Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddorau Gofal Iechyd

Mae rhaglen ymchwil Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi'i strwythuro er mwyn rhoi cyfle i chi ymgymryd ag ymchwil gwreiddiol ac annibynnol yn y gwyddorau gofal iechyd. Sylwch fod Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn symud o Dŷ Eastgate, yng Nghanol Dinas Caerdydd i Orllewin Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd o flwyddyn academaidd 2023/24.

Mae ein rhaglen ymchwil wedi'i strwythuro er mwyn rhoi cyfle i chi ymgymryd ag ymchwil gwreiddiol ac annibynnol yn y gwyddorau gofal iechyd.

Gwahoddir ceisiadau gan y rhai hynny sydd â diddordeb ymgymryd ag ymchwil sy’n cyd-fynd â themâu ymchwil sydd ar gael gan yr Ysgol.

Mae gan bob un o'r tair thema amrywiaeth o feysydd ymchwil a dylech anelu i deilwra eich cynnig ymchwil i un o'r meysydd hyn:

  • Optimeiddio Lles a Rheoli Cyflyrau Hirdymor
  • Optimeiddio Darparu a Threfnu Gwasanaethau
  • Optimeiddio Iechyd trwy Weithgarwch, ffyrdd o fyw a Thechnoleg

Rydym yn cynnig yr arbenigeddau ymchwil canlynol:

  • Nyrsio Oedolion
  • Nyrsio Plant
  • Nyrsio Iechyd Meddwl
  • Ymarfer Gofal Llawdriniaethol
  • Radiograffeg
  • Radiotherapi
  • Ffisiotherapi
  • Therapi Galwedigaethol
  • Bydwreigiaeth
  • Seicoleg Iechyd

Nodau'r rhaglen

I wneud gwaith ymchwil annibynnol a gwreiddiol yn y gwyddorau gofal iechyd a fydd yn helpu i lywio, gwella a dylanwadu ar ofal iechyd ledled y byd.

Nodweddion unigryw

  • Gofod swyddfa pwrpasol yn cael ei ddarparu ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
  • Bydd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn fuan ar un safle am y tro cyntaf ers ei sefydlu.
  • Bydd pob myfyriwr doethurol yn cael eu hannog i ddilyn rhaglen o gyrsiau, gweithdai a chynadleddau. Mae’r Ysgol ei hun yn darparu rhaglen o ddosbarthiadau meistr dulliau ymchwil misol, symposiwm ymchwil ôl-raddedigion blynyddol a dwy sesiwn y flwyddyn i ddiweddaru myfyrwyr ar weithdrefnau adolygu moeseg.
  • Anogir myfyrwyr hefyd i gymryd rhan weithgar yn ein themâu gan gynnwys rhoi cyflwyniadau ar ran y thema yng nghyfres seminar yr ysgol a chyfrannu at gyfarfodydd thema unigol.
  • Darperir hyfforddiant ymchwil hefyd gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser PhD 5 mlynedd, MPhil 2 flynedd
Derbyniadau Ionawr, Hydref

Mae ein rhaglen ymchwil wedi'i strwythuro er mwyn rhoi cyfle i chi ymgymryd ag ymchwil gwreiddiol ac annibynnol yn y gwyddorau gofal iechyd.

Bydd pob myfyriwr doethurol yn cael eu hannog i ddilyn rhaglen o gyrsiau, gweithdai a chynadleddau. Rydym yn darparu rhaglen o ddosbarthiadau meistr dulliau ymchwil misol, symposiwm ymchwil ôl-raddedigion blynyddol a dwy sesiwn y flwyddyn i roi’r newyddion diweddaraf i fyfyrwyr ar weithdrefnau adolygu moeseg.

Dylech anelu at deilwra eich cynnig ymchwil i un o’n meysydd ymchwil.

