawd hir o ddewis o dri opsiwn (60 credyd).
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Empirical Dissertation | HCT117 | 60 credydau |
Dissertation M Level: Work-based Project | NRT079 | 60 credydau |
Dissertation M Level: Systematic Review of the Literature | NRT080 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Addysgir yn bennaf drwy weithdai, tiwtorialau a seminarau. Ceir darlithoedd hefyd, a cheir cyfleoedd priodol i drafod a gwerthuso’r syniadau a gyflwynir ar ôl y rhain. Cefnogir y cynnwys gan adnoddau ar-lein.
Mae gwaith astudio hunangyfeiriedig yn rhan bwysig o'r cwrs, a chyfeirir eich sylw at sgiliau astudio a chewch eich tywys drwy’r meysydd astudio.
Sut y caf fy asesu?
Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o asesiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar. Mae hyn yn eich galluogi i ddangos eich gallu i ddadansoddi a gwerthuso sefyllfa ond hefyd i ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd i gyflwyno eich syniadau a'ch galluoedd. Y traethawd hir yw penllanw datblygu’r holl sgiliau hyn.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau â gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn ogystal â datblygu eich galluoedd deallusol eich hun, mae'r broses hon o rannu syniadau yn eich galluogi i ddysgu ac elwa ar brofiadau eraill. Rhoddir cyfle i gynnal trafodaethau o’r fath a chyfnewid syniadau drwy seminarau a thiwtorialau.
Byddwch yn cael tiwtor personol penodol ar ôl cofrestru ar y rhaglen, a fydd yn gallu helpu gydag unrhyw ofal bugeiliol yn ogystal â rhoi cyngor ar arddull ysgrifennu, gramadeg a mentora academaidd.
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - yn helaeth. Yma byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau. Cofnodir pob darlith trwy Panopto ac maen nhw ar gael i chi drwy gydol eich rhaglen.
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.
Mae ein ap myfyrwyr yn caniatáu i chi gael mynediad at wasanaethau Prifysgol Caerdydd a gwybodaeth wedi'i phersonoli mewn un lle ac mewn modd syml a chyfleus drwy ffôn clyfar, o’r siop apiau.
Dyma rai o’r nodweddion:
- Mapiau o’r campws
- Adnewyddu, taliadau, ac eitemau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell
- Amserlen myfyrwyr
- Dod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael
- Cael cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr
- Newyddion myfyrwyr
- Derbyn hysbysiadau pwysig
- Dolenni i lansio apiau eraill y Brifysgol fel Outlook (ar gyfer ebost) a Blackboard (ar gyfer Dysgu Canolog)
- Dolenni i apiau a argymhellir fel nextbike, i helpu i wneud y mwyaf o brofiad myfyrwyr.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. ;
Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Datblygu gwybodaeth a sgiliau clinigol gwell a chymhwyso'r rhain yn feirniadol wrth ymarfer ffisiotherapi, i ddatblygu dull cyfannol o reoli cymhlethdodau a gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau.
Datblygu dealltwriaeth ymarferol drwy werthuso technegau ymchwil ac ymholi sefydledig, dehongli gwybodaeth a chefnogi'r gwaith o roi canfyddiadau ymchwil ar waith mewn ymarfer ffisiotherapi.
Gwerthuso sefyllfa ffisiotherapi mewn ymarfer gofal iechyd ac arfarnu datblygiadau neu newidiadau mewn ymarfer proffesiynol yn feirniadol.
Sbarduno newid ac arwain y gwaith o reoli newid a datblygu’r proffesiwn ffisiotherapi.
Sgiliau Deallusol:
Dadansoddi ymchwil yn feirniadol.
Myfyrio a dadansoddi’r proffesiwn ffisiotherapi a'ch ymarfer eich hun yn feirniadol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ymdrinnir â chymhwyso theori ffisiotherapi at ymarfer clinigol drwy gydol y broses cynnwys ac asesu a addysgir.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
Ennill sgiliau ymchwil a'u cymhwyso wrth ymarfer.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Gan fod y rhaglen hon yn dair blynedd neu'n hŷn ac mae ganddi gymhwyster cyfwerth ag amser llawn blwyddyn, ni fyddwch yn gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig. Mae gan Lywodraeth y DU fwy o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer benthyciadau ôl-raddedig.
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Caiff ffioedd eu hanfonebu fesul modiwl. Fel arfer, caiff anfonebau eu rhyddhau yn fuan ar ôl cofrestru ar gyfer yr holl fodiwlau y byddwch yn eu hastudio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o du allan i'r DU/UE ar hyn o bryd.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
yw astudio ar lefel ôl-raddedig yn hanfodol os ydych am gynyddu i bractis uwch ac arbenigol. Bydd MSc yn eich galluogi i ennill y sgiliau i wella eich ymreolaeth o fewn eich proffesiwn, i ddatblygu eich gyrfa a manteisio ar ystod ehangach o gyfleoedd.
Mae ein modiwlau wedi'u cynllunio i ategu dilyniant mewn ymarfer clinigol, ond hefyd i hwyluso symud i'r byd academaidd neu ymchwil.
Mae ein graddedigion wedi ennill rolau gan gynnwys:
- Arbenigwr clinigol
- Ffisiotherapydd ymgynghorol
- Swyddi rheoli ffisiotherapi
- Swyddi ffisiotherapi ac addysg glinigol.
- Darlithydd
- Cydymaith Ymchwil
- Astudiaeth PhD
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd, Ffisiotherapi
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.