Cwrs Hyfforddi Bar (PgDip)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Rydym wedi cynnig hyfforddiant o safon uchel ar gyfer y Bar ers 1997, gyda chefnogaeth gref gan y Bar sy’n cyflogi’n lleol, y Bar annibynnol a’r Farnwriaeth.
Cynnig unigryw
Ni yw'r unig Brifysgol yng Ngrŵp Russell i gynnig Diploma Hyfforddiant y Bar.
Dysgwch gan bobl broffesiynol
Mae pob un o’n tiwtoriaid wedi bod yn fargyfreithwyr neu’n gyfreithwyr a’u hethos yw bod yn broffesiynol, yn gyfeillgar a dangos parch tuag at ein gilydd.
Hyfforddiant uchel ei barch
Rydym yn un o'r darparwyr sy'n perfformio orau ar draws yr arholiadau canolog a osodwyd gan y BSB ar gyfer Cwrs Hyfforddiant y Bar.
Cymorth wyneb yn wyneb sylweddol
Mae ein cymhareb staff/myfyrwyr yn sicrhau eich bod yn derbyn cryn adborth a chymorth unigol fydd yn eich paratoi ar gyfer asesiadau canolog BSB.
Mae ein Pg Dip Cwrs Hyfforddiant y Bar yn gwrs 10 mis dwys amser llawn sy’n canolbwyntio ar sgiliau wedi’i dylunio er mwyn paratoi darpar Fargyfreithiwr ar gyfer cyfnod o ddysgu yn y gwaith, a elwir yn dymor prawf.
Mae’r rhaglen hon yn eich galluogi i gaffael y sgiliau, y wybodaeth am weithdrefnau a’r dystiolaeth i fodloni meini prawf Bwrdd Safonau’r Bar yn unol â’u Datganiad Proffesiynol i Fargyfreithwyr.
Nod ein rhaglen yw meithrin dull ymarfer proffesiynol a moesegol fel bargyfreithiwr, gan roi golwg gynhwysfawr i chi o fywyd gwaith y bargyfreithiwr a’r cyfle i ystyried yr heriau sy’n wynebu’r proffesiwn cyfreithiol yn yr oes sydd ohoni.
Mae eich addysg wedi’i amserlenni rhwng dydd Llun a dydd Iau (h.y. dim mwy na phedwar diwrnod), er mwyn rhoi amser i chi astudio’n annibynnol.
Bydd gennych y cyfle i ymgymryd â’r asesiadau BSB a osodir yn ganolog ym mis Rhagfyr, Ebrill ac Awst yn ystod y flwyddyn academaidd rydych chi wedi cofrestru fel myfyriwr.
Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwch chi’n gymwys i gael eich galw i’r Bar yng Nghymru a Lloegr (yn amodol ar fodloni gofynion sesiwn gymhwysol Neuaddau’r Brawdlys).
Achrediadau

Mae gan yr Ysgol gyfleusterau gwych a staff cyfeillgar, nodedig sy’n mwynhau agosatrwydd – yn ddaearyddol ac o ran y berthynas – gyda sefydliadau a’r proffesiwn cyfreithiol lleol.
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Meini prawf derbyn
The LLM Bar Training Course (LLM BTC) is suitable for graduates in Law or any other subject in combination with the relevant ‘conversion course’ (CPE/GDL). Applicants should show a commitment to the legal profession, specifically practice at the Bar (e.g. via placements, mooting competitions, public speaking).
To enrol on the course, you need to have:
- completed your academic stage;
- obtained a 2:1 class degree or higher (a 2.2 class degree will be considered on a case-by-case basis taking into consideration the application in its entirety);
- been admitted as a student member of one of the four Inns of Court; and
- satisfied the English language requirement.
Application deadline
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible. Applications overall close on 31st July.
Selection process
Applications will only be treated as having been received by Cardiff University when both the application and the reference supporting the application have been received. We will review your completed application and if you meet the entry requirements, your application will be scored against a set of evaluative criteria taking into account academic achievement, the quality and content of your responses to the questions posed, and your written English and communication skills. If you meet the minimum score required, you will be made an offer provided spaces are still available.
English language requirements
- IELTS with an overall score of 7.5 with at least 7.5 in all subskills
- or Pearson Test of English (PTE) Academic with an overall score of 73 and at least 73 in all communicative skills.
You must have taken the test within two years of the course start date and all required scores must have been achieved in one sitting of the test.