  • Optimeiddio Lles a Rheoli Cyflyrau Hirdymor
  • Optimeiddio Darparu a Threfnu Gwasanaethau
  • Optimeiddio Iechyd trwy Weithgarwch, ffyrdd o fyw a Thechnoleg

Optimeiddio Lles a Rheoli Cyflyrau Hirdymor

O dan y thema hon, ystyrir iechyd a lles pobl y mae cyflyrau cronig a rhai sy’n cyfyngu ar eu bywyd arnynt. Ar gyfer 2020/21 rydym yn croesawu cynigion gan ymgeiswyr PhD ac MPhil sy'n cyd-fynd â o fewn y thema. Isod mae meysydd arbenigedd y goruchwyliwr:

Yr Athro Chris Bundy

Rwy'n Seicolegydd Iechyd ac mae gennyf arbenigedd mewn dulliau meintiol gyda rhywfaint o arbenigedd ansoddol mewn Dadansoddi Fframweithiau. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Newid ymddygiad mewn cyflyrau hirdymor yn enwedig llid y croen a'r cymalau
  • Prosesau llidiol a hwyliau
  • Mesurau Effaith Newydd a Gofnodwyd gan Gleifion mewn Psoriasis neu Arthritis Llidiol
  • Astudiaethau ymyrraeth gwella gofal iechyd mewn clefydau llidiol
  • Hyfforddiant clinigwyr i wella gofal seicolegol

Dr Jane Harden

Rwy'n Uwch ddarlithydd, mae gennyf ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Hunaniaethau diwylliannol ac arferion cynrychioliadol gweithwyr proffesiynol
  • Ymarfer a Datblygiad Critigol
  • Diogelwch Cleifion a Rheoli Risg
  • Ansawdd bywyd mewn pobl â chyflyrau hirdymor
  • Gofal dementia mewn lleoliadau acíwt

Dr Dikaios Sakellariou

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar faes astudiaethau anabledd. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Profiadau a/neu wahaniaethau o ran mynediad at ofal iechyd i bobl anabl
    Anelu at ystyried profiadau a/neu wahaniaethau o ran mynediad at ofal iechyd i bobl anabl
  • Perthnasoedd gofal
    Nod: archwilio profiadau o ofalu am aelod o'r teulu neu ffrind, gan ganolbwyntio ar berthynas gofal.
  • Rhywioldeb ac anabledd
    Nod: archwilio profiadau sy'n gysylltiedig â rhywioldeb ac anabledd, a ffyrdd o fynd i'r afael â'r pwnc hwn mewn ymarfer clinigol.

Dr Tessa Watts

Rwy'n ymchwilydd, yn athrawes gymwysedig ac yn nyrs gofrestredig (maes oedolion) sydd â chefndir clinigol mewn gofal lliniarol a gofal diwedd oes mewn canser datblygedig a sylfaen academaidd mewn gwyddorau cymdeithasol a gwleidyddol mewn nyrsio. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Canser
  • Gofal lliniarol
  • Gofal diwedd oes
  • Hunanreoli â chymorth mewn salwch cronig
  • Dulliau ansoddol

Optimeiddio Darparu a Threfnu Gwasanaethau

O dan y thema hon, y nod yw rhoi tystiolaeth am ffyrdd o weithio, boed yn rhai sydd eisoes ar waith neu'n rhai newydd, i fodloni gofynion gofal iechyd cymhleth. Ar gyfer 2020/21 rydym yn croesawu cynigion gan ymgeiswyr PhD ac MPhil sy'n ymwneud â’r meysydd canlynol o fewn y thema.  Isod mae meysydd arbenigedd y goruchwyliwr:

Yr Athro Davina Allen

Rwy'n gymdeithasegydd ac mae gennyf arbenigedd mewn dulliau ansoddol yn enwedig ethnograffeg. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Gwaith trefnu nyrsys - https://theinvisibleworkofnurses.co.uk
  • Rolau a chyfrifoldebau gofalu - lleyg a phroffesiynol
  • Astudiaethau gwella gofal iechyd
  • Ansawdd a diogelwch gofal iechyd
  • Technolegau bob dydd ym maes gofal iechyd – TGCh, llwybrau, canllawiau ac ati

Yr Athro Molly Courtenay

Rwy'n nyrs o ran cefndir sy'n arbenigo mewn gofal dwys. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Mabwysiadu rhagnodi gan nyrsys, fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, addysg ryngbroffesiynol ac ymarfer cydweithredol, stiwardiaeth wrthficrobaidd a nyrsys a fferyllfeydd sy’n rhagnodi gwrthfiotigau.
  • Mae gennyf arbenigedd mewn dulliau cymysg a methodoleg ansoddol.

