Ewch i’r prif gynnwys

Dewiniaeth a chredoau cysylltiedig

Yn y cyfnod modern cynnar roedd dewiniaeth yn cael ei weld fel trosedd ac roedd yn ganolbwynt prif dreialon ac erledigaeth o wahanol raddfeydd drwy gydol Prydain ac Ewrop modern cynnar.

Denodd drafodaeth eang a phryder difrifol, gan gynhyrchu nifer sylweddol o ysgrifeniadau a phamffledi yn trafod y pwnc a’i system gred ehangach.

Mae Casgliadau Arbennig yn ffodus iawn i gadw amrywiaeth eang o ddeunydd yn trafod y pwnc a’i agweddau niferus. Mae’r canllaw adnoddau wedi’i ddylunio i amlygu’r adnoddau hyn yn ogystal â’r rheiny sy’n gysylltiedig a gwahanol agweddau credoau dewiniaeth. Mae'r rhain yn cynnwys crefydd, ofergoeledd a chythreuliaeth ac yn ganllaw cynhwysfawr i’r system gredoau eang ond cymhleth hon.

Dewiniaeth

Llyfrau, traethodynnau a phamffledi yn archwilio treialon dewiniaeth, hud a gwirioneddau swyngyfaredd.

Crefydd

Detholiad o lenyddiaeth ddefosiynol a didactig yn cyfleu themâu yn berthnasol i gredoau dewiniaeth, fel tröedigaethau, rhyfela ysbrydol ac ymddygiad Cristnogol priodol.

Protestaniaeth

Gweithiau amrywiol am Brotestaniaeth, ei rôl fel y 'gwir grefydd' a sut wnaeth rai dilynwyr bardduo credoau arall, yn enwedig Catholigiaeth.

Gwrth-Gatholigiaeth

Detholiad o lyfrau a thraethodynnau gwrth-Gatholig yn cyflwyno Catholigiaeth fel crefydd baganaidd gydag elfennau pechadurus ac ar adegau hudol.

Anffyddiaeth

Detholiad o weithiau o ddiwedd y 17eg ganrif a dechrau'r 18fed ganrif a gafodd eu hysgrifennu i atal twf cynyddol anffyddiaeth gan aildanio’r drafodaeth am wirionedd dewiniaeth a rhithiau.

Cythreuliaeth

Ysgrifeniadau amrywiol ar gythreuliaeth neu'r theori sy'n sail i gredoau dewiniaeth.

Ofergoeliaeth

Gweithiau yn cyfleu a thrafod natur ofergoeliaeth a chredoau amrywiol ofergoelus o’r 16eg i’r 19eg ganrif.

Hud ac Astroleg

Llyfrau a phamffledi ynglŷn ag agweddau amrywiol yn ymwneud ag astroleg a hud o'r 16g i'r 18g.

Proffwydoliaeth

Gweithiau amrywiol yn ymwneud â phroffwydoliaeth, thema allweddol yng nghredoau crefyddol a dewiniaeth fodern gynnar.

Dewiniaeth yng Nghymru

Mae gwybodaeth am gredoau dewiniaeth yng Nghymru, gan gynnwys ofergoelion amrywiol, credoau mewn ysbrydion, tylwyth teg, y diafol, gweledigaeth, breuddwydion, a drychiolaethau i'w weld mewn amrywiaeth o ffynonellau o'r 16eg ganrif i'r 20fed ganrif gynnar.