Exemptions
If you graduated no more than three years prior to the course start date, you will not be required to provide evidence you meet the English language requirements if you:
- Have completed a full degree or a 1- or 2-year top-up degree through the medium of English in one of the following countries: Antigua & Barbuda, Australia, the Bahamas, Barbados, Belize, Canada, Dominica, Grenada, Guyana, Ireland, Jamaica, New Zealand, St Kitts & Nevis, St Lucia, St Vincent & the Grenadines, Trinidad & Tobago, United Kingdom and Northern Ireland, USA.
Please note that applicants requiring a Student Visa to study in the UK will not be permitted to transfer between the Diploma and LLM courses once they have arrived in the UK due to Home Office visa rules. Applicants should decide which course they wish to pursue at the time they make their visa application, otherwise they will be required to apply for another visa at further cost. In light of this, applicants should consider carefully which programme of study they wish to apply for.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae Cwrs Hyfforddiant y Bar yn gwrs blwyddyn a astudir dros ddau semester. Mae pob modiwl yn y rhaglen hon yn orfodol ac yn cynnwys meysydd gwybodaeth, sgiliau craidd, ac opsiwn dewisol. Cedwir cofnod presenoldeb a disgwylir presenoldeb o 100% mewn sesiynau addysgu.
Byddwch yn cwblhau modiwlau gorfodol (sy'n cwmpasu meysydd ymarfer a sgiliau cwrs) ac un opsiwn dewisol.
Disgwylir i fyfyrwyr fod yn bresennol ym mhob dosbarth a gweithgaredd wedi'i amserlennu, ond rhaid iddyn nhw fynychu o leiaf 80% o sesiynau i gyrraedd safon llwyddo ar y BTC. Bydd myfyriwr sy'n bresennol mewn llai nag 80% o’r sesiynau yn methu'r BTC a/neu efallai y bydd yn rhaid iddo adael y cwrs. Gall y darparwr lacio neu addasu'r gofyniad hwn mewn achos unigol lle bo hynny'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 (neu unrhyw ddeddf fydd yn disodli’r Ddeddf honno).
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl |
---|---|
Civil Litigation | CLP701 |
Criminal Litigation, Evidence and Sentencing | CLP702 |
Conference Skills | CLP703 |
Opinion Writing | CLP704 |
Drafting | CLP705 |
Trial Advocacy 1 | CLP706 |
Trial Advocacy 2 | CLP707 |
Submission Advocacy | CLP708 |
Professional Ethics | CLP709 |
Legal Research | CLP710 |
Teitl modiwl | Côd modiwl |
---|---|
Criminal Advocacy | CLP711 |
Civil Advocacy | CLP712 |
Family Advocacy | CLP713 |
Alternative Dispute Resolution | CLP714 |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu drwy gymysgedd o sesiynau grŵp mawr a bach. Mae sesiynau grŵp mawr ar ffurf darlithoedd i bob myfyriwr. Mae nifer sylweddol o sesiynau grŵp mawr yn cael eu recordio ymlaen llaw ac mae modd cael gafael arnyn nhw ar-lein. Cyflwynir y rhan fwyaf o'r addysgu i grwpiau bach o hyd at 18 o fyfyrwyr. Caiff yr holl sesiynau eiriolaeth a chynadledda eu haddysgu i grwpiau o chwe myfyriwr.
Addysgu gwybodaeth
Bydd yr addysgu'n cael ei gynnal mewn sesiynau grŵp bach (SGS), yn cynnwys hyd at ddeunaw o fyfyrwyra sesiynau grŵp mawr (LGS). Bydd nifer o'r LGS yn cael eu recordio ymlaen llaw. Yn ogystal, defnyddir recordiadau rhagarweiniol a recordiadau crynhoi, sesiynau galw heibio a phrofion ar-lein.
Mae pob SGS yn ystyried y ffaith bod y pynciau hyn yn cael eu hasesu'n gyfan gwbl drwy gwestiynau amlddewis (""MCQs"") a chwestiynau atebion gorau unigol (SBAQs). Bydd y grwpiau bach yn seiliedig ar drafodaethau a chyn y sesiynau byddwch yn cael cwestiynau penodol i wneud ymchwil iddyn nhw a pharatoi atebion ar eu cyfer. Bydd prawf hefyd ym mhob grŵp bach o dan amodau wedi'u hamseru er mwyn i diwtoriaid fonitro cynnydd wrth i'r cwrs fynd rhagddo. Bydd y rhan fwyaf o'r SGSs yn para dwy awr.