Dr Katie Featherstone

Rwy'n gymdeithasegydd meddygol sydd â diddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Anghydraddoldebau mewn gofal iechyd
  • Diwylliannau sefydliadol a diwylliannau wardiau yn y lleoliad acíwt
  • Ymchwil ansoddol ac ethnograffig mewn lleoliadau clinigol
  • Gofal a phrofiadau pobl sy'n byw gyda dementia a gofalwyr

Yr Athro Daniel Kelly

Ar hyn o bryd rwy'n ymwneud â phrosiectau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae gennyf brofiad fel Goruchwyliwr ac Arholwr PhD, gan gynnwys archwilio’n rhyngwladol. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Gofal canser
  • Diwedd oes
  • Systemau iechyd a sefydliadol
  • Diogelwch cleifion
  • Datblygu rôl
  • Ymchwil ansoddol a chymysg

Dr Steven Whitcombe

Mae gennyf ddiddordeb cyffredinol mewn gwyddor gymdeithasol ac addysg broffesiynol ym maes iechyd, yr wyf ar hyn o bryd yn archwilio'r berthynas rhwng gwyddor alwedigaethol ac ymarfer therapi galwedigaethol. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • y sawl sy’n dymuno archwilio'r berthynas rhwng gwybodaeth a'u hunaniaeth broffesiynol.
  • Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn yr hyn y mae angen i fyfyrwyr gofal iechyd ei wybod a’r 'ffordd orau o'u haddysgu'. Mae hyn yn gysylltiedig â'm diddordebau ymchwil mewn dulliau dysgu ac addysgu a ddefnyddir mewn addysg gofal iechyd megis dysgu seiliedig ar broblemau.
  • Ar hyn o bryd rwy'n canolbwyntio ar sut/a yw therapyddion galwedigaethol yn defnyddio'r adeiladweithiau athronyddol a geir yn maes gwyddor alwedigaethol yn eu hymarfer.
  • Mae fy niddordebau ar gymhwyso gwybodaeth hefyd yn ymestyn y tu hwnt i therapi galwedigaethol, gyda diddordebau mewn heriau gweithio rhyngbroffesiynol, yn enwedig ym maes iechyd meddwl a thirwedd newidiol iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Fy maes diddordeb arall yw'r 'newid' o fyfyriwr gofal iechyd i ymarferydd a'r heriau a'r cyfleoedd y mae hyn yn eu cynnig. Rwy'n fwyaf cyfforddus gyda methodolegau ymchwil ansoddol.

Optimeiddio Iechyd trwy Weithgarwch, Ffyrdd o fyw a Thechnoleg

O dan y thema hon, ystyrir sut mae gofal iechyd yn cael ei roi i'r rhai sy'n dioddef amrywiaeth o gyflyrau, afiechydon ac anafiadau acíwt a chronig. Ar gyfer 2020/21 rydym yn croesawu cynigion gan ymgeiswyr PhD ac MPhil sy'n ymwneud â’r meysydd canlynol o fewn y thema. Isod mae meysydd arbenigedd y goruchwyliwr:

Dr Clare Bennett

Rwy'n Nyrs gofrestredig, yn Ymchwilydd ac yn Uwch Ddarlithydd. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Iechyd rhywiol
  • Hybu iechyd
  • Astudiaethau teuluol
  • Arweinyddiaeth a gwella ansawdd
  • Dulliau - ymchwil ansoddol, dulliau cymysg, gwerthuso realydd

Yr Athro Monica Busse

Rwy'n ffisiotherapydd siartredig, yn ddullolegydd treialon ac yn Gyfarwyddwr Mind, Brain, Treialon Niwrowyddoniaeth yn y Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae gennyf ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr mewn astudiaethau sy'n rhan annatod o rai o'n treialon agored ar hyn o bryd. Gall y rhain fod yn dreialon nad ydynt yn ffarmacolegol neu'n rhai ffarmacolegol neu'n rhai llawfeddygol. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn astudiaethau sy'n gwerthuso'r defnydd o ddyfeisiau synhwyro digidol i ddarparu asesiadau gwrthrychol o weithgarwch corfforol a chysgu mewn ystod o boblogaethau clinigol (clefyd niwroddirywiol yn bennaf).

