Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth plant

Comic book image

Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau'n cadw tua 500 o weithiau llenyddiaeth plant o Oes Fictoria ac o flynyddoedd cynnar yr 20g.

Mae’r Casgliad Llenyddiaeth Plant o gyfnod Oes Fictoria yn helaeth. Ar ddiwedd y 19g hwyr cafwyd y syniad newydd o blentyndod fel oed penodol, gyda’i anghenion a'i ddiddordebau ei hun ac o ganlyniad cafwyd cynnydd yn y nifer o lyfrau yn arbennig i blant. Mae Casgliad Salisbury yn cynnwys casgliad o gyfnodolion i blant Cymreig, yn dyddio o'r 19g i'r 20g.

Mae’r casgliad yn cynnwys setiau, bron yn gyflawn, o weithiau Cymraeg sef:

  • Cymru’r Plant
  • Trysorfa’r Plant
  • Y Winllan
  • Antur
  • Telyn y Plant

Mae llawer o'r llenyddiaeth hon yn rhoi mewnwelediad i safbwyntiau cyfredol ynglŷn ag ymddygiad oedd yn addas o ran rhywedd.

Mae awduron benywaidd y casgliad yn cynnwys Angela Brazil, Arabella B. Buckley (Mrs Fisher), Frances Hodgson Burnett, Lucy Cavendish née Lyttelton (Mrs Cameron), Maria Edgeworth, Juliana Horatia Ewing, Kate Greenaway, Mary Howitt, Harriet Martineau, Edith Nesbit, Christina Rossetti, Martha Sherwood, Harriet Beecher Stowe a Charlotte Mary Yonge. Mae cyfnodolion ar gyfer merched a menywod ifanc yn cynnwys y papur Saesneg, 'Girl's Own' a'r 'Young lady’s handbook.'

Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau hefyd yn cadw casgliad o gomics a blwyddlyfrau plant -copïau a chopīau gwreiddiol - a gyhoeddwyd gan Wasg Hulton, yn cynnwys 'The Eagle' a 'Girl'. Mae'r casgliad yn ddefnyddiol iawn ar gyfer astudiaethau cymharol o gomics plant ar sail rhywedd.

Mae 'Girl' yn cynnwys 'stribyn' lliw llawn o'r enw 'Kitty Hawke and her All-Girl Air Crew', ynglŷn â chriw o ferched oedd yn rhedeg cwmni awyrennau siartr. Ond dilewyd y stribyn yn ddiweddarach am ei fod e'n rhy 'wrywaidd' a'i symud i'r tudalennau du a gwyn mewnol. Penderfynwyd roi'r stribyn am ferched ysgol, 'Wendy and Jinx' ar y clawr yn lle hynny. Roedd stribynnau eraill yn canolbwyntio ar ferched oedd yn gweithio -er taw gyrfaoedd oedd yn 'addas i fenywod' oedd yn cael sylw -yn cynnwys 'Susan of St. Brides', 'Angela Air Hostess', 'At Work With Janet - Fashion Artist', a 'Belle of the Ballet'.

Adnoddau Digidol

Gall aelodau Prifysgol Caerdydd ddefnyddio'r adnodd digidol Cyfnodolion y DU yn y 19g, lle mae'r ffynonellau Saesneg isod ar gael ar-lein:

  • Boys of England. A magazine of sport, sensation, fun, and instruction, 1866-93
    …continued as Boys of England and Jack Harkaway's Journal for Boys, 1893-99
    …continued as Up-To-Date Boys' Journal & Novelettes, 1899-1900
  • Boy's Own Magazine, 1855-62
    …continued as Boys Own Volume (Beeton's Boy's Annual), 1863-69
    …continued as Boy's Own Magazine, Beeton's Fact, Fiction etc, 1870-74
  • Boy's Own Paper 1879-1900
  • Captain, The: a magazine for boy and old boys, 1899-1900
  • Chums, an illustrated paper for boys, 1892-1900
  • Every Boy's Magazine, 1862-64
    …continued as Routledge’s Magazine for Boys, 1865-68
    …continued as Young Gentleman’s Magazine, etc., 1869-73
    …continued as Every Boy's Magazine, 1874-89
  • Girls' Own Paper, 1880-1900
  • Judy, or the London Serio-Comic Journal, 1867-1900
  • Routledge's Every Girls Annual, 1878-88
  • Union Jack, Tales for British Boys, 1880-83