Addysgu sgiliau
Mae amseroedd y sesiynau addysgu a'r asesiadau wedi cael eu hystyried yn ofalus i sicrhau eich bod yn cael digon o gyfle i ymarfer a chael adborth. Mae hyn yn hanfodol i'ch galluogi i fyfyrio ar eich perfformiadau llafar a'ch gwaith ysgrifenedig, ac yna gwneud gwelliannau gan ystyried adborth gan gymheiriaid a thiwtoriaid.
Byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan weithredol yn eich dysgu, yn enwedig mewn perthynas â'r meini prawf adborth ac asesu. Bydd gofyn i chi fyfyrio ar eich perfformiadau yn barhaus a nodi eich cryfderau a ffyrdd o wella'ch perfformiad. Mae'r gallu i ddysgu fel hyn yn sgil hanfodol ar gyfer ymarfer yn y dyfodol. At hynny, bydd gofyn i chi gynnal adolygiad gan gymheiriaid yn rheolaidd, gan ddatblygu'r gallu i ddadansoddi perfformiad yn feirniadol ac yn adeiladol o ganlyniad i hynny.
Yn unol â'r cwricwlwm, byddwch yn datblygu eich gallu i ymgymryd â dysgu annibynnol a sgiliau gweithio mewn tîm. Datblygir sgiliau cyfathrebu mewn grwpiau bach, lle bydd gofyn i chi gydweithio ar broblemau a thasgau.
Mae Cwrs Hyfforddiant y Bar yn gwrs ymarferol sy'n pwysleisio cyfosod gwybodaeth gyfreithiol a gwybodaeth ffeithiol er mwyn darparu cyngor clir, cywir ac wedi’i resymu’n dda i gleient. Bydd angen i chi ystyried rheolau ymddygiad proffesiynol ac anghenion masnachol a busnes y cleient.
Cyfleoedd dysgu ychwanegol
- Y Gyfraith mewn Cyfiawnder: Prosiect Dieuogrwydd (sy'n ymdrin ag achosion honedig o gamweinyddu cyfiawnder);
- Y Gyfraith mewn Gofal Iechyd: Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG (helpu teuluoedd i hawlio ffioedd cartrefi gofal yn ôl y gellid dadlau y dylai'r GIG fod wedi'u talu);
- Y Gyfraith mewn Chwaraeon: Prosiect Rygbi'r Undeb (darparu cyngor cyfreithiol a chylchlythyrau cyfreithiol i glybiau rygbi).
- Y Gyfraith yn y Llys: yr Uned Cymorth Personol (PSU) (sy'n cynnig help a chymorth ymarferol i bobl yn y llys, ar gyfer materion teuluol a sifil)
- Y Gyfraith ac Iechyd Meddwl: Cynllun Oedolion Priodol Hafal (mae myfyrwyr yn cael eu hyfforddi i gefnogi oedolion sy'n agored i niwed sy'n cael eu cyfweld ar ôl cael eu harestio)
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys cystadlaethau ymryson, negodi a chyfweld cleientiaid.
Sut y caf fy asesu?
Mae asesiadau Hyfforddiant y Bar wedi'u cynllunio i fod yn deg, yn drylwyr, yn realistig, gan roi digon o sylw manwl a/neu eang i'r sgiliau a'r pynciau a asesir. Bydd asesiadau unigol yn cynnwys cynrychiolaeth o’r deilliannau mewn maes sgiliau neu bwnc penodol. Bydd pwyslais ymarferol yn amlwg drwy’r amser.
Byddwch yn ymgymryd ag asesiadau ffurfiannol a chrynodol drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r rhain ar sawl ffurf, gan gynnwys arholiadau heb lyfrau, sy'n cynnwys cwestiynau amlddewis, asesiadau llafar, efelychiadau wedi'u recordio ac asesiadau ysgrifenedig. Ar gyfer pob asesiad Cwrs Hyfforddiant y Bar a gynhyrchir yng Nghaerdydd, bydd y meini prawf asesu (a bennir gan y BSB) a, lle bo hynny'n berthnasol, canllawiau/nodiadau esboniadol ar gael i chi o’r cychwyn cyntaf. Mae'r meini prawf asesu ar gyfer pob pwnc yn cyd-fynd yn glir â'i ddeilliannau dysgu er mwyn sicrhau eich bod yn gallu dangos eich bod wedi cyflawni'r deilliannau dysgu ar gyfer y pwnc drwy'r asesiad.
Byddwch yn cael ymgeisio hyd at 3 gwaith mewn asesiad.
Bydd eich presenoldeb yn rhan o'r trothwy presenoldeb sy'n ofynnol i sicrhau safon llwyddo ar gyfer y BTC. Disgwylir i fyfyrwyr fod yn bresennol ym mhob dosbarth a gweithgaredd wedi'i amserlennu, ond rhaid iddyn nhw fynychu o leiaf 80% o sesiynau i gyrraedd safon llwyddo ar y BTC. Bydd myfyriwr sy'n bresennol mewn llai nag 80% o’r sesiynau yn methu'r BTC a/neu efallai y bydd yn rhaid iddo adael y cwrs. Gall y darparwr lacio neu addasu'r gofyniad hwn mewn achos unigol lle bo hynny'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 (neu unrhyw ddeddf fydd yn disodli’r Ddeddf honno).
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd e-ddysgu yn ategu eich dysgu wyneb yn wyneb, fel a ganlyn;
- bydd yr holl ddeunyddiau addysgu ar gael drwy Dysgu Canolog - amgylchedd dysgu rhithwir sydd ar gael ar ac oddi ar y campws, lle byddwch yn cael gafael ar amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gyfer eich modiwlau;
- mae'r holl ddarlithoedd yn cael eu recordio a bydd nifer o ddarlithoedd yn cael eu recordio ymlaen llaw. Mae hyn yn eich galluogi i gymryd rhan yn y sesiynau hyn ar amser ac mewn lleoliad sy'n gweddu orau i chi;
- mae pob sesiwn sgiliau llafar (sesiynau grŵp bach) hefyd yn cael eu recordio gan ddefnyddio Panopto sy'n eich galluogi i adolygu eich perfformiad a'r adborth a roddir gan staff;
- cwisiau ar-lein;
- byrddau trafod;
- enghreifftiau o fideos.
Byddwch yn cael cymorth bugeiliol penodol drwy’r canlynol:
- ein cynllun tiwtor personol;
- rhaglen helaeth o ddarlithoedd a gweithdai gyrfaoedd yn yr Ysgol gyda Chynghorydd arbenigol;
- Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth sy’n sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau;
- amrywiaeth o wasanaethau i’ch cefnogi, sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd gwych gyda llyfrgellwyr arbenigol y gyfraith a chanolfannau adnoddau;
- cymorth ar gyfer eich modiwl ymchwil, ar ffurf gwersi wyneb yn wyneb, deunyddiau ar Dysgu Canolog a goruchwyliaeth.
Adborth
Ystyrir bod adborth yn flaenoriaeth. Bwriad adborth yw codi eich lefelau cymhwysedd. Byddwch yn cael adborth yn seiliedig ar y meini prawf asesu perthnasol mewn sesiynau addysgu sgiliau. Byddwch hefyd yn derbyn adborth gan eich cyfoedion ac yn rhoi adborth i'ch cyfoedion. Byddwch yn derbyn adborth mewn perthynas ag amlinelliad o’ch modiwl ymchwil.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos y deilliannau dysgu ar gyfer y modiwlau unigol i'r safon a bennwyd gan Fwrdd Safonau'r Bar yn y Datganiad Proffesiynol ar gyfer Bargyfreithwyr.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Ystyried a chyfosod rheolau a gweithdrefnau ymgyfreitha sifil, datrys anghydfodau ac ymgyfreitha troseddol i fod yn gymwys i symud ymlaen i elfen tymor prawf/dysgu seiliedig ar waith yr hyfforddiant i fod yn fargyfreithiwr;
- Ystyried a chyfosod yn feirniadol brif agweddau'r gyfraith a’r weithdrefn sy'n berthnasol i'ch ymarfer proffesiynol fel bargyfreithiwr;
- Adolygu a chyfosod y dyletswyddau craidd a'r gofynion rheoliadol a bennwyd gan Fwrdd Safonau'r Bar gan gynnwys y Cod Ymddygiad;
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Adolygu’n feirniadol y rheolau a’r gweithdrefnau ymgyfreitha sifil, datrys anghydfodau ac ymgyfreitha troseddol i ystyried a chymhwyso ystod o atebion priodol ar gyfer eich cleient;
- Dadansoddi a gwerthuso’n feirniadol wybodaeth gymhleth i lunio barn broffesiynol sy'n dangos dealltwriaeth o oblygiadau tymor byr a thymor hir y dyfarniadau a wnaed;