Dyma'r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd:

  • DOMINO-HD: A all dyfeisiau synhwyro digidol ddarparu asesiadau gwrthrychol o weithgarwch corfforol a chysgu sy'n glinigol ystyrlon ac yn dderbyniol i bobl â Chlefyd Huntington
  • TAPERS: Archwilio profiadau o bresgripsiwn meddyginiaeth wrth Drin Pryder i Relapse PrevEnt yn Sgitsoffrenia (TAPERS) - treial dichonoldeb.
  • TRIDENT: Deall profiadau cyfranogwyr a phrosesau llawfeddygol mewn trawsblannu celloedd yn Clefyd Huntington i lywio Dylunio Treialon ar gyfer Darparu Therapïau Newydd mewn Niwroddirywiad
  • PACE-HD: Datblygu fframwaith gwerthuso prosesau ar gyfer treial Ymyrraeth Gweithgarwch Corfforol ym maes Clefyd Huntington

Dr Kate Button

Rwy'n ffisiotherapydd sy'n arbenigo mewn asesu a thrin cyflyrau cyhyrysgerbydol. Mae gennyf ddiddordeb mewn goruchwylio PhD ym maes:

  • Datblygu ymyriadau digidol ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol.

Dr Nick Courtier

Rwy'n ddarlithydd radiotherapi ac yn ymchwilydd canser. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Dulliau technegol i leihau effeithiau andwyol radiotherapi
  • Rhagfynegi, deall a rheoli sgil-effeithiau radiotherapi /triniaeth canser
  • Gwella bywydau cleifion ar ôl cael diagnosis o ganser

Dr Nichola Gale

Rwy'n Ddarlithydd Ffisiotherapi sydd â diddordeb mewn cyflyrau cardioresbirol. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Effaith cydafiachusrwydd mewn clefyd cronig yr ysgyfaint
  • Rôl gweithgarwch corfforol mewn clefyd cronig yr ysgyfaint
  • Datblygu a gwerthuso ymyriadau cefnogol mewn canser

Dr Catherine Purcell

Rwy'n Uwch Ddarlithydd mewn Therapi Galwedigaethol a seicolegydd o ran cefndir. Mae gennyf ddiddordeb mewn ymchwil sy'n ymwneud â symudedd diogel annibynnol mewn amrywiaeth o gyd-destunau, megis croesi ffyrdd a gyrru. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Methodolegau fel realiti rhithwir / estynedig ac astudiaethau arbrofol
  • Canfyddiad a gweithredu a'r effaith ar alwedigaeth a / neu swyddogaeth
  • Anhwylderau niwroddatblygiadol a deall effaith byw gydag anableddau cudd

Dr Carly Reagon

Dechreuais fy swydd bresennol fel darlithydd yn Yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym mis Mawrth 2008 ar ôl gweithio fel swyddog ymchwil yn yr Ysgol Meddygaeth. Rwy'n ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ymchwil gan gynnwys goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.  Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Ymchwil ansoddol
  • Celfyddydau ac iechyd
  • Cymorth canser
  • Adferiad iechyd meddwl
  • Theori ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Yr Athro Julia Sanders

Rwy'n Fydwraig a Nyrs Gofrestredig, yn ymchwilydd ac yn arweinydd proffesiynol. Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Iechyd mamau
  • Bydwreigiaeth
  • Dulliau - data meintiol a rheolaidd y GIG.

Dr Liba Sheeran

Rwy'n gweithio fel Uwch Ddarlithydd (Ymchwil ac Addysgu). Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr ym meysydd:

  • Asesu a rheoli poen yng ngwaelod y cefn

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Fel arfer, dylai ymgeiswyr fod â gradd 2:1 neu gyfwerth mewn maes sy’n berthnasol i'r prosiect penodol.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Dylech anelu i deilwra eich cynnig ymchwil i un o’n meysydd ymchwil.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Research Office

Administrative contact

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig