Ewch i’r prif gynnwys

Ffynonellau gwreiddiol digidol

Canllaw i'r casgliadau digidol mawr, cynhwysfawr o lyfrau, papurau newydd, mapiau, archifau ac effemera, yn ôl pwnc.

Un o 15 miliwn o erthyglau o Bapurau Newydd Cymru Ar-lein.
Un o 15 miliwn o erthyglau o Bapurau Newydd Cymru Ar-lein.

Adnoddau am ddim

Archives Hub. Gellir chwilio ar draws disgrifiadau o archifau, ffisegol a digidol, a ddelir mewn 350 o sefydliadau ar draws y DU. Gellir cysylltu â chatalogau archif o Gasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd yma.

British Library. Llawysgrifau, llyfrau prin a mapiau o gasgliadau'r Llyfrgell Brydeinig.

Digital.Bodleian. Llyfrau, llawysgrifau, effemera, mapiau, cerddoriaeth a phrintiau o gasgliadau Prifysgol Rhydychen.

Digital Public Library of America. Dros 36 miliwn o ddelweddau, testunau, fideos, a seiniau o bob rhan o'r Unol Daleithiau. 

Europeana. Dros 50 miliwn o eitemau wedi'u digido - llyfrau, cerddoriaeth, gweithiau celf a mwy - gydag offerynnau chwilio a hidlo soffistigedig. Casgliadau thematig penodol ar gelf, ffasiwn, cerddoriaeth, ffotograffiaeth a'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn cynnwys orielau, blogiau ac arddangosfeydd.

Gallica. Llyfrgell ddigidol y Bibliotheque Nationale de France (BnF). Deunyddiau print, (llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd, cerddoriaeth), deunyddiau graffig (engrafiadau, mapiau, ffotograffau), llawysgrifau a recordiadau sain.

Google Arts and Culture. Gwaith celf, ffotograffau a llawysgrifau o sefydliadau diwylliannol ar draws y byd, y gellir eu hidlo yn ôl thema, cyfrwng, symudiad, lle, a digwyddiadau a ffigurau hanesyddol.

Harvard Digital Collections. Dros 6 miliwn o wrthrychau o gasgliadau Llyfrgell Harvard - o gelf hynafol i lawysgrifau modern a deunyddiau clyweled.

Hathi Trust. Cydweithredfa ddielw o lyfrgelloedd academaidd ac ymchwil sy'n cadw 17 miliwn o lyfrau. Oherwydd gwahaniaethau mewn cyfreithiau hawlfraint rhyngwladol, yn gyffredinol ceir mynediad o’r tu allan i UDA i weithiau cyn 1880 yn unig.

Illustration Archive. Dros 1 miliwn o ddarluniau llyfrau o gasgliadau'r Llyfrgell Brydeinig. Mae'r delweddau'n rhychwantu diwedd y ddeunawfed hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif, ac yn cynnwys amrywiol dechnegau atgynhyrchu (yn cynnwys ysgythru, engrafu pren, lithograffeg a ffotograffeg), wedi'u tynnu o tua 68,000 o weithiau llenyddiaeth, hanes, daearyddiaeth ac athroniaeth.

Internet Archive. Llyfrgell ddielw o filiynau o lyfrau, ffilmiau, meddalwedd, cerddoriaeth, gwefannau a mwy am ddim. Gellir gweld cynnwys o Gasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd yma.

John Johnson collection of printed ephemera. Hysbysebion, hysbyslenni, taflenni a rhaglenni, bwydlenni, cardiau cyfarch, posteri a chardiau post yn cynnig cipolwg ar natur newidiol bywyd bob dydd ym Mhrydain yn y ddeunawfed, y bedwaredd ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. 

Library of Congress. Llyfrau, llawysgrifau, mapiau, ffotograffau, sain a fideo o'r llyfrgell fwyaf yn y byd.

Morgan Library and Museum. Celf, cerddoriaeth a llawysgrifau wedi'u digido o'r cyfnod canoloesol ymlaen.

Munich DigitiZation Centre (MDZ). Yn agos i 1 miliwn o lyfrau, llawysgrifau, mapiau a phapurau newydd o un o'r casgliadau digidol mwyaf ac sy'n tyfu gyflymaf yn yr Almaen.

National Library of Scotland. Oriel ddigidol yn cynnwys llyfrau, llawysgrifau, ffotograffau, mapiau a cherddoriaeth, gyda chatalog o ddelweddau symudol yn cynnig mynediad at ffilmiau sy'n adlewyrchu hanes a diwylliant yr Alban.

New York Public Library. Yn agos i 1 miliwn o brintiau, ffotograffau, mapiau, llawysgrifau a fideos.

Project Gutenburg. Y llyfrgell ddigidol hynaf, yn cynnwys 60,000 o e-lyfrau allan o hawlfraint.

Smithsonian Learning Lab. Miliynau o ddelweddau, recordiadau, testunau a fideos digidol y Smithsonian mewn hanes, celf a diwylliant, a'r gwyddorau. Miloedd o enghreifftiau o adnoddau wedi'u trefnu a'u strwythuro ar gyfer addysgu a dysgu gan addysgwyr ac arbenigwyr pwnc.

British History Online. Llyfrgell ddigidol o ffynonellau print gwreiddiol ac eilaidd allweddol ar hanes Prydain ac Iwerddon, gyda'r ffocws pennaf ar y cyfnod rhwng 1300 a 1800. Ein nod yw cefnogi dysgu, addysg ac ymchwil ein defnyddwyr ym mhedwar ban byd.

Casebook: Jack the Ripper. Trawsgrifiadau cyflawn o 6,000 o erthyglau papur newydd cyfoes yn cwmpasu llofruddiaethau Whitechapel, wedi'u categoreiddio yn ôl papur newydd ac awdur.

Survey of Scottish Witchcraft. Cronfa ddata gynhwysfawr o achosion dewiniaeth yn yr Alban.

British Fiction, 1800-1829 a database of production, circulation & reception. Cofnodion llyfryddol o 2,272 o weithiau ffuglen gan o ddeutu 900 o awduron, ynghyd â deunyddiau cyfoes (yn cynnwys cofnodion anecdotaidd, catalogau llyfrgelloedd cylchol, hysbysebion papur newydd, adolygiadau a rhestrau tanysgrifio).

Database of mid-Victorian wood engraved illustrations. Cofnodion a delweddau o ddarluniau llenyddol a gyhoeddwyd yn 1862 ac o ddeutu'r cyfnod hwnnw.

European Sources Online. Gwybodaeth am sefydliadau, strwythurau, gwledydd, rhanbarthau, pobloedd, polisïau a phrosesau'r Undeb Ewropeaidd ac Ewrop yn ehangach. Yn cynnwys erthyglau o bapurau newydd a chyfnodolion, areithiau a dogfennau.

United Nations Digital Library. Un pwynt cyswllt at wybodaeth gyfoes a hanesyddol y CU, yn cynnwys pleidleisiau, areithiau, cyhoeddiadau yn y parth cyhoeddus a mwy. Cyhoeddiadau a dogfennau'r CU wedi'u mynegeio gan Lyfrgell Dag Hammarskjöld y Cenhedloedd Unedig a Llyfrgell Swyddfa'r CU yn Genefa.

United Nations Treaty Collection. Cronfa ddata swyddogol y Cenhedloedd Unedig sy'n cynnwys testun llawn dros 150,000 o gytuniadau dwyochrog ac amlochrog; statws dros 500 o gytuniadau amlochrog mawr wedi’u hadneuo gydag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig; Cyfres Cytuniad Cynghrair y Cenhedloedd Unedig (1920-1944).

Medical Heritage Library. Mynediad at dros 45,000 o lyfrau, cyfnodolion, pamffledi a ffilmiau'n ymwneud â hanes meddygaeth, gyda chyfraniadau o Lyfrgell Wellcome, y Llyfrgell Meddygaeth Genedlaethol, ac Academi Meddygaeth Efrog Newydd.

Wellcome. Miloedd o lyfrau, gweithiau celf, ffotograffau a gwrthrychau amgueddfa digidol yn ymwneud â hanes iechyd a meddygaeth.

Women in Natural History. Gweithiau dethol o'r Llyfrgell Treftadaeth Bioamrywiaeth, a grëwyd gan fenywod a wnaeth gyfraniadau uniongyrchol i astudio Botaneg a Sŵoleg naill ai drwy awduro neu olygu gweithiau ar y pwnc neu ddarparu darluniau hanfodol i gefnogi gweithiau a awdurwyd gan rywun arall.

Casgliad y Werin Cymru. Ffotograffau, recordiadau a dogfennau sy'n cynnwys straeon am Gymru a'i phobl.

Coflein. Catalog o archaeoleg, adeiladau, treftadaeth ddiwydiannol a morwrol yng Nghymru, a gynhelir gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Gellir chwilio'r gronfa ddata yn ôl safle unigol, math o safle, ardal ddaearyddol neu gyfnod amser, yn ogystal â thrwy chwiliadau testun rhydd neu'n ddaearyddol drwy system fapio.

Bywgraffiadur Cymreig. Dros bum mil o fywgraffiadau cryno am unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd cenedlaethol, boed yng Nghymru neu'n ehangach.

Early tourists in Wales. Detholiadau dosbarthedig o dros 1,500 o gofnodion wedi'u cyhoeddi a llawysgrifol o deithiau a llyfrau tywys yng Nghymru, 1700-1900.

Cymru Hanesyddol. Porth mapiau ar gyfer gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Gellir chwilio drwy gannoedd o filoedd o gofnodion archaeoleg, adeiladau ac arteffactau Cymru.

Taith i'r Gorffennol. Ffynonellau ar Gymru mewn ysgrifennu taith hanesyddol o Ffrainc a'r Almaen, yn cynnwys dyddiaduron, llythyrau, llyfrau, cylchgronau a nofelau.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Llawysgrifau wedi'u digido, archifau, deunydd print, lluniau, mapiau, ffotograffau a phrosiectau digidol thematig fel Trosedd a Chosb 1730-1830 a Baledi Cymru Ar-lein. Gellir cyrchu delweddau y gellir eu hailddefnyddio'n rhydd o gasgliadau'r Llyfrgell ar Wikicommons.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Casgliadau celf, gwrthrychau, recordiadau llafar a thrawsgrifiadau'n ymwneud â hanes gwerin Cymru.

Cylchgronau Cymru. Gellir chwilio a chyrchu cyfnodolion yn ymwneud â Chymru a gyhoeddwyd rhwng 1735 a 2007. Teitlau'n amrywio o gyhoeddiadau gwyddonol ac academaidd i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd.

Papurau Newydd Cymru. Gellir chwilio a chyrchu dros 1,100,000 o dudalennau o yn agos i 120 o gyhoeddiadau papur newydd, hyd at 1910 yn gyffredinol.

Mapiau Degwm Cymru. Gellir chwilio a phori drwy dros 300,000 o gofnodion a'u dogfennau dosbarthu ategol yn defnyddio mapiau gwreiddiol a chyfoes.

Adnoddau trwyddedig

Mae'r cronfeydd data canlynol o gynnwys digidol ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd drwy LibrarySearch.

Defining Gender, 1450-1910 five centuries of advice literature online. Dros 100 o lyfrau testun llawn yn dyddio rhwng 1450 a 1910, yn cwmpasu 'ymddygiad a chwrteisi' mewn astudiaethau rhywedd. Hefyd ceir ysgrifau golygyddol ar y pwnc, bywgraffiadau o bobl a grybwyllir, a chronoleg o ddigwyddiadau allweddol yn ymwneud â rhywedd yn y cyfnod 1450 i 1910.

Orlando: women's writing in the British Isles from the beginnings to the present. Hanes ysgrifennu menywod, yn canolbwyntio'n bennaf ar Ynysoedd Prydain, gyda chofnodion bywgraffyddol, o'r 8fed ganrif OC hyd at y presennol.

Women and Social Movements: International 1840 to present. Archif ddigidol yn seiliedig yn wreiddiol ar y syniad o greu archif ar-lein o ffynonellau gwreiddiol a gynhyrchwyd drwy ymgyrchu rhyngwladol gan fenywod, 1840 hyd at y presennol. Mae'n cynnwys trafodion cynadleddau, adroddiadau o sefydliadau menywod rhyngwladol, cyhoeddiadau a thudalennau gwe sefydliadau anllywodraethol menywod, a llythyrau, dyddiaduron ac atgofion menywod oedd yn weithredol yn rhyngwladol ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hefyd yn cynnwys ffotograffau a fideos o ddigwyddiadau ac ymgyrchwyr pwysig yn hanes mudiadau cymdeithasol rhyngwladol menywod.

Early English Books Online. Delweddau tudalennau ffacsimili o fwy neu lai pob gwaith a gyhoeddwyd yng Nghymru, Lloegr, Iwerddon, yr Alban a Gogledd America Brydeinig rhwng 1473 a 1700 - o'r llyfr cyntaf a gyhoeddwyd yn Saesneg gan William Caxton, drwy oes Shakespeare a Rhyfel Cartref Lloegr.

Eighteenth Century Collections Online. Dros 180,000 o destunau chwiliadwy, a gyhoeddwyd rhwng 1701 a 1800. Mae hwn yn cynnwys pob testun arwyddocaol a argraffwyd yn y Deyrnas Unedig, yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill, yn ogystal â miloedd o weithiau o America. Nid yn unig mae’n cynnwys llyfrau, ond hefyd bamffledi, traethodynnau, pregethau ac effemera. Yn Saesneg, Iseldireg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Lladin, Sbaeneg, Cymraeg ac eraill.

International Medieval Bibliography. Mynegeio erthyglau ar bynciau canoloesol mewn cyfnodolion, Festschriften, trafodion cynadleddau a chasgliadau o ysgrifau. Yn cwmpasu pob agwedd ar astudiaethau canoloesol yn y cyfnod 450 - 1500 ar gyfer Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica. Dyfyniadau wedi'u dosbarthu yn ôl dyddiad, pwnc a lleoliad. Mynediad yn gyfyngedig i sefydliadau sy'n tanysgrifio.

Jisc Historical Texts. Archif ddigidol testun llawn sy'n eich galluogi i draws-chwilio, gwylio a lawrlwytho dros 460,000 o destunau a gyhoeddwyd ddiwedd y 15g hyd at y 19g hir o bedwar casgliad allweddol: Llyfrau Saesneg Cynnar Ar-lein (EEBO) (1473-1700); Casgliadau'r Ddeunawfed Ganrif Ar-lein (ECCO) (1701-1800); testunau'r Llyfrgell Brydeinig o'r 19g (BL) (1789-1914); Llyfrgell Treftadaeth Feddygol y DU (UKMHL) (1800s-1900s).

Oxford Dictionary of National Biography. Dros 60,000 o fywgraffiadau, 72 miliwn o eiriau, 11,000 portread o ffigurau sylweddol, dylanwadol neu ddrwg-enwog a ffurfiodd hanes Prydain.

SAGE research methods videos. Tiwtorialau, cyfweliadau, astudiaethau achos fideo, a rhaglenni dogfen byr yn cwmpasu'r broses ymchwil lawn, a channoedd o ddulliau ansoddol, meintiol a chymysg.

African Diaspora 1860 - present. Gellir darganfod mudo, cymunedau ac ideolegau Affricanwyr Alltud drwy leisiau pobl o dras Affricanaidd.

Bibliography of British and Irish History. Data llyfryddol ar ysgrifennu hanesyddol sy’n delio gydag Ynysoedd Prydain, a gydag Ymerodraeth Prydain a’r Gymanwlad, yn ystod yr holl gyfnodau lle mae dogfennaeth ysgrifenedig ar gael - o 55CC hyd heddiw.

English Historical Documents. Y casgliad anodedig mwyaf cynhwysfawr o ddogfennau ffynhonnell gwreiddiol ar hanes Prydain a luniwyd erioed, yn cwmpasu'r blynyddoedd 500-1914, a hanes America hyd at 1776.

LGBT Thought and Culture. Llyfrau, cyfnodolion a deunyddiau archifol sy'n dogfennu mudiadau LGBT gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol drwy gydol yr ugeinfed ganrif hyd heddiw. Mae'r casgliad yn cynnwys dogfennau'n amrywio o lythyrau, areithiau, cyfweliadau ac effemera yn cwmpasu esblygiad gwleidyddol hawliau hoyw yn ogystal ag atgofion, bywgraffiadau, barddoniaeth, llythyrau a gweithiau ffuglen sy'n goleuo bywydau unigolion a'r gymuned lesbaidd, hoyw, trawsryweddol a deurywiol.

Manchester Medieval Sources Online. Mae’n cynnwys cannoedd o dudalennau o ddogfennau hanes canoloesol gwreiddiol a gasglwyd er mwyn astudio ac addysgu’r cyfnod hanesyddol hwn. Mae’n cynnwys llawer o ddogfennau sydd wedi eu cyfieithu i'r Saesneg am y tro cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys mynediad i Medievalportal, porth at adnoddau canoloesol sy’n cynnwys pynciau fel y Pla Du, Merched yn Ewrop Canoloesol, y Croesgadau, ac ati.

Mass Observation Online, 1937-1950. Sefydliad ymchwil cymdeithasol a gasglodd ddyddiaduron ac arolygon a ysgrifennwyd gan wirfoddolwyr, ac a luniodd adroddiadau cryno am eu canfyddiadau.  Mae'r archif yn cofnodi barn pobl bob dydd ar amrywiol faterion, yn cynnwys nwyddau traul, troseddu, addysg, adloniant, teulu, iechyd, tai, incwm, priodas, morâl, newyddion, propaganda, menywod a gwaith.

Medieval and Early Modern Sources Online. Casgliad o olygiadau digidol o destunau yn ymwneud â hanes economaidd, gwleidyddol, cyfreithiol ac eglwysig, fel cyfrifon trysorlys, croniclau, cofrestrau pabyddol ac ati. Daw'r rhan fwyaf o Loegr, Iwerddon a'r Alban, er bod rhai'n dod o Milan, Sbaen a'r Byd Newydd.

Migration to New Worlds. Casgliad o ddeunydd ffynhonnell sylfaenol unigryw sy’n archwilio symudiad pobl o Brydain, Iwerddon, Ewrop ac Asia i'r Byd Newydd ac Awstralasia (1800-1924).

Oxford Bibliographies Online: Atlantic History. Canllawiau ymchwil awdurdodol i ysgolheictod cyfredol gyda sylwebaeth ac anodi gwreiddiol.

Linguistics and Language Behaviour Abstracts. Yn mynegeio erthyglau, llyfrau ac adolygiadau llyfrau ar bob agwedd ar astudiaeth iaith ac ar ddisgyblaethau perthnasol fel anthropoleg, seicoleg a nodweddion arddull. Mae’n cwmpasu’r cyfnod o 1973 ymlaen.

Modern Languages Association: International Bibliography. Catalog o dros 2.7 miliwn o lyfrau ar lenyddiaeth, damcaniaeth lenyddol, celfyddydau dramatig, llên gwerin, iaith, ieithyddiaeth, addysgeg, rhethreg a chyfansoddiad a hanes argraffu a chyhoeddi.

Romanticism. Mae'r casgliad digidol hwn, sy'n cynnwys casgliadau llawysgrifau Ymddiriedolaeth Wordsworth, yn cynnig mynediad unigryw i fyfyrwyr ac ymchwilwyr y cyfnod Rhamantaidd at nodiaduron gwaith, llawysgrifau cerddi a gohebiaeth William Wordsworth a'i gyd-lenorion.

Shakespeare in Performance. Features the world-famous prompt book collection at the Folger Shakespeare Library. These prompt books tell the story of Shakespeare’s plays as they were performed in theatres throughout Great Britain, the United States and internationally, between the seventeenth and twentieth centuries.

Historic Digimap. Sganiau digidol o fapiau papur OS yn cynnwys: yr holl fapiau Cyfres Siroedd sydd ar gael ar gyfraddau 1:2,500 a 1:10560 a gyhoeddwyd rhwng 1843 a 1939; a'r holl fapiau Grid Cenedlaethol sydd ar gael ar raddfeydd 1:1,250, 1:2,500 a 1:10560/10,000 a gyhoeddwyd ar ôl 1945 a chyn cyflwyno cynnyrch Llinell Tir digidol yr Arolwg Cenedlaethol.

British Library Newspapers: 1732-1950. Dros 20 miliwn o dudalennau chwiliadwy o dros 700 o deitlau papurau newydd o'r DU ac Iwerddon.

Daily Mail Historical Archive 1896-2004. Erthyglau testun llawn o'r Daily Mail (1896-2004) a rhifyn y Daily Mail Atlantic (1923-1931). Yn cynnwys ysgrifau ar y Daily Mail.

Daily Mirror Digital Archive. Archif ddigidol chwiliadwy lawn y Daily Mirror o 1903 i'r presennol.

Illustrated London News Online. Cynnwys llawn (1842-2003) papur newydd darluniadol cyntaf y byd. Mae’r archif yn cynnwys dros 260,000 o dudalennau, ac yn rhoi darlun byw o ddigwyddiadau Prydain a’r byd, yn rhychwantu rhyfeloedd, trychinebau, y teulu brenhinol, materion cymdeithasol, y celfyddydau a gwyddoniaeth.

Nexis UK. Cronfa ddata papur newydd gynhwysfawr, sy’n cael ei diweddaru’n ddyddiol, gyda mynediad testun llawn i bob papur newydd cenedlaethol yn y DU, yn ogystal â phapurau newydd rhanbarthol, darparwyr newyddion rhyngwladol (gan gynnwys The International Herald Tribune, The New Yorker, USA Today, India Today a’r Japan Times) a nifer o gyfnodolion a chylchgronau masnach. Mae gan y rhan fwyaf o deitlau archif ugain mlynedd.

Times Digital Archive. Facsimili testun cyflawn o dros 200 mlynedd o The Times, gyda phob tudalen o bob rhifyn rhwng 1785 a 2014.