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Ysgwyddo cyfrifoldeb, arfer ymreolaeth a barn broffesiynol, am gynllunio a pharatoi achos yn effeithiol, gan ystyried yn feirniadol y gyfraith a'r ffeithiau perthnasol gan ddilyn rheolau ymddygiad proffesiynol;
- Sicrhau bod eich barn broffesiynol yn seiliedig ar brosesau cyfosod, gwerthuso a dadansoddi beirniadol priodol, a phan fo hynny’n briodol, nodi a gwerthuso canlyniadau gwahanol ddewisiadau;
- Ysgrifennu a mynegi'ch hun yn glir, gan ddefnyddio geirfa a gramadeg Saesneg/Cymraeg sy’n gywir ac yn briodol, er mwyn cyflwyno dadl resymedig mewn ffordd glir, resymegol, gryno a darbwyllol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd;
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Mae'r holl sgiliau a nodir uchod yn sgiliau cyflogadwyedd perthnasol ar gyfer ymarfer proffesiynol. Byddwch hefyd yn ymarfer ac yn datblygu'r sgiliau trosglwyddadwy canlynol:
- Hunanreolaeth - Bydd gofyn i chi gynllunio a rheoli eich amser er mwyn ymgymryd â'r llwyth gwaith sy'n ofynnol ar gyfer y modiwlau BTC unigol;
- Hunanfyfyrio - Byddwch yn cael arweiniad i’ch helpu i ddatblygu eich gallu i fyfyrio ar eich perfformiad a chanfod sut mae gwella;
- Defnyddio TG - Bydd gofyn i chi ddefnyddio sgiliau TG sylfaenol, fel prosesu geiriau i baratoi dogfennau ysgrifenedig sy’n glir, yn gywir ac wedi’u llunio yn unol â safonau proffesiynol. Byddwch yn defnyddio ac yn cymhwyso technoleg gwybodaeth i wneud ymchwil gyfreithiol berthnasol a chynhwysfawr.
- Defnyddio rhifedd - Bydd gofyn i chi wneud rhai cyfrifiadau mathemategol syml a defnyddio'r cyfrifiadau hyn wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Ymwybyddiaeth gymdeithasol a diwylliannol - Byddwch yn dod i werthfawrogi'r cyd-destun cymdeithasol y mae'r gyfraith yn gweithredu ynddo, y gweithwyr proffesiynol eraill dan sylw ac egwyddorion gweithio ar draws disgyblaethau.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd angen i'r rhai sy'n gwneud cais ar gyfer cyrsiau yng Nghanolfan yr Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol gyflwyno blaendâl ar wahân a bydd gwybodaeth am hyn yn cael ei chyfleu ar wahân gan y Ganolfan.
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £18,700 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £21,200 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
p>Ar gyfer yr holl sgiliau llafar bydd gofyn i chi wisgo fel y byddech wrth ymarfer (h.y. siwt busnes).
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Ar ôl cwblhau'r Cwrs Hyfforddiant Bar (BTC), byddwch yn gallu cael eich Galw i'r Bar ac ymgymryd â chyfnod prawf. Gall y BTC hefyd arwain at waith cyfreithiol mewn rhyw swydd arall, e.e. paragyfreithiol, gyda'r opsiwn o gael cyfnod prawf yn ddiweddarach.
Lleoliadau
Byddwch yn cael y cyfle i fod yn farsialydd gyda Barnwr a/neu ymgymryd â thymor prawf byr.
Rwyf yn Uwch-gwnselydd Cyfreithiol ac yn Is-lywydd mewn cwmni rheoli asedau rhyngwladol yn Munich, yn arbenigo mewn buddsoddiadau rhyngwladol. Rwyf yn defnyddio’r sgiliau nes i eu dysgu yn ystod y BTC bron yn ddyddiol, er nad wyf yn Gyfreithiwr nac yn ymwneud ag ymgyfreitha. Fe wnaeth y cwrs fy addysgu sut i ymarfer y gyfraith yn hytrach na’i damcaniaethu. Hynny ydy, sut i ymchwilio i’r gyfraith berthnasol yn gyflym ac yn gywir, a’i defnyddio mewn achos penodol.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Law
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.